Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 10 Mehefin 2020.
Byddwn hefyd yn tyfu ac yn cefnogi swyddi ar gyfer y dyfodol drwy uwchsgilio ac ailsgilio i gynorthwyo cyflogwyr i addasu a thrawsnewid eu sylfaen sgiliau er mwyn cynnal a thyfu cyflogaeth. Ac un flwyddyn yn unig ers ei lansio'n swyddogol, mae Cymru'n Gweithio wedi cynorthwyo mwy na 31,500 o bobl yn uniongyrchol, a thros 6,000 o bobl ifanc a oedd yn chwilio am gymorth cyflogadwyedd. Mae'r gwasanaeth hwnnw, wrth gwrs, wedi newid o ganlyniad i'r coronafeirws, ond nid dyna'r unig newid rydym yn ei wneud.
Ar 20 Mai, amlinellodd y Gweinidog Addysg gynllun gwytnwch i'r sector ôl-16 er mwyn rhoi fframwaith clir i ddarparwyr addysg ar gyfer cynllunio a chyflawni ein hymateb cyflogadwyedd a sgiliau. Ar gyfer prentisiaid, rydym wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau eu bod yn gallu parhau i symud ymlaen drwy eu dysgu. Ac ar gyfer ein dysgwyr hyfforddeiaeth, rydym wedi datblygu pecynnau dysgu digidol ac wedi cynnal eu lwfansau hyfforddi.
Mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol yn addasu hefyd wrth gwrs. O ran eu cyflawniad, maent yn newid er mwyn darparu allgymorth i'n cymunedau mwyaf bregus, gan gefnogi'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, yn cynnwys pobl anabl, pobl heb lawer o sgiliau, ac unigolion o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A hyd yn hyn, maent wedi cefnogi 47,600 o bobl; mae 17,900 o'r rheini wedi cael gwaith cyflogedig. Ac i'r rhai sydd mewn gwaith, mae Cronfa Ddysgu'r Undebau, gyda chymorth Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn darparu—[Anghlywadwy.]—a chymorth uniongyrchol i weithwyr yn ystod ac ar ôl yr argyfwng coronafeirws.
Rwyf am sôn am rai pwyntiau penodol a wnaethpwyd gan Aelodau: yn gyntaf oll, y cwestiwn o rôl i gynulliad dinasyddion. Nawr, yma yng Nghymru, mae gennym fodelau unigryw iawn o bartneriaeth gymdeithasol ac mae'n rhaid inni ddiogelu'r cyfraniad y mae ein partneriaid cymdeithasol yn ei wneud yn helpu i lywio a llunio polisi. Ni ddylem danseilio ein model partneriaeth gymdeithasol yn anfwriadol. Mae gennym gomisiynwyr hefyd. A thrwy'r gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain, rydym yn galw am syniadau, arloesedd a chreadigrwydd gan bawb—pawb—o'n dinasyddion a'n sefydliadau. Ac felly, er nad ydym yn diystyru'r rôl bosibl i gynulliad dinasyddion, ni ddylai danseilio na dyblygu'r model cymdeithasol o bartneriaeth rydym wedi gallu ei ddatblygu yma yng Nghymru.
O ran y sector tafarndai, rwy'n cytuno'n llwyr fod tafarnau yn gwbl greiddiol i lawer o'n cymunedau. Ac rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cefnogi tafarnau annibynnol, bragdai annibynnol a'r sefydliadau sy'n dod â phobl at ei gilydd. Rydym yr un mor benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi'r sector bwyd a diod; mae nifer o'r Aelodau wedi nodi hynny. Bu twf aruthrol mewn allforion yn ddiweddar o fewn busnesau bwyd a diod Cymru, ac rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr fod y llwyddiant hwnnw'n parhau, oherwydd mae llawer o'r busnesau hynny ymhlith ein brandiau mawr eu bri ac yn chwifio baner Cymru.
Nawr, nododd Mike Hedges yn gywir y rôl y bydd seilwaith cymdeithasol yn ei chwarae yn y gwaith adfer a nododd, yn enwedig theatrau. Nawr, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r adferiad i uno pobl, i wella cydlyniant cymdeithasol, ac felly ar ddechrau cyfnod y coronafeirws roeddem wedi ymrwymo i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i ganolfannau iechyd newydd, i wella sefydliadau diwylliannol, megis adnewyddu Theatr Clwyd ac eraill, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i'n rhaglen hynod uchelgeisiol o adfer, adnewyddu a chreu seilwaith cymdeithasol newydd.
Hoffwn gyffwrdd â phwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth i'r hunangyflogedig. Rwy'n croesawu—gadewch i mi fod yn gwbl glir; rwy'n croesawu—y ddau gynllun. Maent wedi bod yn hanfodol bwysig wrth gefnogi pobl a busnesau yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ond ni ellir eu tynnu'n ôl yn gynamserol. Ni allwn ganiatáu i bobl a busnesau wynebu ymyl clogwyn o ran y cymorth a gynigir drwy'r cynlluniau hyn.
Mewn ymateb i David Rowlands, bydd cymorth ar gael i bobl o bob oed, nid yn unig i bobl ifanc, ond i bobl o bob oed. Ac yn benodol y tro hwn—ac nid oedd ar gael yn ôl yn y cyfnod ar ôl 2008—mae gennym Cymru'n Gweithio, un pwynt cyswllt a fydd yn cynnig cymorth pwrpasol wedi'i deilwra ar gyfer pob unigolyn yr effeithir arnynt gan ddiweithdra neu gan y bygythiad o ddiweithdra.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym yn awyddus i wneud mwy nag ymadfer o'r pandemig hwn; rydym am adeiladu nôl yn well drwy greu economi genedlaethol sy'n gweld cyflogaeth, cyfoeth a ffyniant yn lledaenu'n fwy cyfartal, yn decach, ledled Cymru, ac ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid cymdeithasol yn y gwaith a wnawn. Mae egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol yn llywio penderfyniadau'r Llywodraeth hon. Bydd COVID-19 yn ailffurfio'r economi yn sylfaenol, ac felly mae'n golygu nad oes modd mynd yn ôl—ac ni ddylem fynd yn ôl. Mae camgymeriadau polisi y gorffennol—cyni a phreifateiddio yn anad dim—a orfodwyd ar Gymru yn y blynyddoedd cyn datganoli, ac ers hynny yn wir, wedi ein gadael yn fwy agored i ergydion fel coronafeirws.
Tra'n bod yn sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau ac incwm aelwydydd yn ystod yr argyfwng hwn, bwriadwn fachu ar y foment hon fel ffenestr unigryw o gyfle i ailadeiladu ein cymdeithas a'n heconomi fel y dymunwn eu gweld. Felly, wrth adeiladu nôl yn well, ein nod yn y tymor hir yw economi wydn sydd â lles pobl a'r amgylchedd yn ganolog iddi.
Rwy'n croesawu'n fawr y syniadau sydd wedi'u cynnig heddiw. Dim ond dechrau yw hyn, gobeithio, ar ddeialog adeiladol ar draws y pleidiau a chyda llu o gyrff, sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru.