Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 10 Mehefin 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, ac rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle hwn i ymateb iddynt. Ers cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer y modd y bwriadwn ddychwelyd i'r drefn arferol, neu mor normal â phosibl, yma yng Nghymru, ar 15 Mai, rydym wedi bod yn cynllunio'r camau nesaf, ac mae'n bwysig ein bod yn paratoi ar gyfer y dyfodol sydd o'n blaenau. Rwy'n credu bod pob Aelod yn y Siambr rithwir heddiw yn gytûn ar hyn.
Rydym bob amser wedi bod yn glir fod yn rhaid i'n dull o lacio cyfyngiadau fod yn seiliedig ar wyddoniaeth a hefyd, fod yn rhaid i ddiogelwch gweithwyr fod ar flaen y penderfyniadau a wnawn. Rwyf wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â chyngor partneriaeth gymdeithasol y gwrthbleidiau, a byddaf yn parhau i wneud hynny, er mwyn trafod y materion rydym yn eu rhannu a'r mesurau y gallwn eu cyflwyno er mwyn parhau â'n hymateb i'r ffordd rydym yn ymdrin â COVID-19. A fy ngorchwyl i, wrth gwrs, yw sicrhau, pan fydd yr amser yn iawn, fod ein busnesau, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n system sgiliau yn barod, nid yn unig i addasu a phontio ar gyfer bywyd wedi'r coronafeirws, ond yn hollbwysig, ein bod yn barod ac yn abl ac yn awyddus i adeiladu nôl yn well er mwyn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro, rydym wedi rhoi'r pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU ar waith i fusnesau yng Nghymru—gwerth £1.7 biliwn o gymorth i gyd. Ond nid oes modd osgoi dirwasgiad, ac felly mae'n rhaid sicrhau cymorth digynsail i bobl yr effeithir arnynt yn y tymor hwy yn sgil y coronafeirws.
Ar hyn o bryd, gwyddom fod tua thraean o'r gweithlu yn ddi-waith neu ar ffyrlo yma yng Nghymru, gyda mwy o swyddi mewn perygl, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y math o siâp fydd i'r adferiad yn y pen draw. Ac fel mewn dirwasgiadau blaenorol, fel y nododd Helen Mary Jones ar y dechrau, y bobl fwyaf agored i niwed yn y farchnad lafur fydd yn cael eu taro galetaf, a phobl ifanc yw un o'r grwpiau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n anghymesur.
Nawr, mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, ac felly ein gweledigaeth yw cefnogi dychweliad y gweithlu presennol, ailgychwyn taith gwaith yr unigolyn ac ailsgilio unigolion i ddychwelyd i sectorau newydd, tra'n paratoi gweithlu'r dyfodol. Byddwn yn blaenoriaethu cymorth i bobl ifanc er mwyn lleihau'r cynnydd mewn diweithdra ymysg ieuenctid ac i ddiogelu pobl ifanc rhag yr effeithiau niweidiol hirdymor y gall cyfnod hir o ddiweithdra eu cael.
Drwy Twf Swyddi Cymru, rwy'n credu ein bod wedi dangos yn deg ac yn ddigonol ac yn falch iawn ein parodrwydd a'n gallu i helpu pobl ifanc i osgoi diweithdra hirdymor. Mewn rhai rhannau o Loegr, rhwng 2010 a 2015, gwelsom ddiweithdra hirdymor ymysg pobl ifanc yn cynyddu filoedd y cant, ond yma yng Nghymru, oherwydd Twf Swyddi Cymru, mewn rhai rhannau o'n gwlad, gwelsom gwymp dros y cyfnod hwnnw mewn diweithdra hirdymor ymysg pobl ifanc. Felly, byddwn yn defnyddio'r cynllun hwnnw a chynlluniau eraill i gefnogi'r genhedlaeth hon o bobl ifanc.
Byddwn hefyd yn defnyddio ein hymyriadau ail-gyflogi yn awr. Byddwn yn defnyddio ReAct, Cymorth Gwaith Cymru a'r rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i helpu pobl yn ôl i waith yn gyflym, tra bydd ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol yn darparu cymorth dwys i'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur.