8. Dadl Plaid Cymru: Yr Economi a COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 10 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:36, 10 Mehefin 2020

Mae'r elfennau, wrth gwrs, yn y cynnig yma yn rhoi rhai o'r sylfeini i ni ar gyfer beth sydd, yn ei hanfod, yn weithredu bargen werdd newydd i Gymru. Rŷn ni wedi clywed yr enghraifft yn gyson yn ystod y ddadl hyd yma ynglŷn â retroffitio tai, ac, wrth gwrs, mae'n enghraifft berffaith, onid yw hi, o'r llinell waelod driphlyg yna—y tripple bottom line yna—sydd angen inni ffocysu arni wrth inni adfer ein bywydau yn y cyfnod ôl-COVID-19? Mae'n rhoi manteision ac enillion a buddiannau amgylcheddol inni wrth leihau ôl troed carbon ein cartrefi ni ar draws Cymru, mae'n dod â buddion economaidd hefyd, wrth gwrs, drwy greu swyddi newydd a busnesau newydd ymhob rhan o'r wlad, a buddion cymdeithasol hefyd, sy'n helpu i daclo tlodi tanwydd, gwella iechyd pobl na fydd bellach, wrth gwrs, yn byw mewn tai tamp ac oer, a gobeithio hefyd yn achub bywydau wrth leihau marwolaethau ychwanegol y gaeaf—y winter excess deaths rŷn ni'n clywed amdanyn nhw bob gaeaf.