Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 10 Mehefin 2020.
Nawr, mae'r term 'bargen newydd werdd', wrth gwrs, yn deillio o Fargen Newydd Roosevelt yn America y 1930au. A phan oedd y Dirwasgiad Mawr ar ei waethaf, roedd tri nod i'w fargen newydd: darparu rhyddhad i'r tlodion, darparu adferiad economaidd, ac wrth gwrs, diwygio systemau ariannol fel na fyddai dirwasgiad economaidd yn digwydd eto. Felly, rhyddhad, adferiad, diwygiad. Ac yn sgil hynny buddsoddodd y Gyngres wedyn mewn rhaglenni a roddodd waith i'r di-waith, a gwaith a oedd yn cyflawni diben yn y gymdeithas, megis adeiladu ffyrdd, adeiladu ysgolion, ysbytai ac ati. Ac mae'r syniadau sylfaenol hyn yr un mor ddilys heddiw. Ond yn gyntaf, mae'n rhaid inni ymwrthod â'r ysfa i dorri gwariant—ni all hyn fod yn ddechrau ar ail gyni ariannol, oherwydd gwyddom yn union beth y mae hynny'n ei olygu, a beth yw'r pris y mae'n rhaid i bobl ei dalu am ddull o'r fath o fynd ati. Mae'n rhaid i'r fargen newydd werdd arwain at fuddsoddi, a buddsoddi'n benodol, wrth gwrs, mewn prosiectau sy'n helpu i fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd a natur.
A hoffwn dynnu sylw pobl at astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen a oedd yn cymharu prosiectau ysgogi gwyrdd â chynlluniau ysgogi traddodiadol, megis rhai o'r camau a gymerwyd ar ôl argyfwng ariannol byd-eang 2008. Canfu'r ymchwil honno fod prosiectau gwyrdd mewn gwirionedd yn creu mwy o swyddi, eu bod yn darparu enillion tymor byr uwch am bob punt a werir gan y Llywodraeth, a'u bod yn arwain at arbedion cost cynyddol yn y tymor hir. Ac wrth gwrs, nid oes rhaid i ddim o hyn aros. Mae gennym gynlluniau parod allan yno yn awr yng Nghymru, boed yn rhaglenni effeithlonrwydd ynni a grybwyllwyd gennym eisoes, prosiectau ynni adnewyddadwy—mae morlyn llanw bae Abertawe yn enghraifft amlwg, gyda phrosiectau dilynol posibl o amgylch rhannau eraill o arfordir Cymru yn ogystal—gan sefydlu, o'r diwedd, y rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan sydd eu hangen arnom ledled Cymru, ailgynllunio ffyrdd ar gyfer mwy o deithio llesol, amddiffyn rhag llifogydd, plannu coed. Mae Cymru'n barod ar gyfer y math hwnnw o fuddsoddiad.
Nawr, hoffwn ddweud ychydig eiriau yn ogystal am y sector bwyd a diod yng Nghymru, nid wisgi'n unig, gyda llaw, ond y sector cyfan yma. Oherwydd rwy'n credu mai nawr yw'r amser i ni ailfeddwl, ailosod ac ailadeiladu ein system cyflenwi bwyd yng Nghymru, o'r gwaelod i fyny. Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi caniatáu i'n diwydiant manwerthu bwyd ddod yn fwy canoledig, i bwynt lle rydym yn gweld pedwar cwmni'n unig bellach yn rheoli 70 y cant o farchnad fanwerthu bwyd y DU. Ac mae canoli pŵer ymysg ychydig o fanwerthwyr bwyd mawr yn y fath fodd wedi rhoi pŵer digynsail iddynt i bennu prisiau is i ffermwyr, a gwanhau iechyd ariannol amaethyddiaeth ddomestig a'r economi wledig ehangach yn barhaus. Ac o ganlyniad i hyn, mae diogelwch ein cyflenwad bwyd wedi gwaethygu mewn gwirionedd, gyda'r DU bellach yn mewnforio bron i 40 y cant o'r holl fwyd a ddefnyddiwn. Ac mae'r model hwnnw'n wallus. Ac roedd eisoes ar drywydd peryglus, hyd yn oed cyn COVID-19. Ac nid wyf wedi sôn am Brexit hyd yn oed, sy'n rhoi rheswm arall pam fod rhaid gyrru'r gwaith o ail-lunio ein system fwyd a chreu mwy o gydnerthedd yn wyneb ansicrwydd pellach.
Felly, mae angen inni ganolbwyntio o'r newydd ar ddatblygu galluoedd prosesu i ychwanegu gwerth at gynnyrch crai. Rydym wedi gweld colli lladd-dai a ffatrïoedd prosesu llaeth, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu, wrth gwrs, fod cannoedd o swyddi wedi'u colli, fod miloedd o filltiroedd bwyd wedi'u hychwanegu, a bod cynhyrchwyr bwyd sylfaenol wedi dod yn fwy agored byth i effaith marchnadoedd byd-eang.
Felly, mae angen inni symud oddi wrth system 'mewn union bryd' at system 'rhag ofn', a thrwy gefnogi datblygiad galluoedd prosesu lleol, mae angen inni ddechrau datganoli cynhyrchiant bwyd. Mae angen inni ei wneud yn decach, mae angen inni ei wneud yn fwy cynaliadwy, ac wedi hynny, wrth gwrs, helpu i adeiladu economi leol gryfach. Ond mae angen i'r Llywodraeth wneud iddo ddigwydd, ac os dysgwn un wers o'r pandemig hwn, rhaid inni weld y gall Llywodraethau gael effaith drawsnewidiol mewn gwirionedd, ond dim ond pan fyddant yn ewyllysio hynny. Ac nid yw'r trawsnewid hwnnw, wrth gwrs, yn ymwneud â thwf economaidd yn unig, mae'n ymwneud â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'n ymwneud â chydraddoldeb, diogelu bywoliaeth pobl, rhoi diwedd ar fanciau bwyd, atal hunanladdiad, bod yn gyfrifol yn fyd-eang—mae'n ymwneud â hynny i gyd—a dyma'r foment i'w wneud.