Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Does yna ddim byd yn fy synnu, dwi ddim yn meddwl, am y cynnig yma gan y Brexit Party. Mae'n blaid sydd wedi bod ag Aelodau yn gwadu pob math o bethau yn y gorffennol: effaith dyn ar newid amgylcheddol; effaith ysmygu ar ganser, hyd yn oed. Felly, er dwi'n siŵr nad dyma'u bwriad, mae yna beryg iddyn nhw gael eu gweld yn fan hyn fel petaent yn gwadu'r peryg gwirioneddol sydd yna o hyd yn deillio o'r feirws yma.
Mi ddechreuaf efo lle dwi yn cytuno efo nhw—dwi yn reit hyderus bod pawb yn cytuno mewn gwirionedd—sef ein bod ni eisiau symud allan o'r cyfyngiadau presennol. Dyna le rydyn ni gyd yn dymuno mynd. Ac, yn wir, dwi fy hun wedi galw ar y Llywodraeth i wthio a herio eu tystiolaeth eu hunain drwy'r amser i wneud yn siŵr nad oes yna ddim pethau y gallem ni fod yn eu gwneud yn ddiogel i roi rhyddid yn ôl i bobl, caniatáu gweithgaredd economaidd sydd ddim yn cael eu caniatáu ar hyn o bryd—ond y gair 'diogel' ydy'r un allweddol yn y fan yna. A beth sy'n gyfan gwbl ar goll o'r cynnig yma ydy unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch ac iechyd y cyhoedd.
Fel dywedais i, rydyn ni ym Mhlaid Cymru eisiau codi cyfyngiadau hefyd. Rydyn ni'n sylweddoli faint o straen ar lesiant pobl mae hyn wedi bod ac yn parhau i fod, faint o straen economaidd, a ddylai cyfyngiadau ddim aros yn hirach na sy'n rhaid iddyn nhw. Ond mae galw am gyflymu heb gyfeirio at y cwestiwn o, 'A ydy hynny'n ddiogel?' yn hollol anghyfrifol. Beth fuaswn i'n ei ddweud ydy bod eisiau symud mor gyflym ag sy'n bosib, cyn belled â bod hynny yn ddiogel.
Beth dwi'n sicr yn meddwl sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru ydy llawer mwy o gynllunio ymlaen a llawer mwy o dryloywder ynglŷn â beth ydy eu gweledigaeth nhw a'r map o'n blaenau ni. Rydym ni'n dilyn patrwm tair wythnos, a dwi ddim yn credu bod hynny'n ddigon. Dwi'n meddwl dylai y Llywodraeth fod wedi cynnig rhaglen mwy phased, fel mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi'i wneud, er enghraifft, yn nodi beth fyddai'r Llywodraeth yn gobeithio gallu ei wneud o ran codi cyfyngiadau a chaniatáu ailgydio mewn gweithgarwch economaidd dros gyfnod o fisoedd, efo cafeat mawr y gallai pethau newid.
Dwi'n siarad efo busnesau yn fy etholaeth i drwy'r amser, a'r ansicrwydd sydd efallai wedi bod fwyaf anodd iddyn nhw mewn llawer ffordd. Enghraifft i chi o heddiw: mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi heddiw y bydd tafarndai a bwytai yn cael agor—y tu allan yn gyntaf—ar 3 Orffennaf, os dwi'n cofio'n iawn, ac yna i agor o dan do rhyw 10 diwrnod wedyn. Mi fuaswn i wrth fy modd pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried amserlen debyg hefyd, a chyhoeddi hynny cyn gynted â phosib. Ond y gwahaniaeth rhwng fy safbwynt i a safbwynt y Brexit Party ydy dwi dim ond eisiau iddo fo ddigwydd os ydy'r Llywodraeth yn gallu cael ei hargyhoeddi bod o'n ddiogel, a hefyd i egluro os dydyn nhw ddim yn credu ei bod nhw'n gallu cymryd y cam hwnnw, ac i osod amserlen amgen cyn gynted â phosib. Mae eglurder o'r math yna yn allweddol.
Wrth i ni, gobeithio, symud at godi cyfyngiadau, mae yna nifer o bethau sy'n rhaid eu rhoi mewn lle. Eto, dwi'n meddwl bod y Brexit Party yn anghyfrifol wrth beidio â chyfeirio atyn nhw. Y mesur mwyaf allweddol ydy cael cyfundrefn profi ac olrhain cadarn er mwyn gwarchod y cyhoedd a gosod seiliau ar gyfer codi cyfyngiadau. Dwi'n bryderus mai yn nyddiau cynnar y profi ac olrhain ydym ni. Mi ddylai hyn wedi bod yn rhan ganolog o'r strategaeth i frwydo yn erbyn COVID-19 drwy gydol yr amser, yn unol ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd.
Dwi am orffen drwy gyfeirio at y gymhariaeth wnaeth David Rowlands wrth agor y ddadl yma. Rydym ni'n cymryd risg wrth yrru car, meddai fo, ond dydym ni ddim yn stopio pobl rhag gyrru. Nac ydym, ond mi ydych chi'n trio gwneud ceir yn fwy diogel, rydych chi'n gosod cyfyngiadau ar gyflymder, rydych chi'n gosod rheolau ffordd fawr, ac rydych chi'n gorfod pasio'ch prawf cyn gallu mynd tu ôl i'r llyw. Ac, ar hyn o bryd, rydym ni i gyd yn dal i ddysgu. Dwi'n meddwl bod y math yna o agwedd gan y Blaid Brexit yn crynhoi mor ffwrdd-â-hi ydyn nhw efo'r cynnig yma.
Dwi'n feirniadol o'r Llywodraeth mewn sawl ffordd—am ddiffyg eglurder ac am symud yn rhy araf mewn rhai meysydd, yn cynnwys bod yn rhy araf yn mynd i mewn i lockdown yn y lle cyntaf. Ond dwi hefyd yn feirniadol ryfeddol o Lywodraeth Lloegr am deyrnasu dros drychineb o ran cyfraddau marwolaethau uchel, a sut y buasai Aelodau o'r Brexit Party a'r Ceidwadwyr eisiau dweud mai'r flaenoriaeth rywsut ydy i fod yr un fath â Lloegr—dwi'n methu cweit â deall hynny, ac mae'n awgrymu i fi bod ideoleg unoliaethol, o bosib, yn bwysicach nag iechyd y cyhoedd iddyn nhw.