Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 24 Mehefin 2020.
Mae adroddiad Centre for Towns hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod effaith COVID-19 ar gymunedau Cymru wedi'i gwaethygu gan yr anghydraddoldebau strwythurol sy'n bodoli'n barod nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â hwy. Dengys yr adroddiad fod cymunedau'r Cymoedd a threfi glan y môr yng Nghymru, megis y Rhyl, Glynebwy a Maesteg, ymysg y rhai mwyaf agored i'r dirywiad economaidd a achoswyd gan COVID-19. Wrth gwrs, mae llawer o'r lleoedd hyn yn dal i fod heb ymadfer o'r newid macroeconomaidd o economi ddiwydiannol i un sydd wedi'i dominyddu gan gyflogaeth sgiliau uchel, coler wen neu fanwerthu. Fel y gwyddom eisoes, roedd angen buddsoddi'n sylweddol mewn rhai o'r trefi cyn-ddiwydiannol ac arfordirol hyn eisoes, cyn argyfwng y feirws, ac mae angen buddsoddiad allweddol yn awr yn fwy nag erioed.
Nawr, roedd datganiad yr wythnos diwethaf hefyd yn cyflwyno argymhellion petrus ar gyfer ailagor rhannau o'r diwydiant twristiaeth, ac roedd y cyhoeddiad yn cadarnhau y gall darparwyr llety hunangynhwysol ddechrau paratoi ar gyfer ailagor yn yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, yr adborth a gefais gan weithredwyr twristiaeth yn Sir Benfro yw y bydd hon yn her fawr mewn gwrionedd. Bydd angen i fusnesau twristiaeth baratoi asesiadau risg, a phe bai gwestai, er enghraifft, yn datblygu symptomau COVID-19 tra byddant ar wyliau, bydd yn rhaid i'r darparwr ganiatáu i'r gwestai aros a hunanynysu. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain at fwy o gwestiynau nag atebion i rai gweithredwyr—er enghraifft, pwy sy'n talu am arhosiad estynedig rhywun yn ynysu mewn fflat neu fwthyn hunanarlwyo? Pwy sy'n digolledu'r gwesteion na fydd yn gallu archebu o ganlyniad i arhosiad estynedig?
Mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn werth £3 biliwn i'n heconomi, ac mae angen datrys y mathau hyn o gwestiynau a llawer mwy cyn y gall gweithredwyr fod yn hyderus y gallant agor eu drysau. Mae'r cwestiynau hyn i ddarparwyr llety hunangynhwysol a'r diffyg cefnogaeth ac eglurder i gynifer o bobl sy'n gweithredu yn y sector twristiaeth yn parhau i beri pryder mawr. Felly, wrth ymateb i'n dadl y prynhawn yma, efallai y gall y Gweinidog ymrwymo i gyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer y sector twristiaeth yn y tymor byr, canolig a hir, gyda gwybodaeth glir, dyraniadau cyllid clir a manylion clir ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r busnesau hynny wrth symud ymlaen.
Nawr, rwyf wedi mynychu cyfres o fforymau busnes ar-lein i drafod yr heriau cyffredinol sy'n wynebu busnesau yn fy ardal fy hun, ac rwyf wedi mynychu cyfres o fforymau busnes ar-lein yn arbennig ar gyfer busnesau twristiaeth yn fy etholaeth. Mae canlyniad y trafodaethau hynny'n glir: mae angen mwy o gefnogaeth, mae angen mwy o gyfathrebu a mwy o eglurder. Ac nid busnesau twristiaeth yn unig sy'n ei chael hi'n anodd, ac sy'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n parhau i gael gohebiaeth gan gwmnïau cyfyngedig un cyfarwyddwr sy'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn eu cydnabod, heb sôn am eu cefnogi. Rwyf hefyd wedi derbyn gohebiaeth gan bartneriaethau busnes sydd, unwaith eto, yn dweud wrthyf nad yw Llywodraeth Cymru yn eu cydnabod nac yn gweithio gyda hwy. Swyddi pobl, eu hincymau a'u bywoliaeth yw'r rhain, felly y lleiaf y maent yn ei haeddu yw gwrandawiad go iawn a chael cynnig rhywfaint o gymorth i helpu eu busnesau i oroesi.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cronfa adfer ar gyfer y meysydd yr effeithir arnynt fwyaf gan COVID-19 yn economaidd, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru anfon datganiad clir i'r cymunedau hyn eu bod yn cael eu blaenoriaethu a bod y cymorth hwnnw ar y ffordd. Rydym hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i greu parthau heb ardrethi busnes yn y cymunedau hyn ac i gael gwared ar ardrethi busnes i bob busnes yn y parthau hynny, ni waeth beth fo'u gwerth, er mwyn hybu cyflogaeth ar ôl y pandemig. Rwy'n annog y Llywodraeth felly i ystyried rhinweddau hyn hefyd. Cryfheir adferiad Cymru ar ôl COVID-19 os gall Llywodraeth Cymru weithio gyda phob plaid, ac nid yw ein cymunedau'n haeddu llai na hynny.
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn gyffwrdd arno yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus. Nid oedd cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn dweud unrhyw beth am effaith y newidiadau a gyhoeddwyd ar ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, ac felly byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gynnal trafodaethau ar frys gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i ganfod sut y bydd angen i wasanaethau newid yn sgil ailagor rhai busnesau ac ysgolion, o gofio y bydd angen i bobl gyrraedd rhai o'r busnesau hyn, a bydd angen i blant gyrraedd ysgolion. Rwy'n sylweddoli bod rhywfaint o arian wedi'i roi i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer moddau teithio cynaliadwy a llesol yn eu hardaloedd mewn ymateb i argyfwng COVID-19, ond oherwydd yr angen i gydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol a diffyg cymorth pellach i'r diwydiant bysiau, bydd yn anodd iawn i ddarparwyr ddarparu gwasanaethau ychwanegol. Felly, rwy'n gobeithio y ceir ymrwymiad pellach i'r diwydiant bysiau er mwyn i ddarparwyr allu dechrau cynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod modd cludo defnyddwyr yn effeithiol ac yn effeithlon.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai o'r pryderon sy'n dal i fod gan fusnesau ledled Cymru, ac yn sefydlu dulliau cyfathrebu ac arweiniad cliriach i'r diwydiant busnes fel y gall Cymru ddechrau ailadeiladu ei heconomi unwaith eto. Diolch.