Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 24 Mehefin 2020.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Lywydd, fe aethom i mewn i'r cyfyngiadau symud fel Teyrnas Unedig ac fel pedair gwlad, ac rwy'n credu ei bod yn niweidiol iawn i economi Cymru, yn anffodus, ein bod ni'n llacio'r cyfyngiadau mewn ffordd ranedig. Ddoe, gwelsom Brif Weinidog y DU yn cyhoeddi ei fod yn llacio canllawiau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol ac yn ailagor y sector lletygarwch. Wrth gwrs, ar gyfer Lloegr oedd hynny. A bydd hyn yn caniatáu i rannau o'n heconomi, mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig, ailagor mewn ffordd bwyllog a gofalus.
Yn ddiddorol iawn, roedd pob un o brif swyddogion meddygol y DU yn unfryd eu barn y dylid gostwng lefel y rhybudd COVID-19. Nawr, nid wyf am un eiliad yn awgrymu bod rhai o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i Lywodraethau eu gwneud yn hawdd—dim o bell ffordd. Ond rwy'n credu'n gryf fod angen adolygiad o'r rheol 2m, ac ymddiried yn ein cymuned fusnes a'r cyhoedd i weithredu'n gyfrifol, gyda synnwyr cyffredin. Felly rwy'n credu mai fy neges yw: gadewch i ni ymddiried yn ein busnesau. Ac mae'r adborth a gaf gan fy etholwyr, mewn etholaeth ar y ffin fel Sir Drefaldwyn, yn dangos bod pobl yn galw'n daer am ddull unedig a chydgysylltiedig o godi cyfyngiadau economaidd ledled y DU.
Un o sectorau allweddol economi canolbarth Cymru, wrth gwrs, yw lletygarwch a'r diwydiant hwnnw. Sylwaf fod adroddiad gan Sefydliad Bevan yn dangos bod cefn gwlad Cymru ymhlith y rhannau o Gymru lle mae nifer uwch o fusnesau wedi'u cau oherwydd COVID-19. Felly, rwy'n meddwl bod angen uchelgais a gobaith ar fusnesau, ac maent yn daer eisiau rhywbeth, ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi arweiniad a gobaith i lawer o'n busnesau llai yn arbennig. Mae llawer o fusnesau lletygarwch a thwristiaeth yn barod i gyflwyno mesurau cadw pellter priodol ac ailagor eu safleoedd, ond rwy'n credu bod yr ansicrwydd a'r dryswch yn gwthio ein diwydiant lletygarwch at ymyl y dibyn, yn anffodus. Un enghraifft yw'r newyddion trist fod Castell Howell, un o'n cwmnïau bwyd mwyaf yng Nghymru, wedi cyhoeddi efallai y bydd yn rhaid iddo ddiswyddo hyd at 700 o bobl os nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu eglurder a chynllun clir cyn gynted â phosibl.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i mi grybwyll y farchnad dai—mater a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan werthwyr tai. Unwaith eto, mae llawer o'r gwerthwyr tai sy'n gweithredu yn fy etholaeth yn gweithio ar draws y ffin, yng Nghymru ac yn Lloegr. Ac mae gwerthwyr tai, yn ddealladwy, yn mynnu bod gennym ddull gweithredu ar lefel y DU, gan nad yw pobl yng Nghymru yn gallu mynd i mewn i eiddo oni bai ei fod yn wag. Ac nid wyf yn siŵr pam na allem fod wedi symud i gynnal ymweliadau dangos tai yn y ffordd honno mewn modd unedig. Nid yw perchnogion tai yng Nghymru yn gallu gwerthu, ac mae gan werthwyr yn Lloegr fantais.
Un arall a ddioddefodd yn ystod y pandemig, yn anffodus, yw Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru, sydd wedi bod yn rhan eiconig o economi canolbarth Cymru am yn agos at 60 mlynedd. Dechreuodd Laura Ashley a'i gŵr y busnes hwnnw ychydig i fyny'r ffordd o'r fan lle cefais fy magu yng Ngharno, a chyflogai 550 o staff ffyddlon a medrus iawn bellach, neu roedd hynny'n wir ar ddechrau'r flwyddyn.
Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi cyflwyno datganiad ar hyn yn gynharach y prynhawn yma, felly efallai fod hynny'n rhoi cyfle i'r Gweinidog roi sylw i'r ffordd y mae'n credu y gall rhai o'r bobl sydd wedi colli eu swyddi yn ystod yr wythnosau diwethaf gael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn credu mai'r pandemig ynddo'i hun sydd i gyfrif am ddiwedd y cwmni hwnnw; rwy'n credu bod problemau eraill yno hefyd, ond rwy'n siŵr fod yr hyder economaidd yng Nghymru, sydd wedi cael ei niweidio gan y pandemig, wedi gosod pwysau sy'n tanseilio gallu prif swyddogion gweithredol Laura Ashley i ddod o hyd i gefnogwr ariannol yn ystod y cyfnod economaidd ansicr hwn. Ac rwy'n credu y bydd sgil-effeithiau COVID-19 i'w teimlo ym mhob rhan o Gymru am beth amser i ddod.
Wrth i mi ddirwyn fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd, gwrandewais ar gyfraniad Helen Mary, ac mae'n ddrwg gennyf na all Plaid Cymru gefnogi ein cronfa adfer, ond clywais lawer o'r hyn a ddywedodd Helen Mary—roedd yna lawer y gallwn gytuno arno yn fy marn i. Ni all ein gwlad fforddio syrthio ymhellach ar ôl gweddill y DU, felly hoffwn annog Llywodraeth Cymru yn daer i beidio â microreoli'r economi. Rhaid inni fod yn ddigon dewr i ailagor ein heconomi mewn ffordd bwyllog a gofalus. Ac rwyf am orffen gyda brawddeg a ddywedodd Michael Plaut wrth Meirion Morgan yn eu hadroddiad diweddar ar ran Gorwel:
Nid yw dyfodol Cymru yn eiddo i'r gwangalon, mae'n eiddo i'r dewrion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.