Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn sicr, nid dyma'r amser i ddatod y cysylltiadau â Llywodraeth y DU, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi fforddio'r gronfa cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws, neu'n wir, y gronfa i'r hunangyflogedig, y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati. Felly, ni fyddaf yn cefnogi cynigion Plaid Cymru. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, ac mae angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi'r wyddoniaeth, y cyngor gwyddonol diogel ar gyfer datgloi ein heconomi heb weld ail don, a fyddai, ynddo'i hun, yn gwbl drychinebus i'n heconomi.
Felly, o edrych ar adroddiad Centre for Towns, sydd yng nghynnig y Ceidwadwyr, rwy'n cytuno bod angen inni ymgysylltu â chlybiau diwylliannol, hamdden a chwaraeon lleol i ddeall yr hyn y bydd ei angen arnynt i ddechrau gweithredu'n ddiogel eto. Mewn llawer o achosion, rwy'n cytuno mai'r sefydliadau hyn yw conglfaen llawer o'n trefi, a gwyddom fod prosiectau diwylliannol lleol yn ffyrdd effeithiol o ddod â phobl yn ôl i ganol trefi yn hytrach na mynd i siopa y tu allan i'r dref. Dyna'n sicr fu profiad llefydd fel Castell-nedd, gyda'i gwyliau cerddorol dros y tair blynedd diwethaf. Ac yn sicr, fel cynrychiolydd o Gaerdydd, rwy'n gwbl ymwybodol fod digwyddiadau mawr iawn fel Pride Caerdydd, ein digwyddiadau chwaraeon mawr, y cyngherddau gan grwpiau enwog yn y Motorpoint Arena fel arfer yn denu pobl i'n prifddinas o weddill Cymru ac ymhell y tu hwnt i hynny. Ac nid wyf dan unrhyw gamargraff o gwbl mai nawr yw'r amser i ailddechrau'r mathau hynny o weithgareddau hyd nes y bydd gennym frechlyn. Felly, mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol.
Mae dinas Caerdydd yn enwog am ei sector cerddoriaeth annibynnol, nid dim ond Clwb Ifor Bach a busnesau eraill o gwmpas Stryd Womanby, ond y Globe, y Gate, y Tramshed, a hyd at 18 mis yn ôl, Gwdihŵ, a gafodd eu troi allan o Gilgant Guildford ar ôl degawd o gerddoriaeth wych er mwyn gwneud lle i ddatblygwyr. Ac rwy'n ofni ei bod yn anochel y bydd y fwlturiaid yn hofran yn awr yn barod i bigo ar fusnesau bregus er mwyn eu hysgubo ymaith a rhoi datblygiadau di-wyneb yn eu lle. Felly, rhaid inni fod yn effro i hynny a diogelu canol y dref.
Neithiwr, euthum ar y beic i ganol y ddinas i weld y gwaith gwych sy'n mynd rhagddo gan Gyngor Caerdydd o amgylch Castell Caerdydd i'w baratoi fel canolfan ddiwylliannol yr haf hwn ar gyfer cerddoriaeth, bwyta allan, rhannu diod a chael sgwrs â ffrindiau. Ac mae defnyddio castell sy'n agos at ganol y ddinas yn rhywbeth rwy'n meddwl y gallai Caerffili a Chonwy ei ystyried fel model, gan fod gan y ddau le gestyll hardd yng nghanol eu trefi, y gellid eu defnyddio mewn ffordd debyg. Felly, gallwn weld sut y bydd hyn yn gweithio'n dda ar gyfer perfformiadau cerddoriaeth, sy'n gymharol hawdd i'w cynnal yn yr awyr agored, ond ni allwn anghofio'r celfyddydau ehangach.
Beth am y clybiau comedi a'r theatrau sydd angen mannau awyr agored addas er mwyn perfformio? Llwyddodd y Rhufeiniaid a'r Elisabethiaid i berfformio eu dramâu yn yr awyr agored; a allai ein stadia pêl-droed weithredu fel mannau ar gyfer y celfyddydau perfformio hefyd? A allem ddefnyddio eu meysydd parcio sylweddol fel sinemâu gyrru i mewn? Mae pob un o'n sefydliadau diwylliannol dan fygythiad, ac ofnaf fod yr adroddiad ar ganol y dref braidd yn hunanfodlon wrth ddweud mai'r sefydliadau mwyaf sydd â'r adnoddau gorau i alw am gymorth, ac felly, y dylem ganolbwyntio'n unig ar y clybiau llai a'r cyfleusterau celfyddydol sy'n cael eu gadael ar ôl. Gwyddom fod ein heiconau diwylliannol cenedlaethol, fel Canolfan Mileniwm Cymru, mewn perygl hefyd, oherwydd yn y wlad hon, ledled y DU, dibynnwn ar sefydliadau diwylliannol i gael y rhan fwyaf o'u cyllid drwy werthu tocynnau. Daw 85 y cant o refeniw Canolfan Mileniwm Cymru o werthiant tocynnau, a rhagwelir y bydd yn colli £15 miliwn o werthiannau tocynnau, a £5 miliwn arall o nawdd masnachol a gwerthiannau. Felly, ni allaf ddychmygu sut y cawn y math hwnnw o arian gan Lywodraeth Cymru; rydym yn mynd i fod yn ddibynnol ar sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwybod beth yw gwerth ein diwylliant, ac nid y gost yn unig.
Felly rwy'n gobeithio y gallwn uno i sicrhau bod ein sefydliadau diwylliannol yn cael eu diogelu, ac nad ydym yn gweld ymdrechion i ddefnyddio hyn fel cyfle i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol yn cael eu gorfodi i leihau eu maint, fel y gwelsom gyda'r BBC, lle mae toriadau eisoes yn cael eu trafod mewn perthynas â thros 60 o staff BBC Cymru Wales. Mae gwir angen i ganol ein trefi fod yn ganolfannau bywiog ar gyfer diwylliant a dod at ei gilydd, yn ogystal â siopa.