1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi Blaenau'r Cymoedd? OQ55336
Mae'r ffaith bod cynigydd a ffefrir wedi'i benodi ddydd Gwener ar gyfer adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n werth £500 miliwn, yn garreg filltir bwysig yn nyfodol yr economi yn y rhan honno o Gymru. Bydd yn sicrhau manteision economaidd a chymunedol mewn cyfnod o adfer ar ôl y coronafeirws. Ac o'r £500 miliwn hwnnw, disgwylir £170 miliwn o fewn y gadwyn gyflenwi leol yn unig.
Brif Weinidog, rwy'n ddiolchgar am hynny, ac wrth gwrs rydym hefyd yn dal i aros i orffen y rhan rhwng Gilwern a Bryn-mawr, ac rwy'n credu y bydd hynny'n cael ei groesawu pan fydd hwnnw wedi'i gwblhau. Ond rydym i gyd yn cydnabod effaith ddynol y coronafeirws a gwyddom fod cefnogaeth eang a dwfn eisoes i'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn. Ond mae angen i ni barhau i ddarparu'r cymorth hwn i bobl ar gyfer y cyfnod ar ôl COVID, a'r hyn a fydd yn digwydd i gyflogaeth yn enwedig bryd hynny. Ym Mlaenau Gwent, gwyddom i gyd am bobl sy'n ofni colli eu swyddi; gwelwn yr ansicrwydd ynghylch dyfodol parc yr ŵyl yng Nglynebwy, a gwyddom fod angen buddsoddi ar frys o hyd mewn safleoedd strategol, megis Rasa neu Ryd-y-Blew. Felly, hoffwn ofyn i chi weithio gyda mi ac Aelodau eraill sy'n cynrychioli'r etholaethau hyn, i ddarparu cynllun swyddi ar gyfer Blaenau'r Cymoedd a fydd yn sicrhau cyflogaeth ar unwaith ac yn y tymor hir.
Lywydd, diolch i Alun Davies am y gyfres bwysig honno o gwestiynau. Bydd yn falch o wybod, ac rwy'n gwybod y bydd ei etholwyr yn falch o wybod, fod 85 y cant o'r rhan o ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Gilwern a Bryn-mawr bellach wedi'i chwblhau, er gwaethaf yr heriau gwirioneddol, yr heriau daearegol a fu yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n bryderus, fel y mae ef, rwy'n gwybod, am safle parc yr ŵyl yng Nglynebwy, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol yno i weld beth y gellir ei wneud i roi sylw i'r cyhoeddiadau a wnaed yr wythnos diwethaf. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â'n cynllun ar gyfer y clwstwr uwch-dechnoleg ar y safle gwaith cyfagos ac yn paratoi safleoedd eraill er mwyn iddynt fod mewn sefyllfa dda i ddenu swyddi i ardal Blaenau Gwent.
Ond i ymateb am funud, Lywydd, i'r pwynt cyffredinol a wnaeth Alun Davies: dylem ni—bob un ohonom—fod yn bryderus am yr effaith y mae coronafeirws yn ei chael ar swyddi. Rwy'n meddwl am brofiad 30 mlynedd rhai cymunedau yng Nghymru i ymadfer ar ôl yr 1980au a'r colli swyddi bwriadol yn y cymunedau hynny ar y pryd; nid yw coronafeirws yn weithred fwriadol wrth gwrs, ond gall ei effaith fod yn ddirfawr. Ac rwyf eisiau rhoi sicrwydd i Alun Davies, ac i eraill, y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n ddi-baid yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ar wneud popeth yn ein gallu i gefnogi cyflogaeth yn yr ardaloedd hynny, fel y gallwn osgoi'r graith ar bobl ifanc yn arbennig, mewn rhannau penodol o Gymru, gymaint ag y gallwn, drwy gydgysylltu ein gweithredoedd gyda rhai pobl eraill i gefnogi'r economïau a'r swyddi lleol hynny.
Leanne Wood. Eich microffon, Leanne Wood.
Diolch. Brif Weinidog, gyda newyddion yr wythnos hon fod 15 o bobl yn mynd ar drywydd pob swydd yn y Rhondda, a hynny'n dilyn y newyddion fod dwy o'r trefi yn y rhestr o 20 tref fwyaf agored i broblemau economaidd yn sgil COVID, mae'n amlwg fod angen cynllun swyddi penodol ar gyfer y Rhondda. Rydym eisoes wedi clywed sut rydym angen system ddraenio gynaliadwy newydd, sut rydym angen strategaeth ar blannu coed ar raddfa fawr, ac rydym angen pethau fel ynni adnewyddadwy hefyd. A allwch ddweud wrthym pa fuddsoddiad rydych yn bwriadu ei wneud yn seilwaith y Rhondda, a sut y bwriadwch wrthdroi'r sefyllfa lle mae pobl yn y Rhondda wedi cael eu hanwybyddu gan Lywodraethau olynol yng Nghymru a'r DU ers yr 1980au?
Wel, Lywydd, mae'n wirion awgrymu bod pobl y Rhondda wedi cael eu hanwybyddu; yn sicr, nid ydynt. Ac os ydynt, fe fydd hi'n gofyn i'w hun beth y mae hi wedi'i wneud, fel cynrychiolydd yr ardal honno, i unioni'r sefyllfa. Ni fyddai'n gyflawniad balch iawn pe bawn i fel cynrychiolydd yn sefyll a dweud bod fy ardal wedi cael ei hanwybyddu, ac nid yw wedi cael ei hanwybyddu—mae'n gwybod nad yw hynny'n wir.
Ond hoffwn ymateb i'r pwynt sylweddol a synhwyrol a wnaeth, sef bod yn rhaid i ni bryderu am y rhannau o Gymru sy'n arbennig o agored i ddirywiad economaidd. Rydym yn gweithio'n galed iawn yn Llywodraeth Cymru i ddod ag arian cyfalaf ynghyd, a phrosiectau cyfalaf ynghyd, fel ein bod, os bydd Llywodraeth y DU, fel rydym yn gobeithio, yn ymateb yn natganiad y Canghellor ym mis Gorffennaf drwy wneud cyfres newydd o fuddsoddiadau mewn seilwaith i greu swyddi, ond i greu amodau ar gyfer y dyfodol, ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i gael prosiectau'n barod i ddefnyddio'r arian hwnnw a'i ddefnyddio er lles cymunedau ledled Cymru, gyda phwyslais arbennig ar y mannau lle bydd effaith coronafeirws i'w deimlo fwyaf. Ac mae hynny'n sicr yn cynnwys y Rhondda, ac yn sicr mae'n cynnwys nifer o'r mesurau y soniodd Leanne Wood amdanynt yn rhan agoriadol ei chwestiwn. Gall fod yn dawel ei meddwl fod y pethau hynny'n rhan bwysig o'n meddylfryd ac y byddant yn parhau i fod felly.