Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:40 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch am eich ateb. Mae nifer o ffermwyr wedi cysylltu â mi, mae'n rhaid i mi ddweud, a hwythau ychydig bunnoedd yn brin, yn llythrennol, o gyrraedd y trothwy o 25 y cant o ostyngiad yn eu hincwm, a fyddai wedyn yn eu gwneud yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth wrth gwrs. Ond mae’r rhain yn ffermwyr sydd wedi wynebu colledion sylweddol, ond wedi hynny, nid ydynt yn cael unrhyw beth, dim cymorth o gwbl, oherwydd, wrth gwrs, maent yn parhau i fod yn anghymwys ar gyfer pob cynllun cymorth arall, a'r gronfa cadernid economaidd yn fwyaf arbennig.
Nawr, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnwys mesur COVID-19 yng nghronfa amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig, ac mae Aelodau o Senedd Ewrop bellach wedi pleidleisio i roi cyfandaliad untro o €7,000 i ffermwyr, gyda hyd at 2 y cant o gyllideb y cynllun datblygu gwledig, ynghyd â chydgyllido gyda chronfeydd yr UE, wedi’i ganiatáu ar gyfer y mesur hwn. Felly, a wnewch chi ystyried rhoi’r mesur hwn ar waith fel y gallwn helpu i leddfu'r problemau llif arian ar gynifer o ffermydd Cymru?