Y Cynllun Cymorth i Ffermwyr Godro Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:39 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 12:39, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Agorodd y cynllun cymorth i ffermwyr godro ar 18 Mehefin i gefnogi’r ffermwyr sydd wedi eu taro galetaf gan amodau eithriadol y farchnad yn sgil COVID-19. Bydd gan ffermwyr cymwys hawl i hyd at £10,000 i'w helpu i barhau i dalu costau sefydlog ac i gynnal capasiti cynhyrchu, heb effeithiau ar les anifeiliaid a'r amgylchedd.