Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:03 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch yn fawr iawn i chi. Roedd hi'n siomedig iawn, iawn bod Aelodau Seneddol Ceidwadol sy'n cynrychioli seddi gwledig yng Nghymru, yn cynnwys Ynys Môn, wedi pleidleisio'n ddiweddar yn erbyn gwelliant i'r Bil Amaeth oedd yn ceisio gwarchod buddiannau ffermwyr Cymru, a pwrpas y gwelliant oedd mynnu bod cynnyrch amaethyddol fyddai'n cael ei fewnforio yn y dyfodol dan gytundebau masnach post Brexit yn gorfod cadw at yr un safonau amgylcheddol a llesiant â ffermwyr yma, a heb y sicrwydd yna, mae ffermwyr a chwsmeriaid yn cael eu tanseilio. A gaf i ofyn i'r Gweinidog wthio eto, felly, am sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y bydd yn rhaid i bob cynnyrch amaethyddol gaiff ei werthu yma gadw at safonau uchel ein ffermwyr ni? Mae'n amlwg bod Boris Johnson a'i Aelodau fo yng Nghymru yn barod i aberthu yr economi wledig, ond mae'n rhaid i ni yng Nghymru, y sector ffermwyr, yr undebau, y gwleidyddion, wneud popeth i drio gwrthsefyll hynny.