3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
4. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil Amaeth? OQ55321
Diolch. Rwyf wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU drwy gydol datblygiad y Bil Amaethyddiaeth. Mae pwerau Gweinidogion Cymru wedi'u cynnwys ar fy nghais, ac mae swyddogion yn craffu'n ofalus ar ddarpariaethau drafft.
Diolch yn fawr iawn i chi. Roedd hi'n siomedig iawn, iawn bod Aelodau Seneddol Ceidwadol sy'n cynrychioli seddi gwledig yng Nghymru, yn cynnwys Ynys Môn, wedi pleidleisio'n ddiweddar yn erbyn gwelliant i'r Bil Amaeth oedd yn ceisio gwarchod buddiannau ffermwyr Cymru, a pwrpas y gwelliant oedd mynnu bod cynnyrch amaethyddol fyddai'n cael ei fewnforio yn y dyfodol dan gytundebau masnach post Brexit yn gorfod cadw at yr un safonau amgylcheddol a llesiant â ffermwyr yma, a heb y sicrwydd yna, mae ffermwyr a chwsmeriaid yn cael eu tanseilio. A gaf i ofyn i'r Gweinidog wthio eto, felly, am sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y bydd yn rhaid i bob cynnyrch amaethyddol gaiff ei werthu yma gadw at safonau uchel ein ffermwyr ni? Mae'n amlwg bod Boris Johnson a'i Aelodau fo yng Nghymru yn barod i aberthu yr economi wledig, ond mae'n rhaid i ni yng Nghymru, y sector ffermwyr, yr undebau, y gwleidyddion, wneud popeth i drio gwrthsefyll hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr â Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n ei sicrhau fy mod yn parhau i wthio hynny. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Eluned Morgan, sy'n arwain ar y polisi masnach ar ran Llywodraeth Cymru, yn gwneud yr un peth, oherwydd yn amlwg, mae hyn yn perthyn i faes y polisi masnach hefyd. Mae fy nghyfarfod pedairochrog DEFRA nesaf yr wythnos nesaf, a byddaf yn parhau—. Ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at George Eustace; oddeutu 12 Mehefin, rwy’n credu. Nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw eto, ond byddaf yn parhau i wthio a byddaf yn ei godi yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
Weinidog, bydd gan Fil Amaethyddiaeth y DU sy'n mynd drwy Senedd y DU oblygiadau i ffermwyr ledled y DU wrth gwrs, a deallaf eich bod yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn tuag at ddiwedd y flwyddyn a fydd yn nodi'r cyd-destun ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil amaethyddiaeth Cymru. A allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni, felly, ar hynt y Papur Gwyn hwnnw, a phryd rydym yn debygol o'i weld yn cael ei gyhoeddi? Ac a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y trafodaethau rydych wedi'u cael hyd yn hyn gyda chymuned ffermio Cymru mewn perthynas â'r Papur Gwyn penodol hwnnw?
Diolch. Fel y dywedwch, rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn erbyn diwedd y flwyddyn. Cafodd y gwaith ei oedi, am gwpl o fisoedd yn ôl pob tebyg, ar ddechrau pandemig COVID-19, pan fu'n rhaid i swyddogion weithio ar hynny wrth gwrs, ond rydym bellach yn ôl i'n capasiti llawn mewn perthynas â’r gwaith hwnnw. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael dau ymgynghoriad trylwyr, sy'n amlwg wedi ein cynorthwyo i baratoi’r papur hwn. Unwaith eto, fel rhan o'r Papur Gwyn, roeddem yn edrych ar ffurf ein cynlluniau. Nid ydym wedi gallu cael yr ymweliadau wyneb yn wyneb y byddem wedi dymuno’u cael, ond yn sicr, rydym yn gallu ei wneud ar-lein. Felly, bydd y papur hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae'r gwaith bellach yn ôl i'r lefel roeddem ei eisiau; yn amlwg, cafwyd bwlch wrth i’r swyddogion fynd i'r afael â phandemig COVID-19. Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn destun sgwrs bob tro y byddaf yn cyfarfod ag undebau’r ffermwyr, a soniais mewn ateb cynharach fy mod yn cyfarfod ag undebau’r ffermwyr yn llawer amlach yn ystod y pandemig. Buom yn cyfarfod yn wythnosol am gyfnod, ond rydym bellach mewn rhythm o gyfarfod bob pythefnos, ond mae'n rhywbeth sy'n cael ei drafod bob amser. Mae hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn y cyfarfod bwrdd crwn ar drefniadau pontio'r UE rwy’n ei gynnal gyda rhanddeiliaid, ac unwaith eto, caiff ei drafod yn drylwyr, nid yn unig gan undebau’r ffermwyr, ond gan eraill sydd â diddordeb, gan gynnwys y sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol.
Rwy'n cytuno â phawb—gyda Rhun yn enwedig—fod yn rhaid i'r Bil Amaethyddiaeth gynnwys gwarantau cyfreithiol na fydd safonau amgylcheddol lles anifeiliaid yn cael eu torri mewn cytundebau masnach ar ôl Brexit gyda'r UDA, nac unrhyw un arall o ran hynny.
Mae pob un ohonom wedi gweld y penawdau am gyw iâr wedi'i glorineiddio, ond mae gennym broblemau gyda ffermydd cyw iâr yng Nghymru, yn benodol ym Mhowys, gyda'r cyngor yn rhoi caniatâd i bedair fferm arall, ac yn dweud na fydd moratoriwm ar geisiadau cynllunio. Mae'n peri pryder mawr i mi mai un swyddog cynllunio yn unig, ym mis Ionawr, fydd yn penderfynu ar bob cais cynllunio sydd angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ym Mhowys, nid pwyllgor cynllunio'r cyngor. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryderon eisoes am effaith amgylcheddol gronnol ffermydd cyw iâr ar goetiroedd hynafol a dŵr daear, ac rwyf wedi codi'r mater hwn sawl tro fy hun. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi edrych ar y sefyllfa ym Mhowys ac asesu'r angen i geisiadau cynllunio ystyried y ffermydd presennol a'r baich ar yr amgylchedd lleol a'r gymuned?
Diolch, Joyce Watson. Os caf ddweud un peth am gyw iâr wedi'i glorineiddio, gan fod hyn yn rhywbeth y mae llawer o bobl wedi ysgrifennu ataf yn ei gylch. Ar hyn o bryd, mae wedi'i wahardd yn yr UE ac nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y dylai'r sefyllfa honno newid. Felly, mae'n gyfle i mi ddweud hynny wrth inni ddechrau datblygu cysylltiadau masnach â gwledydd eraill y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynghylch ffermydd dofednod, lle mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer siediau dofednod newydd, mae'n rhaid iddynt ystyried manteision economaidd ac effeithiau amgylcheddol y cynigion, ac mae hynny'n cynnwys effaith gronnol cynyddu nifer y datblygiadau. Rydym yn edrych ar sut y mae awdurdodau cynllunio lleol yn cynllunio ar gyfer datblygiadau dofednod newydd, ac rydym wedi cynnull gweithgor cynllunio gwlad a thref ar ffermio dwys i gynghori ar sut y dylid paratoi polisïau cynlluniau datblygu a'r ystyriaethau perthnasol sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid yw'r system gynllunio'n gweithredu ar ei phen ei hun, a bydd cyfundrefnau rheoleiddiol eraill, megis trwyddedu amgylcheddol a niwsans statudol, yn rheoli effaith y datblygiadau hyn ar yr ardaloedd lleol hefyd.