Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:04 pm ar 24 Mehefin 2020.
Rwy'n cytuno'n llwyr â Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n ei sicrhau fy mod yn parhau i wthio hynny. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Eluned Morgan, sy'n arwain ar y polisi masnach ar ran Llywodraeth Cymru, yn gwneud yr un peth, oherwydd yn amlwg, mae hyn yn perthyn i faes y polisi masnach hefyd. Mae fy nghyfarfod pedairochrog DEFRA nesaf yr wythnos nesaf, a byddaf yn parhau—. Ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at George Eustace; oddeutu 12 Mehefin, rwy’n credu. Nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw eto, ond byddaf yn parhau i wthio a byddaf yn ei godi yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.