Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:24, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r hyn rydych newydd ei ddweud. Fel y crybwylloch chi yn eich ateb yn y fan honno, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y system profi, olrhain, diogelu, ond mae rhai wedi nodi y dylid ychwanegu elfen arall at y cynllun hwnnw, sef 'cymorth'. Mae'n amlwg bod cyflogau isel, gwaith ansicr a—wel, y methiannau yn y system les, wedi tanseilio effeithiolrwydd hunanynysu fel mesur iechyd y cyhoedd yn sylweddol. Nawr, mae'n bosibl fod llawer o weithwyr ledled Cymru a ddylai fod yn hunanynysu yn teimlo o dan bwysau gan gyflogwyr gwael, neu oherwydd pwysau ariannol, i barhau i weithio yn lle hynny. A gaf fi ofyn pa waith rydych yn ei wneud gyda Gweinidog yr economi i sicrhau y gellid teilwra pecyn cymorth llawn ar gyfer unrhyw un y gofynnir iddynt hunanynysu, gan y bydd hynny, yn anochel, yn lleihau'r baich ar awdurdodau lleol sy'n cydlynu cymaint o'r system olrhain cysylltiadau?