Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch. Yn olaf, Weinidog, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda byrddau iechyd i gydgysylltu rhaglenni prawf gwrthgyrff ar gyfer athrawon a staff y GIG. Nid oes unrhyw breswylwyr na staff cartrefi gofal wedi cael y profion gwrthgyrff hynny hyd yma. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yng Ngwent, mae achosion o COVID-19 mewn ysbytai wedi gostwng yn sylweddol, ond yn yr wythnos ddiwethaf roedd achosion newydd mewn 29 o gartrefi gofal. Nawr, mae'n ddigon posibl fod rheswm da dros beidio â darparu'r profion hyn, ond gan fod y sector gofal wedi teimlo eu bod wedi cael eu bradychu mor aml yn ystod y pandemig, ac wedi talu'n ddrud oherwydd hynny, a allech chi egluro pam nad ydych yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu profion gwrthgyrff i staff cartrefi gofal ar hyn o bryd, gan y gallai canlyniadau'r profion hynny ein helpu i ddeall lefelau'r cysylltiad â'r feirws y mae cartrefi gofal wedi bod yn eu hwynebu dros yr wythnosau diwethaf?