6. Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:28, 24 Mehefin 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser gennyf siarad yn y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Cyllid. Gwnaeth y pwyllgor gyfarfod i ystyried y gyllideb atodol yma ar 4 Mehefin, ac dwi'n nodi sylwadau cadarnhaol, cychwynnol, beth bynnag y Gweinidog i'r argymhellion yn yr adroddiad, ac rŷm ni'n edrych ymlaen at dderbyn yr ymateb ffurfiol.

Ond fel mae'r Gweinidog yn dweud, mae'r gyllideb atodol hon yn cael ei chyflwyno yn ystod cyfnod digynsail. Mi oedd y Senedd yma eisoes wedi pasio’r gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21 cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno ei chyllideb hithau, felly roeddem ni yn disgwyl i'r gyllideb atodol yma nodi cyllid canlyniadol. Ond wnaeth neb erioed ragweld newidiadau mor sylweddol fel y rhai rŷm ni wedi eu gweld yn sgil y pandemig COVID-19.

Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn cynyddu adnoddau cyllidol Llywodraeth Cymru £2.3 biliwn, ac mae'r rhan fwyaf o hynny’n deillio o gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig â’r penderfyniadau polisi a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymateb i COVID-19. Mae ein hadroddiad ni'n cynnwys nifer o argymhellion, ac fe wnaf i gyfeirio’n gryno at y prif feysydd rheini heddiw.

Mae llawer o'n hargymhellion ni yn ymwneud â'r trefniadau gweithio rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Fel pwyllgor, rŷm ni’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn gynharach ynghylch penderfyniadau mawr sy'n effeithio ar Gymru, a rhoi mwy o sicrwydd o ran y cyllid fydd yn cael ei ddarparu. Mae'r pwyllgor hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried a chyflwyno achos i'r Trysorlys ynghylch a yw’r fformiwla ariannu yn adlewyrchu’n ddigonol effaith COVID-19 ar Gymru o'i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Fe drafododd y pwyllgor yr ysgogiadau, neu'r levers ariannol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac fe ddywedodd y Gweinidog wrth yr Aelodau ei bod wedi cysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ofyn am bwerau i drosglwyddo cyfalaf presennol i refeniw, ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd o ran y terfynau blynyddol ar gronfa wrth gefn Cymru ac o fewn y terfynau cyffredinol ar fenthyca cyfalaf. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r Gweinidog yn y ceisiadau hyn. Nawr, mi fydd y pwyllgor yn cael tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at fynd i'r afael, gydag ef, a rhai o'r materion yma hefyd.

Wrth ymateb i’r pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ailddyrannu cyllid, gyda £256 miliwn yn cael ei ddychwelyd i'r gronfa ganolog. Mae hyn yn cynnwys y sefyllfaoedd hynny lle na fu’n bosib defnyddio cyllid a oedd wedi'i gynllunio, yn ogystal â’r gostyngiad mewn cyllid ar gyfer rhai cyrff, fel Cyfoeth Naturiol Cymru—ac rŷm ni wedi clywed hynny'n cael ei grybwyll yn gynharach y prynhawn yma—a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Er bod y pwyllgor yn derbyn y bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn sgil yr ymateb i COVID-19, mae'r pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnal deialog barhaus gyda sefydliadau sy’n wynebu gostyngiadau yn eu cyllid.

Mae'r gyllideb atodol yn gwneud nifer o ddyraniadau newydd, hefyd, yn enwedig i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a'r economi. Mae'r pwyllgor yn sylweddoli y bydd angen gwneud rhagor o ddyraniadau yn ystod y flwyddyn i ymateb i COVID-19, felly mae wedi gwneud nifer o argymhellion ym maes iechyd, gan gynnwys ynghylch datgomisiynu ysbytai maes, darparu’r strategaeth profi, olrhain a diogelu a'r costau ychwanegol gwirioneddol a rhagamcanol ar gyfer byrddau iechyd lleol o ganlyniad i COVID-19.

Wrth edrych i’r dyfodol at y cyfnod adfer o'r pandemig, mae'n amlwg y bydd angen cefnogi'r economi ac rŷm ni, fel pwyllgor, yn awyddus i ddeall sut y gall Llywodraeth Cymru gyflymu gwaith yn y maes hwn a rhoi ffocws ar gefnogi canol trefi. Mae gan y pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn gwybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyllid a ddarperir i gynorthwyo'r broses adfer o COVID-19 yn canolbwyntio ar adferiad gwyrdd. Er enghraifft, sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd modd adeiladu ar y newidiadau cadarnhaol i drafnidiaeth sydd wedi deillio o'r pandemig? Rŷm ni hefyd eisiau deall mwy am y modd y mae rôl y Cwnsler Cyffredinol yn y broses adfer yn cyd-fynd â rôl y Gweinidog cyllid.

Yn olaf, fe wnaethom ni ystyried cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae'n hawdd colli golwg ar y dyddiad cau sydd ar y gorwel a ninnau wedi canolbwyntio gymaint ar COVID-19, ac mae'n amlwg bod angen mynd i'r afael â hyn yn ogystal. Mae'r pwyllgor yn pryderu bod y pandemig COVID-19 yn cyfyngu'n ddifrifol ar staff Llywodraeth Cymru a’r adnoddau ariannol sydd ar gael i baratoi at ddiwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, a'i gallu i gefnogi’r sector amaethyddiaeth, i gefnogi busnesau a dinasyddion gyda’r newidiadau posib. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ni fod ganddi gyllid wrth gefn yn ystod y flwyddyn wedi’i ddal yn ôl hyd nes ceir rhagor o eglurder, mi fyddem ni'n croesawu rhagor o fanylion am y senarios cynllunio sy'n cael eu hystyried a'r cyllid sydd ei angen. Gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch i'r Senedd am ei gwrandawiad?