Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 24 Mehefin 2020.
Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi cael ei wneud gan y Gweinidog Cyllid a'i chyd-Aelodau ar yr adeg hynod amhosibl hon. Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym ac yn ystwyth i'r argyfwng wrth iddo ddatblygu dros y misoedd diwethaf, ac mae'r cyllid wedi'i ddarparu'n uniongyrchol i'r rheng flaen. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny yn y dyraniadau rydym yn eu trafod y prynhawn yma. Credaf y dylem hefyd gydnabod bod Llywodraeth y DU, at ei gilydd o leiaf, wedi gallu darparu cymorth ychwanegol i gynnal swyddi a chyflogaeth. Ac mae hyn oll i'w groesawu yn fy marn i.
Mae dau bwynt yr hoffwn eu gwneud yn y ddadl y prynhawn yma, Lywydd: yn gyntaf, ynglŷn â'r strwythurau cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac yn ail, y flaenoriaeth a roddir yn y flwyddyn ariannol hon gan Lywodraeth Cymru i'r galwadau cynyddol am y cyllid hwnnw.
Mae llawer o adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a llawer o'r argymhellion hyn, fel sydd eisoes wedi cael ei ddisgrifio gan yr Aelodau yn y ddadl hon, yn disgrifio'r polisïau, y strwythurau a'r trefniadau cyllido sy'n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol yn dweud ei bod yn derbyn yr argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud ar y materion hyn.
Mae'n amlwg i mi fod yr argyfwng hwn wedi profi'r trefniadau annigonol hyn i'r eithaf. Mae wedi bod yn wirionedd sylfaenol ers tro nad yw'r strwythurau ar gyfer dosbarthu cyllid ledled y Deyrnas Unedig yn gweithio'n deg i bawb. Ni fydd y fframwaith ariannol a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU yn gynharach yn y Senedd hon yn darparu sail gadarn i allu sicrhau tegwch ar draws gwahanol wledydd y DU, ac nid yw chwaith yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r her sy'n ein hwynebu, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn eisoes.
Felly, yn gryno, mae arnom angen setliad newydd, setliad sy'n seiliedig ar anghenion a chydraddoldeb. Mae arnom angen strwythurau ar lefel y DU a pholisïau ariannu ar lefel y DU a gytunir rhwng ein gwahanol Lywodraethau ac a gyflwynir yn annibynnol ar Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn chwaraewr yn y materion hyn; ni all weithredu fel canolwr hefyd. Felly, ar ôl derbyn yr argymhellion, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r materion hyn dros y flwyddyn sydd i ddod.
Fy ail bwynt, Lywydd, yw blaenoriaethau cymharol Llywodraeth Cymru yn darparu dyraniadau cyllid. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd dybryd sicrhau bod y GIG a gwasanaethau rheng flaen yn cael eu hariannu'n llawn i ymateb i argyfwng coronafeirws. Ond wrth inni symud ymlaen dros weddill y flwyddyn ariannol hon, bydd angen hefyd inni weld cryn dipyn yn fwy o fuddsoddi mewn cymorth economaidd. Rwyf am weld ffocws clir a manwl gan Lywodraeth Cymru ar swyddi. Nodwyd eisoes fod etholaethau fel fy un i ym Mlaenau Gwent mewn perygl difrifol yn sgil colli cyflogaeth wrth i ni weld effaith lawn y coronafeirws ar ein heconomi. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rhaid i ymateb Llywodraeth Cymru gynnwys sicrhau bod cronfeydd yn cael eu dyrannu i ddarparu gwasanaethau craidd, yn ogystal â buddsoddi i ddiogelu swyddi'r 7,000 o bobl sydd ar hyn o bryd ar ffyrlo ym Mlaenau Gwent. Rydym yn gwybod bod 300,000 o bobl ar ffyrlo ledled Cymru. Mae angen inni ddiogelu'r swyddi hyn ar gyfer y dyfodol. Yn fy etholaeth fy hun, Weinidog, rwy'n arbennig o awyddus i weld symud ar raglen y Cymoedd Technoleg. Lansiwyd y cynllun gennyf fi a Gweinidog yr economi bron i dair blynedd yn ôl. Mae'n amlwg nad yw'r cynnydd wedi bod hanner mor gyflym ag y dylai fod, ac a dweud y gwir, rwy'n credu bod y Llywodraeth yn cydnabod hynny. Mae angen inni weld y cynnydd hwnnw'n awr os ydym i wrthsefyll y pwysau ychwanegol a achosir gan yr argyfwng coronafeirws.
Rwy'n cydnabod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud gan Aelodau eraill yn y ddadl hon ac rwy'n cydnabod y bydd gan bob un ohonom ein rhestr ein hunain o flaenoriaethau, ond i mi, rhaid mai'r strwythurau rydym yn gweithredu o'u mewn a dyrannu arian i ddiogelu swyddi yw'r blaenoriaethau allweddol i'r Llywodraeth hon am weddill y flwyddyn ariannol hon. Diolch.