Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a CBI Cymru wrth y pwyllgor y byddai effaith anghymesur ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Cyflwynais i gwestiwn ysgrifenedig brys i'r Prif Weinidog ar 30 Ebrill, yn gofyn iddo ymateb i alwadau am gynllun penodol i gefnogi busnesau twristiaeth yng Nghymru ac i ystyried modelau rhyngwladol o arfer gorau a fyddai'n helpu ein busnesau twristiaeth gwledig ac arfordirol i oroesi. Ar wahân i ymateb dros dro, nid wyf wedi cael ateb hyd yn hyn.
Er y bu'r cymorth a ddarparwyd gan y Llywodraeth ar bob lefel yn eithaf hael, dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y pwyllgor fod rhai busnesau wedi llithro drwy'r rhwyd, yn enwedig lleoliadau priodas, llety gwely a brecwast a llety gwesteion. Mae lleoedd gwely a brecwast bach yn asgwrn cefn i lawer o economïau lleol ledled y gogledd—busnesau gwirioneddol sy'n darparu incwm hanfodol i'w perchnogion. Fodd bynnag, nid ydyn nhw wedi gallu derbyn grant busnes Llywodraeth Cymru gwerth £10,000, oherwydd bod y meini prawf yn datgan bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, ond mae'r rheolau yn dweud na ellir gwneud hynny oni bai eu bod yn darparu llety i fwy na chwe pherson.
Pan holais Gweinidog yr economi ynglŷn â hyn, dywedodd y byddai'r gwiriwr meini prawf cymhwysedd ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd, ar gyfer ceisiadau newydd, yn agor ganol mis Mehefin. Ar ôl codi eu gobeithion, pan agorodd, dywedodd busnesau gwely a brecwast wrthyf i, yn ôl y gwiriwr, nad oedden nhw'n gymwys o hyd. Pan holais Gweinidog yr economi ynglŷn â hyn eto, dywedodd y byddai'n rhaid iddo ddeall pam nad oedden nhw'n gymwys. Felly ysgrifennais ato gyda thystiolaeth gan fusnesau gwely a brecwast dilys yn y gogledd, yn nodi eu bod yn anghymwys ar gyfer y cynllun hwn ac unrhyw gynllun arall. Yn ei ateb yr wythnos diwethaf, honnodd mai'r pecyn cymorth yng Nghymru yw'r mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU. Mewn gwirionedd, mae grantiau ar gael i fusnesau gwely a brecwast yn Lloegr a'r Alban nad oedden nhw'n gymwys ar gyfer unrhyw gynlluniau cymorth grant COVID-19 eraill, ond mae cwmnïau yng Nghymru wedi eu hamddifadu o'r cyfle i gael grant cyfatebol. Fel y dywedodd un wrthyf i:
Mae dyled o £7,400 gennym ni eisoes yn y tri mis diwethaf, ac rydym ni wedi colli gwerth tua £28,000 o werthiannau yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn argyfwng llwyr ac mae angen cymorth grant.
Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y pwyllgor fod gofynion newydd Llywodraeth Cymru er mwyn i eiddo hunanddarpar fod yn gymwys ar gyfer grantiau busnes yn cael eu defnyddio i gosbi busnesau dilys. Er y dywedodd y Gweinidog llywodraeth leol wrth yr Aelodau, os gall busnes hunanddarpar brofi ei fod yn fusnes dilys, fod gan yr awdurdod ddisgresiwn i dalu'r grant, dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn anfon negeseuon e-bost, gan ddweud, 'Nid yw hyn yn ddewisol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ein cyfarwyddo i wneud hyn.'
Cysylltodd llawer o fusnesau llety gwyliau dilys â mi a oedd mewn caledi gwirioneddol yn sgil hyn. Fe wnaethon nhw ysgrifennu bod y canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn gwahaniaethu'n glir yn erbyn busnesau llety gwyliau, ac na fu unrhyw ymgynghori â'r diwydiant. Ers hynny rwyf i wedi cynrychioli'n llwyddiannus lawer o'r busnesau hyn yn y gogledd-orllewin, er i hyn alw am ymyriadau dros wythnosau lawer cyn i gynghorau adolygu eu ceisiadau a defnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu grantiau busnes iddyn nhw.
Yna bythefnos yn ôl, fe wnaeth busnes llety gwyliau dilys yn Sir y Fflint gysylltu â mi ar ôl iddo gael gwybod bod ei gais am grant wedi bod yn aflwyddiannus oherwydd bod yn rhaid bodloni holl feini prawf cymhwyso ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i chi anobeithio.
Mae argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y newidiadau a wnaed i'r canllawiau ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau annomestig a sicrhau nad ydyn nhw'n cosbi busnesau dilys nac yn cynyddu llwyth gwaith yr awdurdodau lleol yn hollbwysig felly.
Ar 15 Mai, cyflwynodd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr gynnig i Lywodraeth Cymru a fyddai'n galluogi gweithredwyr i gynyddu'r gwasanaethau bysiau gyda chostau llawn i holl weithredwyr bysiau Cymru. Fodd bynnag, mewn gohebiaeth yr wythnos diwethaf, dywed y diwydiant nad ydyn nhw wedi cael ymateb swyddogol ystyriol hyd yn hyn, ac erbyn hyn mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad yw wedi cytuno ar gyllid i weithredwyr trafnidiaeth i ddechrau cynyddu gwasanaethau i dalu am gostau gwasanaethau ychwanegol.
Mae argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru hysbysu'r pwyllgor am ei hasesiad o'r gwasanaethau bysiau a threnau sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd ac a yw hyn yn ddigonol i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol sy'n cadw pellter cymdeithasol, a rhoi manylion am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod digon o gapasiti ar gael, yn hollbwysig hefyd felly.