– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Eitem 10 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar economi, seilwaith a sgiliau Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig. Russell George.
Cynnig NDM7341 Russell George
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiadau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020, ac 'Effaith COVID-19: Sgiliau— canfyddiadau cynnar', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig yn fy enw i. Hoffwn i ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu'r ddadl hon yn gynharach nag a fyddai wedi digwydd o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau.
Diolch, Dirprwy Lywydd, i waith caled ein staff yn y GIG ac oherwydd bod dinasyddion Cymru wedi chwarae eu rhan ac wedi aros gartref, rydym ni, gobeithio, wedi pasio'r marc dŵr uchel. Fodd bynnag, wrth i'r llanw gilio, wrth gwrs, mae'n datgelu argyfwng economaidd, a dyna pam y gofynnais am y ddadl gynharach hon. Mae cyhoeddiad Airbus ddoe yn rhan o'r argyfwng hwnnw sy'n datblygu. Rwy'n gwybod y bydd pawb yn y Siambr hon yn awyddus i feddwl am y bobl y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ac yn dymuno sicrwydd bod Llywodraethau Cymru a'r DU yn tynnu ar bob maes i warchod ein diwydiannau allweddol a'r swyddi y maen nhw'n eu darparu. Rwyf i hefyd yn meddwl am y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn sgil cau Laura Ashley yn fy etholaeth i fy hun. Mae Airbus, wrth gwrs, yn chwaraewr mawr yn y sector sgiliau yn y gogledd-ddwyrain, ac felly, yn ogystal â cholli swyddi, byddwn yn colli cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr, a bydd y pandemig a'r argyfwng economaidd yn cael effaith barhaus ar sector sgiliau a rhwydwaith trafnidiaeth Cymru gyfan, felly mae'n bwysig bod y ddadl hon yn canolbwyntio ar y meysydd hyn hefyd.
Dirprwy Lywydd, cymerodd y pwyllgor dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys arweinwyr busnes, undebau, darparwyr hyfforddiant a thrafnidiaeth ynghylch effeithiau'r pandemig ar economi, seilwaith a sgiliau Cymru, ac rydym wedi rhyddhau dau adroddiad ac wedi dosbarthu nifer o lythyrau yn amlinellu nifer o faterion sydd angen sylw brys, yn ein barn ni. Fodd bynnag, yn fwy cadarnhaol, mae ein gwaith wedi datgelu cyfleoedd yr ydym ni fel pwyllgor o'r farn y mae angen manteisio arnyn nhw er mwyn ailadeiladu ein heconomi. Fis diwethaf, fe wnaethom ni weld y gostyngiad mwyaf erioed yng nghynnyrch domestig gros y DU, ac mae'r gostyngiad hwn, wrth gwrs, yn ganlyniad naturiol o ofyn i bobl aros gartref. Byddwn yn adennill tir wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio—wrth gwrs, dyna yr ydym yn ei obeithio. Fodd bynnag, hyd yn oed wrth i bethau wella, rydym yn anffodus yn wynebu dirwasgiad digynsail. Dyna'r tebygolrwydd trist, ac, o ystyried y dirwasgiad hwn sydd ar ddod, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithredu'n gyflym i achub busnesau a swyddi. Cawsom ein rhybuddio gan arweinwyr busnes am feysydd o'r economi y bydd angen cymorth mwy penodol arnyn nhw nag eraill o ran dull sector a sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu'n gywir. Mae cylch newydd o gymorth busnes yn gyfle da i lenwi'r bylchau yn y cymorth COVID gwreiddiol. Er bod y cynnig gwreiddiol wedi ei groesawu'n fawr, roedd bylchau, wrth gwrs, a oedd yn arbennig o amlwg i fusnesau llai a microfusnesau wrth iddyn nhw ddisgyn drwy rai o'r bylchau hynny. Wrth i'r Llywodraeth ddatblygu ei hymateb i'r dirwasgiad, ni fydd y busnesau hyn, rydym yn gobeithio, fel pwyllgor, yn cael eu hesgeuluso eto.
Roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am gyllid i fusnesau newydd, wrth gwrs, yn gam i'r cyfeiriad iawn i fusnesau llai. Pan ofynnwyd am yr economi, dywedodd y Gweinidog wrthym ei fod yn dymuno 'ei ailadeiladu yn well'. Mae hwn yn ddyhead mawr, ac er bod yr economi mewn perygl dybryd, gellir targedu cymorth i helpu i ailgydbwyso a thyfu sectorau targed. Er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn bachu ar y cyfle hwn, hoffwn i'r Gweinidog nodi beth y mae 'ei ailadeiladu yn well' yn ei olygu iddo fe a'r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i gyrraedd y nod hwn.
Wrth i Gymru ddatgloi, bydd ailagor yr economi mewn ffordd ddiogel hefyd yn allweddol. Dywedodd cynrychiolwyr undebau wrth y pwyllgor eu bod yn cefnogi'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys y rheol 2m mewn rheoliadau, ond eu bod yn poeni am ei gorfodi, a bod angen i'r Llywodraeth, rwy'n credu, egluro sut y bydd diogelwch yn cael ei sicrhau, yn enwedig yn rhinwedd yr achosion diweddar yr ydym wedi eu gweld mewn rhai gweithfeydd bwyd ledled y wlad.
Gan fod yr economi a'r sector sgiliau yn cydblethu, mae newyddion drwg i'r economi, yn anffodus, yn newyddion drwg i sgiliau. Wrth i mi sôn am sgiliau, rwy'n credu yr hoffwn i'n gyntaf gydnabod y rhan allweddol y mae'r prentisiaid iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i chwarae mewn ymdrech i gyfyngu'r pandemig ac ymateb iddo. Roedd y tystion yn awyddus i ddweud wrthym sut yr oedd prentisiaid wedi ymateb i'r her dros yr ychydig fisoedd diwethaf a faint o ymdrech yr oedden nhw wedi bod yn ei rhoi i'r ymateb cenedlaethol, ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn dymuno ymuno â mi i gymeradwyo'r ymdrechion hyn. Fodd bynnag, bydd y llwyth gwaith ychwanegol hwn yn effeithio ar iechyd a lles y prentisiaid, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth gefnogi pob un o'n prentisiaid drwy'r amseroedd hyn, a chlywodd y pwyllgor fod llawer o brentisiaid wedi eu rhoi ar ffyrlo a bod rhai prentisiaid wedi eu diswyddo. Bydd bod ar ffyrlo ac, wrth gwrs, cael eu diswyddo yn effeithio ar eu lles eu hunain.
Gan edrych i'r dyfodol, rwy'n pryderu, ac fel pwyllgor rydym ni'n pryderu, ynghylch y cynydd sydyn sy'n dod i'r amlwg mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth y bydd cyflogwyr yn chwilio am brofiad, felly bydd pobl sy'n gadael addysg yr haf hwn dan anfantais mewn marchnad lafur sydd eisoes yn isel. Felly, gan fod cyfnod o ddiweithdra yn debygol o adael craith ar ddyfodol person ifanc, mae'n rhaid i'r Llywodraeth, yn fy marn i, ymyrryd drwy ddatblygu cymorth sgiliau i roi'r profiad i bobl ifanc sydd ei angen arnyn nhw i gystadlu. Fodd bynnag, mae cyfle yma hefyd. Gellir defnyddio'r sector sgiliau i helpu i ysgogi twf economaidd a hyfforddi pobl ar gyfer swyddi sgiliau uchel â gwerth ychwanegol uchel.
Wrth i Gymru lacio'r cyfyngiadau symud, bydd cynnal diogelwch a rheoli gyda llawer llai o refeniw tocynnau yn her enfawr i'r gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Yn anffodus, mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch marwolaethau coronafeirws yn dangos bod gyrwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig o agored i'r risg o'r pandemig. Ac mae hyder y cyhoedd mewn diogelwch, wrth gwrs, yn bwysig hefyd. Mae ymchwil Transport Focus yn dangos na fydd tua thraean o deithwyr yn dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus nes eu bod yn teimlo'n ddiogel, ac, er mwyn cynnal trefniadau cadw pellter cymdeithasol diogel, bydd bysiau a threnau yn cael eu cyfyngu i ryw 10 y cant i 20 y cant o'u capasiti arferol. Yn wir, dywedodd gweithredwyr bysiau wrthym fod hynny'n golygu y bydd bws deulawr sydd fel arfer yn cludo 70 o deithwyr dim ond yn gallu cludo 20. Nid yw tacsis na cherbydau hurio preifat yn addas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol am resymau amlwg, ac roedd cynrychiolwyr undebau o'r farn y dylid rhoi sgriniau ar ddull cabiau du i'r gyrwyr i'w hamddiffyn eu hunain ac i hybu hyder teithwyr. Er y bydd trafnidiaeth gyhoeddus leol yn gweithredu ar lai o gapasiti, bydd eu gorbenion yn aros yr un fath i raddau helaeth, gan achosi pwysau ariannol i weithredwyr. Dywedodd gweithredwyr bysiau wrthym fod angen eglurder ar frys ynghylch dyfodol y cyllid ar gyfer darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd gwasanaeth pleidleisio Transport Focus fod bron i hanner y defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn bwriadu defnyddio eu ceir yn fwy, felly rwy'n credu bod hwn yn fater o bwys i'r pwyllgor. Bydd hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau a chapasiti trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i osgoi mwy o dagfeydd ac allyriadau carbon deuocsid ac ansawdd aer is, a byddai newid tymor byr i deithio mewn ceir yn datblygu i fod yn ymddygiad rheolaidd. Fodd bynnag, yn yr un modd â'r economi a'r sector sgiliau, mae cyfleoedd ar gael yma hefyd. Mae pobl yn agored i'r syniad o deithio llesol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld llawer mwy o bobl yn cerdded ac yn rhedeg a beicio yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae siopau beiciau yn gwerthu eu holl stoc ledled y DU ac Ewrop, felly mae angen i'r Llywodraeth weithredu i gynnal y momentwm hwnnw a chefnogi'r newid moddol i sicrhau bod cynifer o bobl ag sy'n bosibl yn dewis teithio llesol yn lle eu ceir.
I grynhoi fy sylwadau agoriadol, Dirprwy Lywydd, er bod yr argyfwng iechyd, gobeithio, wedi ei reoli, fe'i disodlwyd gan argyfwng economaidd ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wario cymaint o ymdrech i fynd i'r afael â hynny ag â'r feirws. Er fy mod i'n cefnogi dyhead y Gweinidog i ailadeiladu'n well, mae gwir angen i ni weld manylion yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol digynsail ac mae her enfawr wedi ei chyflwyno i ni. Fodd bynnag, gyda'r her honno daw cyfres unigryw o gyfleoedd i ailgynllunio ein heconomi, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n sector sgiliau er gwell, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wrth gwrs fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniad yr Aelodau y prynhawn yma.
Diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiadau, gan eu bod wedi darparu darlun defnyddiol o'r ymateb economaidd i argyfwng COVID gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a hefyd o sut y mae partneriaid, fel llywodraeth leol a Busnes Cymru, wedi camu i'r adwy yn wirioneddol i helpu busnesau a chyflogwyr a gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn. Dylid nodi, wrth gwrs, fod ein Llywodraeth yng Nghymru wedi camu i'r adwy yn wirioneddol, gan ddarparu'r pecyn cymorth mwyaf hael ledled y DU a cheisio llenwi rhai o'r bylchau a ddaeth i'r amlwg o ran cefnogaeth Llywodraeth y DU. Mae hyn wedi dangos yn wirioneddol y gwahaniaeth cadarnhaol y gall datganoli ei wneud, er bod gennym ni fylchau o hyd. O ran cefnogaeth Llywodraeth y DU ac o roi'r bylchau o'r neilltu, mae'n rhaid i ni gydnabod maint y buddsoddiad, yn enwedig yn y cynllun ffyrlo, ond byddwn i'n annog Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gryf i ymuno â galwadau Llywodraethau datganoledig eraill ac, yn wir, mainc flaen Llafur y DU i ymestyn y ffyrlo a'r cymorth i sectorau penodol, gan gynnwys, gyda llaw, y diwydiant hedfan, ond hefyd rhannau o'n sectorau twristiaeth a lletygarwch, a'n sectorau celfyddydau a diwylliant hefyd.
Nawr, dyma'r adeg pan fo angen i Brif Weinidog y DU ddangos ei fod yn wirioneddol yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig gyfan, nid dim ond yn Brif Weinidog Lloegr. Mae'r rhaglen 'adeiladu, adeiladu, adeiladu' a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn fach, bach, bach ac, yn wir, ar hyn o bryd yn Lloegr, Lloegr, Lloegr yn unig. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn manteisio ar y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi blaenoriaethau Cymru ar gyfer buddsoddiad y DU yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys cymorth i'r diwydiant hedfan, a dylai hynny gynnwys, yn ogystal, fuddsoddiad mawr hir ei aros gan y DU mewn dur, mewn ynni adnewyddadwy morol a llanw yng Nghymru, ac mewn cynhyrchu awtomataidd cenhedlaeth newydd, a mwy. Dylai hyn wneud yn iawn am y tanfuddsoddiad dros ddegawd gan y DU yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a chefnogi Llywodraeth Cymru i roi hwb i'r cynlluniau sgiliau a phrentisiaethau a swyddi ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a llawer mwy. Mae yna gyfle gwirioneddol i Lywodraeth y DU.
Mae hwn yn amser am benderfyniadau beiddgar ar raddfa'r Llywodraeth Lafur Attlee ar ôl y rhyfel a gyda phob Llywodraeth ledled y DU yn gweithio gyda'i gilydd. Yn wir, rhowch y gyllideb frys honno i ni ar gyfer ymateb i argyfwng y DU cyn toriad yr haf, a all ymateb i raddfa'r argyfwng a rhoi cyfle gwirioneddol hefyd i'r Prif Weinidog ddangos nad yw Cymru ryw ôl-ystyriaeth o ddesg yn San Steffan.
Nawr, gan ddychwelyd at y cymorth presennol ar gyfer busnesau a swyddi, mae'r pwyllgor wedi gwneud gwaith rhagorol i nodi'r bylchau, ac rwy'n cydnabod y rhain o achosion yn fy etholaeth i fy hun, gan gynnwys achos Chris, sy'n rhedeg campfa. Cymerodd hen glwb adfeiliedig, a'i droi yn gartref nid yn unig i'r gampfa, ond ar gyfer grŵp llewyrchus o deuluoedd â phlant ag anghenion arbennig, ac fel canolfan ar gyfer clwb pêl-droed lleol a mwy. Ond mae wedi colli allan ar yr holl gymorth, gan gynnwys y newidiadau a groesawyd yn ddiweddar sy'n gostwng y trothwy TAW i £50,000. Fe'i gadawodd ef ychydig o filoedd o bunnau o dan y trothwy ar gyfer cymhwyso. Felly, tybed, Gweinidog, a oes modd cael rhywfaint o hyblygrwydd i Busnes Cymru weithio gyda busnesau bach y mae'n ymwybodol ohonyn nhw, er mwyn osgoi'r achosion torcalonnus hyn o fethu â chyrraedd y trothwy ond o ryw ychydig?
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, roedd rhai o'r bylchau eglur a ddaeth i'r amlwg yn cynnwys y bobl hunan-gyflogedig nad oedd ganddyn nhw gyfrifon diweddar, busnesau nad ydyn nhw'n gweithredu o safle fel y cyfryw a chwmnïau nad ydyn nhw wedi eu cofrestru ar gyfer TAW. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i fireinio ac addasu'r cymorth i ymateb i rai o'r bylchau hyn, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Gweinidogion barhau i wrando, parhau i fod yn hyblyg, i ymateb i'r pryderon parhaus hyn, ond hefyd i barhau i ymgysylltu â Thrysorlys y DU i ymateb i'r bylchau hyn a'u llenwi ledled y DU gyfan. Mae gan Drysorlys y DU bocedi anhygoel o ddwfn, ac, yn wir, yn ddiweddar maen nhw wedi darganfod lleoliad y goeden arian hud cudd, yr oedd Canghellor y Ceidwadwyr yn dadlau dros ddegawd o galedi nad oedd yn bodoli. Rwy'n falch eu bod nhw wedi dod o hyd iddi.
Rydym ni newydd brofi'r dirywiad economaidd meinaf ers trydydd chwarter 1979. Mae economegydd Banc Lloegr Andy Haldane yn awgrymu y gallem ni fod ar y trywydd iawn ar gyfer adferiad ar ffurf v, gydag adfywiad cyflymach na'r disgwyl, er ei fod yn amgylchynu ei ragamcaniad â llawer iawn o rybuddion iechyd economaidd. Gallai fod yn wahanol iawn yn wir.
Yn sicr, rydym ni eisoes yn gwybod erbyn hyn mai lleoedd sydd wedi wynebu heriau strwythurol hirdymor—anfantais gymdeithasol ac economaidd ddwfn—fydd y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, mae angen y buddsoddiad arnom ni yma i gynyddu ein pwyslais ar yr ardaloedd hynny, gan gynnwys y lleoedd a'r bobl hynny yn fy etholaeth i yn Ogwr, lle bydd y manteision ar eu huchaf i'r buddsoddiad tlotaf, lle byddwn yn gallu codi pobl fwyaf, a lle rydym ni'n cyrraedd lefel uwch drwy ymyrraeth gan Lywodraeth weithredol, yn hytrach na bod diafol y farchnad rydd yn cymryd yr hyn sy'n weddill. Felly, gadewch i ni sicrhau bod yr ymateb economaidd hwn i COVID yn un sy'n cyrraedd lefel uwch ledled y DU, sy'n cyrraedd lefel uwch yng Nghymru ac yn cyrraedd lefel uwch yn Ogwr, gyda Llywodraethau ar bob lefel yn chwarae eu rhan. Diolch i'r pwyllgor am eu hadroddiadau, gan eu bod yn ddefnyddiol o ran cyfeirio rhai o'r ymdrechion hynny. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a CBI Cymru wrth y pwyllgor y byddai effaith anghymesur ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Cyflwynais i gwestiwn ysgrifenedig brys i'r Prif Weinidog ar 30 Ebrill, yn gofyn iddo ymateb i alwadau am gynllun penodol i gefnogi busnesau twristiaeth yng Nghymru ac i ystyried modelau rhyngwladol o arfer gorau a fyddai'n helpu ein busnesau twristiaeth gwledig ac arfordirol i oroesi. Ar wahân i ymateb dros dro, nid wyf wedi cael ateb hyd yn hyn.
Er y bu'r cymorth a ddarparwyd gan y Llywodraeth ar bob lefel yn eithaf hael, dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y pwyllgor fod rhai busnesau wedi llithro drwy'r rhwyd, yn enwedig lleoliadau priodas, llety gwely a brecwast a llety gwesteion. Mae lleoedd gwely a brecwast bach yn asgwrn cefn i lawer o economïau lleol ledled y gogledd—busnesau gwirioneddol sy'n darparu incwm hanfodol i'w perchnogion. Fodd bynnag, nid ydyn nhw wedi gallu derbyn grant busnes Llywodraeth Cymru gwerth £10,000, oherwydd bod y meini prawf yn datgan bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, ond mae'r rheolau yn dweud na ellir gwneud hynny oni bai eu bod yn darparu llety i fwy na chwe pherson.
Pan holais Gweinidog yr economi ynglŷn â hyn, dywedodd y byddai'r gwiriwr meini prawf cymhwysedd ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd, ar gyfer ceisiadau newydd, yn agor ganol mis Mehefin. Ar ôl codi eu gobeithion, pan agorodd, dywedodd busnesau gwely a brecwast wrthyf i, yn ôl y gwiriwr, nad oedden nhw'n gymwys o hyd. Pan holais Gweinidog yr economi ynglŷn â hyn eto, dywedodd y byddai'n rhaid iddo ddeall pam nad oedden nhw'n gymwys. Felly ysgrifennais ato gyda thystiolaeth gan fusnesau gwely a brecwast dilys yn y gogledd, yn nodi eu bod yn anghymwys ar gyfer y cynllun hwn ac unrhyw gynllun arall. Yn ei ateb yr wythnos diwethaf, honnodd mai'r pecyn cymorth yng Nghymru yw'r mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU. Mewn gwirionedd, mae grantiau ar gael i fusnesau gwely a brecwast yn Lloegr a'r Alban nad oedden nhw'n gymwys ar gyfer unrhyw gynlluniau cymorth grant COVID-19 eraill, ond mae cwmnïau yng Nghymru wedi eu hamddifadu o'r cyfle i gael grant cyfatebol. Fel y dywedodd un wrthyf i:
Mae dyled o £7,400 gennym ni eisoes yn y tri mis diwethaf, ac rydym ni wedi colli gwerth tua £28,000 o werthiannau yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn argyfwng llwyr ac mae angen cymorth grant.
Dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru wrth y pwyllgor fod gofynion newydd Llywodraeth Cymru er mwyn i eiddo hunanddarpar fod yn gymwys ar gyfer grantiau busnes yn cael eu defnyddio i gosbi busnesau dilys. Er y dywedodd y Gweinidog llywodraeth leol wrth yr Aelodau, os gall busnes hunanddarpar brofi ei fod yn fusnes dilys, fod gan yr awdurdod ddisgresiwn i dalu'r grant, dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn anfon negeseuon e-bost, gan ddweud, 'Nid yw hyn yn ddewisol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ein cyfarwyddo i wneud hyn.'
Cysylltodd llawer o fusnesau llety gwyliau dilys â mi a oedd mewn caledi gwirioneddol yn sgil hyn. Fe wnaethon nhw ysgrifennu bod y canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn gwahaniaethu'n glir yn erbyn busnesau llety gwyliau, ac na fu unrhyw ymgynghori â'r diwydiant. Ers hynny rwyf i wedi cynrychioli'n llwyddiannus lawer o'r busnesau hyn yn y gogledd-orllewin, er i hyn alw am ymyriadau dros wythnosau lawer cyn i gynghorau adolygu eu ceisiadau a defnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu grantiau busnes iddyn nhw.
Yna bythefnos yn ôl, fe wnaeth busnes llety gwyliau dilys yn Sir y Fflint gysylltu â mi ar ôl iddo gael gwybod bod ei gais am grant wedi bod yn aflwyddiannus oherwydd bod yn rhaid bodloni holl feini prawf cymhwyso ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i chi anobeithio.
Mae argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y newidiadau a wnaed i'r canllawiau ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau annomestig a sicrhau nad ydyn nhw'n cosbi busnesau dilys nac yn cynyddu llwyth gwaith yr awdurdodau lleol yn hollbwysig felly.
Ar 15 Mai, cyflwynodd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr gynnig i Lywodraeth Cymru a fyddai'n galluogi gweithredwyr i gynyddu'r gwasanaethau bysiau gyda chostau llawn i holl weithredwyr bysiau Cymru. Fodd bynnag, mewn gohebiaeth yr wythnos diwethaf, dywed y diwydiant nad ydyn nhw wedi cael ymateb swyddogol ystyriol hyd yn hyn, ac erbyn hyn mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad yw wedi cytuno ar gyllid i weithredwyr trafnidiaeth i ddechrau cynyddu gwasanaethau i dalu am gostau gwasanaethau ychwanegol.
Mae argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru hysbysu'r pwyllgor am ei hasesiad o'r gwasanaethau bysiau a threnau sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd ac a yw hyn yn ddigonol i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol sy'n cadw pellter cymdeithasol, a rhoi manylion am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod digon o gapasiti ar gael, yn hollbwysig hefyd felly.
Rwy'n ddiolchgar iawn o fod wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y sesiynau tystiolaeth sydd wedi arwain at yr adroddiad hwn, ac, fel Aelodau eraill, rwy'n ddiolchgar iawn am y dystiolaeth yr ydym ni wedi'i chael. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn deg a dweud—. Ar ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn i ddweud bod ymateb brys Llywodraeth Cymru wedi ei groesawu ar y cyfan gan y rhan fwyaf o'n tystion. Wrth gwrs, nid yw pethau'n berffaith; cafwyd cydnabyddiaeth fod diffygion, ac rwy'n credu bod y Gweinidog yn deall hynny ei hun. Ond roedd yna ymdeimlad y cafwyd rhywfaint o gydweithredu â'r sector ac â phartneriaid cymdeithasol ac y bu hyn yn rhywfaint o—i ddefnyddio ystrydeb—yn ymdrech tîm Cymru. Ond, gwn fod y Gweinidog yn deall bod llawer mwy i'w wneud, ac mae ein tystiolaeth yn profi hynny.
Hoffwn i heddiw, Dirprwy Lywydd, wneud rhai sylwadau cyffredinol mewn ymateb i'r tri adroddiad ac wedyn tynnu sylw at rai pethau penodol ym meysydd sgiliau. Rydym ni'n gwybod—roedd y dystiolaeth yn eglur iawn i ni—y bydd angen cymorth tymor hirach ar rai busnesau. Gallai'r busnesau hynny gynnwys rhai darparwyr trafnidiaeth, byddan nhw yn sicr yn cynnwys rhai busnesau lletygarwch, na fyddan nhw o bosibl yn gallu agor yn rhannol neu efallai na fyddan nhw yn gallu agor yn broffidiol. Byddan nhw yn sicr yn cynnwys busnesau yn y sector diwylliant, pethau fel sinemâu a theatrau lle, unwaith eto, hyd yn oed os bydd cadw pellter cymdeithasol yn caniatáu iddyn nhw agor, ni fyddan nhw'n gallu agor a gwneud unrhyw arian, a bydd hynny'n berthnasol i rai atyniadau twristaidd eraill hefyd.
Mae'n wirioneddol bwysig i'r busnesau hyn—maen nhw'n cydnabod eu bod nhw, llawer ohonyn nhw, wedi cael cymorth tymor byr—wybod yn awr beth yw'r cynlluniau tymor hirach er mwyn iddyn nhw allu cynllunio. Ac rwy'n siŵr na fyddai neb ohonom ni yn y Senedd hon yn dymuno colli rhai o'r rhannau hollbwysig hynny o'n seilwaith twristiaeth a lletygarwch a fydd mor bwysig i'n heconomi wrth i ni adfer.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y dylai rhywfaint o'r cymorth hwnnw ddod oddi wrth Lywodraeth y DU, a hoffwn i ofyn i'r Gweinidog unwaith eto heddiw am ba gynnydd y mae wedi ei wneud wrth ofyn am gymorth ffyrlo mwy hyblyg i rai o'r busnesau hynny na fyddan nhw'n goroesi o bosibl fel arall, na allant agor, ac yn benodol a oes modd iddo godi unwaith eto fater y bobl hynny a oedd yn newid swyddi ar y pryd. Os bydd newidiadau i'r cynllun ffyrlo, bryd hynny fyddai'r adeg i roi rhyw fath o ad-daliad i'r dinasyddion sydd ar ffyrlo mewn swyddi newydd a oedd mor anffodus i fod yn newid swyddi ar y pryd.
Gan edrych yn fanylach ar fusnesau lletygarwch, rydym ni, wrth gwrs, wedi cefnogi dull gofalus Llywodraeth Cymru o godi'r cyfyngiadau symud. Rydym ni o'r farn mai dyna'r peth priodol i'w wneud. O safbwynt busnesau, byddai, wrth gwrs, wedi bod yn drychinebus codi'r cyfyngiadau symud yn rhy gyflym ac yna gweld pig arall gan arwain at gyfyngiadau symud eto. Ond rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn deall ei bod yn anodd iawn i rai o'r perchnogion busnes sydd wedi bod yn siarad â mi yn ystod y dyddiau diwethaf gweld bod McDonald's ar agor a bod pobl yn bwyta eu prydau ym maes parcio McDonald's ac weithiau yn gadael llanast erchyll wedyn, ond nid yw busnesau lletygarwch safonol lleol Cymru wedi gallu manteisio hyd yn hyn ar y cyfleoedd hynny y gall rhai sydd ar agor y tu allan eu darparu.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol bod awdurdodau lleol yn edrych ar sut y gallen nhw hwyluso hyn drwy gau ffyrdd ac ymestyn palmentydd. Rwyf i wedi bod yn siarad â Chyngor Ceredigion er enghraifft. Mae yna, wrth gwrs, batrwm cymhleth o ran trwyddedu ac o ran cynllunio, a hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw ymrwymo i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn i ni allu agor rhai o'r lleoedd hynny, gan gydnabod, wrth gwrs, y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach—fod yn rhaid gwneud hynny mewn modd nad yw, er enghraifft, yn cael effaith negyddol ar bobl sy'n ddall ac yn rhannol ddall.
Os caf i droi yn fyr, felly, Dirprwy Lywydd, at rai o'r pwyntiau yn yr adroddiad sgiliau yn benodol. Mae Russell George wedi cyfeirio eisoes at ein hargymhelliad ynghylch prentisiaid iechyd a gofal. Mae'r hyn y mae'r bobl hynny, llawer ohonyn nhw yn bobl ifanc, wedi ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf yn anhygoel a dweud y lleiaf, ac mae arnom ni eisiau gofyn i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o'r angen i warchod eu lles a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ymdopi â'r hyn a allai, i rai ohonyn nhw, fod yn brofiad cymhleth a thrawmatig.
Mae argymhellion 3 a 4 yr adroddiad sgiliau sy'n canolbwyntio ar brofiad gwaith a diweithdra ymhlith pobl ifanc yn hynod o bwysig. Bydd y rhai hynny ohonom ni sy'n ddigon hen i gofio'r hyn a ddigwyddodd i economi Cymru yn y 1980au yn cofio bod cenhedlaeth gyfan a esgeuluswyd mewn llawer o'n cymunedau, nad oedden nhw, ar ôl cael blwyddyn neu 18 mis o fod yn ddiwaith, byth yn adfer mewn gwirionedd, byth yn cau y bwlch economaidd hwnnw. Rhaid i ni beidio â gadael i hynny ddigwydd i'r unigolion hynny, ond ni allwn ni ychwaith fforddio gwastraffu'r doniau hynny, fel cenedl. Felly, dyna pam ei bod hi'n hynod o bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau gwirioneddol bellgyrhaeddol i fynd i'r afael â'r materion hynny.
Mae argymhelliad 8 o'n heiddo yn gofyn i Lywodraeth Cymru gysylltu'r agenda sgiliau â datblygu economaidd, cymorth i fusnesau, a gwella busnesau, ac, wrth gwrs, yn hollbwysig, â'r agenda gwaith teg. Dyma'r hyn y mae angen ei newid nawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud, yn fy marn i, ar y cyfan, waith eithaf da o ran ymateb brys, ond nawr mae'n rhaid i ni, fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn aml, ailadeiladu yn well, ac mae hynny'n golygu datblygu mewn ffordd gydgysylltiedig.
Byddwn i'n dweud, Dirprwy Lywydd, fod yr argyfwng hwn wedi dangos i ni pwy sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd o ran ein gweithlu. Mae angen gofalwyr arnom ni, bu angen gweithwyr siopau arnom ni, bu angen gyrwyr cludo nwyddau arnom ni, bu angen staff gofal iechyd arnom ni. Mae tuedd i lawer o'r gwaith hwn, wrth gwrs, gael ei wneud gan fenywod. Nawr, mae tuedd, yn y gorffennol, wedi bod i gyfeirio at y bobl hynny yn rhai 'â sgiliau isel', ac nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un arall yn y Siambr hon wedi cael cyfle i ofalu am berthynas sâl neu anabl eu hunain, ond gallaf i ddweud wrthych yn sicr fod y bobl—menywod ar y cyfan—sy'n gwneud y gwaith hwnnw yn unrhyw beth ond â sgiliau isel, ar ôl ceisio ei wneud fy hun i gefnogi aelodau o'r teulu. Mae angen i ni newid—
A wnewch chi ddod i gasgliad, os gwelwch yn dda?
Rwy'n ymddiheuro, Dirprwy Lywydd.
Na, na, mae'n iawn. Parhewch.
Mae angen i ni sicrhau ein bod yn newid ein meddylfryd yn hynny o beth, ac wrth i ni sôn am ailadeiladu yn well, rydym ni wedi siarad yn helaeth am brosiectau seilwaith mawr, ond mae angen i ni hefyd feddwl am y gwaith hwnnw, y gwaith hwnnw y mae menywod yn ei wneud—y gwaith gofalu, y gwaith siop, hynny i gyd. Mae angen i ni werthfawrogi'r gwaith hwnnw, mae angen i ni wella sgiliau y gweithwyr hynny, ac mae angen i ni dalu cyflog byw gweddus iddyn nhw.
Bydd y Gweinidog wedi clywed y dystiolaeth a roddwyd gan Chwarae Teg ac eraill i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ddoe, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ymrwymo heddiw i adeiladu cymdeithas fwy cyfartal i fenywod ac y bydd economi fwy cyfartal i fenywod yn ganolog i'w gynlluniau ailadeiladu.
Mae gen i bethau eraill i'w dweud, ond mae amynedd y Dirprwy Lywydd wedi darfod, a hynny'n gwbl briodol. Felly, fe wnaf i ddirwyn fy sylwadau i ben drwy ddweud unwaith eto pa mor falch wyf i o fod wedi cymryd rhan yn y broses hon a chymeradwyo'r adroddiadau hyn i'r Senedd.
Diolch yn fawr iawn. Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Darllenais â braw a chytundeb fod gan y pwyllgor bryderon sylweddol ynghylch yr hyn y mae'n ei ystyried yn un o'r heriau tymor hirach sy'n diffinio'r pandemig marwol hwn: cynnydd sydyn sylweddol tebygol mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc, cynnydd sydyn sydd, heb weithredu gan Lywodraeth Cymru, yn bygwth creithio ac atal rhagolygon cyflogaeth cenhedlaeth o bobl ifainc a llesteirio'r adferiad cenedlaethol.
Yn anffodus, nid yw hyn yn newydd i ni. Fel yr Aelod dros Islwyn, rwy'n gwybod y bydd ysbryd diweithdra torfol ymhlith pobl ifanc yn codi—[Anhyglyw.]—drwy'r cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli. Dechreuais i fod yn wleidyddol yn fy arddegau yn sgil y dinistr a ddaeth i ni drwy bolisïau economaidd Torïaidd dideimlad Llywodraeth Thatcher. Cefais fy anfon i'r Senedd hon gan bobl Islwyn, yn dilyn y dinistr parhaus a ddaeth i gymoedd Islwyn drwy barhad polisïau Thatcheraidd o dan gochl cynni, ac ideoleg dadfuddsoddi creulon a dideimlad Llywodraeth gwrth-sector cyhoeddus Cameron, a feirniadwyd yn briodol gan y Cenhedloedd Unedig.
Felly, heddiw, mae Islwyn yn wynebu posibilrwydd o fwy o galedi economaidd yn y dyfodol yn sgil pandemig dideimlad C-19 a cholledion masnachol ymadael â'r UE. Felly, mae'n hollbwysig nad yw Llywodraeth y DU yn torri ac yn difa gwasanaethau cyhoeddus a'i chyllid i ymdrin â'r diffyg ar ôl C-19.
Dirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi trydydd argymhelliad y Pwyllgor, sef bod:
Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod cyfleoedd profiad gwaith strwythuredig o ansawdd uchel, yn enwedig i bobl o gefndiroedd difreintiedig, yn rhan o gynllun adfer Cymru.
Fel y dywedodd yr Athro Ewart Keep o'r adran addysg yn Rhydychen wrth rybuddio'r pwyllgor, mae'r 'broblem enfawr sydd ar y gorwel' o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc wrth i ddegau ar filoedd o fyfyrwyr coleg a phrifysgol raddio yr haf hwn yn llwm. Mae'r bobl ifanc hyn yn wynebu marchnad lafur sydd wedi gweld cwymp yn y galw, gyda thraean o weithlu Cymru ar ffyrlo neu'n manteisio ar gynllun cymorth hunan-gyflogaeth y Llywodraeth.
Dirprwy Lywydd, er efallai fod consensws yn y Senedd ar rai materion allweddol, mae'r angen hanfodol a sylfaenol am ddull systemig rhyng-lywodraethol effeithiol yn parhau ar gyfer y gwledydd datganoledig. Ni fu erioed fwy o angen am y seilwaith coll hwn. Heb fod gweithio effeithiol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod y DU wedyn yn buddsoddi i ddiwallu anghenion gwirioneddol pobl Cymru, byddwn unwaith eto yn gweld cenhedlaeth anghofiedig o fenywod a dynion ifanc. Mae'n briodol bod Llywodraeth Cymru yn gofyn yn gadarn i Drysorlys y DU ddiwallu anghenion Cymru, yn awr yn ystod y pandemig hwn, ond hefyd gyda dulliau ar gyfer y dyfodol, sy'n gynaliadwy ar gyfer achosion o bandemig, argyfyngau ac adegau o her genedlaethol yn y dyfodol. Ac yn gyfochrog â lluosogrwydd ymyriadau cyfredol Llywodraeth Cymru a phecynnau cymorth i Gymru yn unig yn ystod COVID, mae'n amlwg bod gan Brif Weinidog Cymru a Gweinidog yr economi gyfeiriad, ysgogiad a phenderfyniad clir i ddiogelu ac amddiffyn anghenion iechyd ac economaidd ein pobl er mwyn sicrhau bod Cymru yn fan lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a phan fydd storm COVID yn ein gadael, bydd Cymru ddisgleiriach, iachach a gwyrddach yn cael ei hailadeiladu, ei datgelu a'i hailddarganfod. Diolch.
A gaf i yn gyntaf longyfarch y Cadeirydd ac aelodau Pwyllgor yr Economi Seilwaith a Sgiliau am eu gwaith yn nodi'r camau angenrheidiol a all fod yn angenrheidiol i ailgychwyn ac ailfywiogi'r economi ar ôl COVID-19, sydd wedi eu cynnwys yn eu 34 o argymhellion? Cyn i mi sôn am yr adroddiad, hoffwn i wneud y pwynt nad ydym ni'n ymwybodol o hyd o'r sefyllfa o ran y gronfa ffyniant gyffredin. Yn ôl pob sôn, bydd y gronfa honno yn disodli cronfa strwythurol yr UE. Gan y bydd y gronfa hon yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd y bydd Cymru yn ymadfer ar ôl yr argyfwng COVID, mae'n rhaid i bob un ohonom ni yn y Siambr hon gefnogi'r Gweinidog yn ei ymdrechion i sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth y DU ynghylch sut a phryd y caiff yr arian hwn ei ddyrannu.
Mae'r adroddiad yn cydnabod y cafwyd cefnogaeth eang i'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19. Yn benodol, fe wnaethon nhw dynnu sylw at yr hyn a ddywedodd Josh Miles o Ffederasiwn y Busnesau Bach, sef bod gennym ni, diolch byth, Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a oedd yn gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i'r argyfwng.
Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ei bod yn bosib y bydd COVID-19 yn newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio am byth, ond ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod faint yn union. Mae'n rhaid i ni sylweddoli, gyda chynifer o bethau na allwn ragdybio, ei bod yn anodd i unrhyw Lywodraeth gynllunio strategaethau economaidd ar gyfer y dyfodol. Mae Gweinidog yr economi wedi dweud nad yw'r nodau strategol mawr o waith teg, datgarboneiddio, lleihau anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol, wedi newid, ond rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i rai pethau newid, ac mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu nodi a'u trafod ac y gweithredir arnyn nhw cyn gynted â phosibl.
Yng Nghymru y mae'r gyfran uchaf o fusnesau sy'n gwneud cais am y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a'r gyfran uchaf o bobl sy'n gwneud ceisiadau i gynlluniau Llywodraeth y DU. Yn anffodus, bydd Cymru a'i phobl unwaith eto yn un o'r rhanbarthau a all ddioddef rhai o'r colledion swyddi mwyaf yn sgil y pandemig.
Fodd bynnag, mae un maes lle yr wyf i'n credu y gallai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi strategaethau adfer ar waith ar hyn o bryd. Dywedir mai gwella sgiliau yw un o'r ffyrdd cyflymaf o sicrhau na fydd y rhai sydd wedi colli eu swyddi yn aros yn ddiwaith am gyfnodau hir. Rydym ni'n credu y dylai Llywodraeth Cymru, ar fyrder, ystyried sefydlu canolfannau hyfforddi ar raddfa fawr. Byddwn i'n gofyn i'r Llywodraeth ystyried cyfleusterau yn Sain Tathan, lle mae adeiladau addas a hyd yn oed llety ar gael wrth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn leihau ei gweithrediadau ar y safle. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu canolfan sgiliau genedlaethol i Gymru, gan adeiladu ar y cyfleusterau hynny sy'n bodoli eisoes, nid eu disodli. Gallai hyn roi Cymru ar flaen y gad o ran y chwyldro i ddarparu gwaith parod i bobl fedrus yn y sector sgiliau uwch. Byddai cyfleuster mor amlwg yn helpu i ddenu buddsoddwyr yn y diwydiannau uwch-dechnoleg, gan ategu, wrth gwrs, sefydliad cyfleuster Aston Martin yn Sain Tathan.
Felly, a gaf i ychwanegu fy argymhelliad fy hun i'r 34 a amlinellwyd eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau? Adeiladu canolfan uwch-dechnoleg ar gyfer sgiliau galwedigaethol, os nad yn Sain Tathan, yna rywle arall yng Nghymru.
Diolch. Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor hefyd am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ar hyn. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni wedi mwynhau'r cyfle i ddarllen trwy adroddiadau'r pwyllgor ac rydym yn ddiolchgar iddyn nhw a'r staff a'r tystion am y cyfraniadau y maen nhw wedi eu gwneud.
Mae angen i ni edrych yn fanwl ar sut yr ydym yn mynd i sicrhau nad yw'r ysgytwad economaidd yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd yn ddim ond ysgytwad economaidd unwaith eto i'r bobl dlotaf yn y wlad hon. Rydym ni wedi gweld o ddirwasgiadau blaenorol mai'r bobl dlotaf, y cymunedau tlotaf, sy'n dioddef effaith waethaf y dirwasgiadau hyn, ac rydym ni wedi gweld ysgytwadau economaidd yn y gorffennol yn cael effaith ddramatig nid yn unig ar y bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn heddiw, ond ar eu plant a'u hwyrion hefyd. Mae cenedlaethau, fel sydd wedi ei ddisgrifio eisoes, rwy'n credu, yn dal i deimlo effaith rhyfel Thatcher yn erbyn Cymoedd y de. Mae angen i ni allu edrych yn fanwl ar sut yr ydym yn gwneud hynny. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld yn y penawdau rai colledion swyddi gwirioneddol ofnadwy, ac rydym ni wedi bod yn trafod Airbus yn barod heddiw. Ond rydym ni hefyd yn gweld swyddi yn cael eu colli yn ddyddiol—mae'r nifer yn llai, ond mae'n cael effaith ar nifer enfawr o bobl a theuluoedd a chymunedau. Rwyf i wedi gweld yn fy etholaeth fy hun lawer o bobl sydd eisoes yn cael eu bygwth â diswyddiadau. Nid fydd effaith COVID i'w gweld yn yr hydref—mae'n cael ei gweld yn barod heddiw.
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth Huw Irranca-Davies ynghylch yr angen i Lywodraeth y DU ymestyn y cynllun ffyrlo i'r hydref. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cytuno, yn ystod y ddeufis diwethaf, fod effaith economaidd cynlluniau Llywodraeth y DU yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei gwerthfawrogi, ac mae wedi bod yn dda gweld Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd dros y misoedd blaenorol. Yn y cyd-destun hwnnw, roedd araith Prif Weinidog y DU ddoe yn peri hyd yn oed mwy o siom. Roedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn troi cefn ar bobl y wlad hon, yn methu ac yn amharod i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar fusnes a diwydiant. Dim arian yng Nghymru, dim buddsoddiad i Gymru, dim gofal am Gymru—troi cefn ar ein diwydiannau allweddol, ein cyflogwyr allweddol a'n pobl ar adeg pan oedd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw.
Felly, rwy'n awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy. Fe wnaethom ni hynny ar ôl dirwasgiad 2008, wrth gwrs, ac achub degau ar filoedd o swyddi, ac mae angen bargen newydd wirioneddol arnom ni, nid y fargen newydd ffug yr oedd Llywodraeth y DU yn sôn amdani ddoe, ond bargen sydd â'r uchelgais a'r weledigaeth a fydd yn buddsoddi mewn pobl a lleoedd. Mae angen i ni weld, yn fy marn i, ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, er enghraifft, gynllun swyddi, strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, sy'n gwireddu rhai o'r sgyrsiau yr ydym ni wedi eu cael eisoes, Gweinidog, trwy'r cynllun Cymoedd Technoleg, ac yn buddsoddi yn y safleoedd strategol, boed yn Rhyd y Blew neu Rasa neu unrhyw un o'r ystadau diwydiannol eraill ar hyd coridor yr A465—cynllun swyddi sy'n dwyn ynghyd y sgiliau a'r hyfforddiant â buddsoddiad mewn cysylltedd. Mae'n bryd i'r seilwaith rheilffyrdd gael ei ddatganoli o'r diwedd. Fe wnaethom ni weld ddoe nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i fuddsoddi yn ein rheilffyrdd o gwbl. Mae angen i ni wneud hynny ein hunain ac mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli er mwyn i ni allu gwneud hynny.
Ond gadewch i mi ddweud hyn, Gweinidog: rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud am 'ailadeiladu yn well', ond mae angen i rywbeth fod yn weddill i ni allu ailadeiladu arno, ac mae angen i ni allu bod â blaenoriaeth glir—swyddi, swyddi, swyddi. Mae angen i ni ddiogelu cyflogaeth bresennol. Mae angen i ni ddiogelu ein sylfaen ddiwydiannol bresennol. Mae angen i ni allu diogelu canol trefi ac ystadau diwydiannol gyda'i gilydd. Dyma'r her fwyaf i ni ei hwynebu fel Senedd, fel democratiaeth seneddol, mewn 20 mlynedd, yr her fwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ei hwynebu ers dau ddegawd, ac mae angen yr uchelgais, y weledigaeth a'r ystwythder arnom ni i ateb yr her honno. Rwy'n awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl offer a dulliau ariannol sydd ar gael iddi, ynghyd â'r ymrwymiad sefydledig hwnnw i'n cymunedau. Rwyf i wedi gweld y Gweinidog yn cerdded ac yn crwydro trwy gymunedau yn ei etholaeth ei hun yn y gogledd a fy etholaeth i yng Nghymoedd y de. Rwy'n gwybod am ei ymrwymiad i'r lleoedd hynny, ac rwy'n gwybod am ei ymrwymiad i'n pobl. Dyma'r her nawr, i wneud yr ymrwymiad hwnnw yn wirionedd.
Y peth cyntaf yr wyf i eisiau ei ddweud fel aelod o'r pwyllgor oedd ein bod wedi clywed cefnogaeth aruthrol gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cyngres yr Undebau Llafur a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain o ran eu boddhad â lefel yr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a swyddogion Cymru—rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud hynny o'r dechrau—a'r holl waith a oedd y tu ôl i hynny, wrth sicrhau bod yr holl gynlluniau niferus a roddwyd ar waith ar unwaith, mewn cyfnod byr iawn o amser, wedi eu cyflwyno drwy ddulliau y gallai pobl wneud cais iddynt a chael yr arian o hynny.
Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr holl fylchau yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw; mae pobl eraill eisoes wedi gwneud hynny. Ond gwrandewais yn astud ddoe ar y cyhoeddiad 'adeiladu, adeiladu, adeiladu' hwn gan Lywodraeth y DU ac, ar unwaith, yr un peth a'm trawodd i, ar wahân i'r hyn a oedd yn amlwg iawn, sef nad oes unrhyw symiau canlyniadol felly nid oes arian newydd, felly nid oes unrhyw ofal am Gymru, oedd y syniad hen ffasiwn hwn unwaith eto y gallwch chi ddod â swyddi allan o argyfwng nad ydyn nhw ond yn edrych, mewn gwirionedd, ar un sector o'r economi, ac felly rydych yn colli niferoedd mawr o bobl y mae angen cymorth arnyn nhw o'r cynlluniau hynny ar unwaith. Ac mae'n weddol amlwg, os edrychwch chi ar yr ystadegau ar adeiladu, bod hynny'n golygu y bydd menywod yn cael eu gadael ar ôl, oherwydd nad ydyn nhw'n rhan o'r economi honno beth bynnag. Y ffigur uchaf y byddwch yn ei weld yw 11 y cant ac, ar y safle, dim ond 1 y cant ydyw. Felly, nid yw hynny mewn gwirionedd yn mynd i adeiladu llawer o ran cyflogaeth ar gyfer y bobl hynny y tu allan i hynny.
Wedi dweud hynny i gyd, rydym ni wedi gweld, yn y gorffennol diweddar iawn, ystwythder cwmnïau yng Nghymru i gamu ymlaen a rhoi prosesau a systemau ar waith ar unwaith i gyflawni'r pethau hynny yr oedd eu hangen arnom, o awyryddion i fygydau, neu hylif golchi dwylo. Felly, maen nhw wedi bod yn arloesol ac maen nhw wedi bod yn gyflym i arloesi, ac rwy'n credu y cyfeirir ato yma yn yr argymhellion hyn. Dyna, rwy'n credu, y gallem ni ei wneud i ysgogi'r economi yn ei blaen wrth i ni ddod allan o hyn.
Y sector arall, wrth gwrs, a fu'n gyflym—ac nid buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen—yw'r sector gofal, a chyfeiriodd Helen Mary yn gwbl briodol at hynny. Mae tystiolaeth eisoes yn dod i'r amlwg am effaith y coronafeirws ar rai unigolion, a'r anghenion gofal parhaus a fydd gan yr unigolion hynny. Ac, mewn gwirionedd, yn y don gyntaf yn unig y mae hynny. Dydw i ddim eisiau ail don; does neb eisiau hynny. Ond os gwelwn ni ail don, yn anffodus rydym ni hefyd yn mynd i weld mwy o anghenion yn y sector gofal. Felly, mae angen rhywfaint o fuddsoddiad refeniw arnom ni yn ogystal â buddsoddiad cyfalaf i fynd â ni allan a'n symud ni yn ein blaenau. Ac mae wedi ei nodi—wedi ei nodi'n gwbl briodol—mai'r rhai hynny yw'r bobl y mae eu hangen arnom i fynd â chymdeithas yn eu blaen yn y pen draw mewn cyfnod o angen eithafol. Mae'n wir eu bod wedi'u tanbrisio yn y gorffennol, nid yn unig o ran y modd y mae cymdeithas yn meddwl am bobl yn y sector gofal ond hefyd o ran y tâl y maen nhw wedi'i gael am wneud y swyddi hynny. Felly, mae'n debyg mai fy mhle i chi heddiw, wrth symud ymlaen, yw edrych ar ôl yr unigolion hynny o ran eu hyfforddiant, eu statws, a gadewch i ni beidio â—. Pan fyddwn ni'n sôn am adeiladu'n ôl yn well, beth am i ni o leiaf ddeall bod y bobl hynny sydd angen i ni adeiladu'n ôl yn well ar eu cyfer nhw yn eu cyflogaeth yn cael y gydnabyddiaeth honno ym mhob agwedd.
Ac, wrth gwrs, y maes arall a fyddai wedi cael sylw nawr, ond nad yw, oherwydd ein bod ni yn y cyfnod penodol hwn, yw'r gwasanaethau bws yng Nghymru. Byddai Bil wedi bod yn mynd ar ei hynt drwy Senedd Cymru ar hyn o bryd, a byddai llawer mwy o bobl wedi bod yn mynd ar daith, yn enwedig drwy fy ardal i yng Nghymru ar fysus. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ac, er fy mod yn wirioneddol bryderus nad ydym yn gadael pobl ar ôl, rwyf yr un mor bryderus nad ydym yn llythrennol yn eu gadael ar ôl, yn gaeth yng Nghymru wledig heb unrhyw fath o drafnidiaeth, oherwydd bod cynifer o bobl—yn enwedig pobl heb arian a phobl ifanc, pobl anabl, trigolion oedrannus a phobl sydd â thocyn bws am ddim—yn dibynnu ar y math hwnnw o drafnidiaeth.
A wnewch chi ddod i ddiweddglo, os gwelwch yn dda?
Diolch. Mi ydw i.
Da iawn.
Felly, rwy'n gofyn am ddiweddariad, mewn gwirionedd, Gweinidog, ar eich syniadau, os na allwch chi gyflawni'r Bil hwnnw, ar yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud ynghylch gwasanaethau bysiau neu gludiant cyhoeddus yn y canolbarth a'r gorllewin.
Diolch. A gaf i alw yn awr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates?
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, a'i aelodau am ei waith i gynhyrchu y ddau adroddiad hynod werthfawr? A hoffwn i hefyd ddiolch i'r rhai y bu'n bosibl iddyn nhw roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo yn yr hyn sydd, wrth gwrs, wedi dod yn norm newydd ar gyfer cynnal cyfarfodydd ar hyn o bryd. Wrth gwrs, fel arfer, byddai Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiadau'r pwyllgor cyn y dadleuon, ond rwy'n cydnabod bod yr ewyllys i drafod yr adroddiadau pwysig hyn cyn y toriad yn golygu na fydd y Llywodraeth yn gallu ymateb yn ffurfiol tan fis nesaf, yn unol â'r cais.
Ceir cyfanswm o 42 o argymhellion rhwng y ddau adroddiad, felly, yn anffodus, ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob un ohonyn nhw, ond, Dirprwy Lywydd, yr hyn y byddwn i yn ei ddweud yw fy mod i'n credu ei bod yn werthfawr darllen y ddau adroddiad ochr yn ochr â'r hyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Trysorlys y DU am gymorth Llywodraeth y DU ar gyfer busnesau a'r economi, oherwydd mae rhai pryderon cyffelyb yn y tri adroddiad.
Dirprwy Lywydd, ac aelodau'r pwyllgor, yr hyn y gallaf i ei ddweud ynglŷn â'r ddau adroddiad sydd wedi'u llunio gan bwyllgor yr economi, seilwaith a sgiliau yw ein bod wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant i helpu i amddiffyn busnesau Cymru rhag effaith y coronafeirws. Mae ein pecyn cymorth i fusnesau gwerth £1.7 miliwn—mae'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol crynswth—yn ategu cynlluniau eraill yn y DU, ac mae'n golygu bod cwmnïau yng Nghymru yn gallu cael at y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, fel y nododd Huw Irranca-Davies.
Aethom ati yn fwriadol i gynllunio ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn ar gyfer Cymru yn unig i lenwi'r bylchau a adawyd gan becyn cymorth busnes Llywodraeth y DU, ac mae hyn oherwydd ein bod yn dymuno cefnogi cynifer o fusnesau, cynifer o swyddi, ag y gallwn yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
Gwyddom hefyd fod ein dull yn gweithio. Mae data o arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, o holl wledydd y DU, mai yng Nghymru o bell ffordd—o bell ffordd—y mae'r ganran uchaf o fusnesau sydd wedi gwneud cais am grantiau busnes sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws, a'u cael. Canfu'r arolwg mai'r ffigur ar gyfer busnesau sy'n cael cymorth yng Nghymru yw 32 y cant o'r 260,000 o fusnesau sydd gennym ni. Mae hynny'n cyferbynnu â dim ond 14 y cant o fusnesau sy'n cael cymorth uniongyrchol gan y Llywodraeth yn Lloegr, 21 y cant yn yr Alban a 24 y cant yng Ngogledd Iwerddon.
Felly, o ganlyniad i'r gronfa cadernid economaidd gwerth £0.5 biliwn, gan gynnwys, wrth gwrs, cymorth gan Fanc Datblygu Cymru, rydym wedi gallu helpu yn agos i 8,000 o fusnesau gyda mwy na £200 miliwn o gymorth na fyddai wedi bod ar gael yn un man arall, ac mae hynny wedi arwain at arbed degau o filoedd o swyddi. Nawr, ddydd Llun, fe wnaethom ailagor cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, gan roi mwy o gyfleoedd i ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig ac i fusnesau mawr wneud cais am arian. Byddwn hefyd yn ymestyn ein cymorth i gwmnïau a busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW a ddechreuodd ar ôl mis Mawrth 2019.
Nawr, o ran cwestiwn Mark Isherwood ynghylch cymorth i'r sector twristiaeth, gallaf gadarnhau bod mwy na £11 miliwn o gymorth wedi'i ddarparu i fusnesau twristiaeth a lletygarwch drwy gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd. Mae wedi arbed mwy na 4,000 o swyddi, ac ni fyddai'r cymorth hwnnw wedi bod ar gael mewn mannau eraill yn y DU. Ac rydym hefyd yn darparu £5 miliwn yn benodol i gefnogi cwmnïau sy'n cychwyn, nad ydyn nhw hyd yn hyn wedi cael cymorth gan gynllun cymorth hunan-gyflogaeth Llywodraeth y DU. Nawr, bydd ein cynllun grant, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn cefnogi 2,000 o fusnesau newydd gyda grantiau o £2,500 yr un, ac, wrth gwrs, mae hyn yn dod cyn i Lywodraeth y DU ymateb yn ffurfiol i argymhellion Pwyllgor Trysorlys y DU ar gyfer llenwi'r bylchau hynny a nodwyd gan aelodau pwyllgor yr economi, seilwaith a sgiliau. Ac rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, gan fod llawer o fylchau yn dal i fodoli ledled y DU ac sy'n gofyn am sylw Llywodraeth y DU, gan gynnwys, er enghraifft, yr angen i ymestyn y cynllun cadw swyddi ar gyfer sectorau penodol—ar gyfer twristiaeth, diwylliant ac awyrofod—ac amlygwyd y bylchau hynny gan nifer o Aelodau, gan gynnwys Helen Mary Jones a Mark Isherwood.
Nawr, mae'r cynllun cadw swyddi, wedi bod yn achubiaeth i lawer o fusnesau, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU—yn gyfan gwbl—osgoi ymyl clogwyn pan ddaw'n fater o roi terfyn ar gynlluniau ffyrlo a hunan-gyflogaeth. Ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn derbyn na fydd effaith lawn y coronafeirws ar yr economi yn cael ei datgelu tan yr hydref, pan fo'r rhain wedi'u hamserlennu i gael eu dirwyn i ben. Nawr, ddoe, clywsom hefyd, fel y mae Aelodau wedi'i nodi, y Prif Weinidog yn ailgyhoeddi gwahanol brosiectau seilwaith, ac yn mabwysiadu'r addewid yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ers rhai misoedd i adeiladu'n ôl yn well. Nawr, i ni yn Llywodraeth Cymru, mae hynny'n golygu buddsoddi mewn twf gwyrdd a theg. Mae'n golygu buddsoddi mewn busnesau sy'n ymrwymo i'r contract economaidd sydd gennym erbyn hyn gyda miloedd ar filoedd o fentrau yng Nghymru. Mae'n golygu gwneud yr union beth y mae Alun Davies wedi'i fynegi, sef buddsoddi mewn lleoedd y mae angen hwb arnyn nhw, buddsoddi mewn pobl nad ydyn nhw wedi mwynhau canlyniadau twf yn ystod y cyfnod o ddad-ddiwydiannu. Mae'n golygu creu, yn fy marn i, economi wleidyddol niwtral o ran rhyw sy'n llai gwyn ac yn llai ffafriol i bobl a lleoedd sydd eisoes yn gefnog ac yn bwerus. Ac mae adeiladu yn ôl yn well hefyd yn golygu adeiladu dyfodol gyda'n gilydd. Ac rwyf wedi bod yn hynod ddiolchgar am y syniadau a'r cyngor gan Aelodau ar draws y Siambr.
Nawr, fel y dywedodd Rhianon Passmore, ni all yr adferiad weld mesurau cyni yn dychwelyd. I'r gwrthwyneb, dylai'r adferiad weld manteision lluosog yn deillio o adferiad economaidd gwyrdd, un sy'n creu swyddi lleol, yn cyfrannu at ddatgarboneiddio, yn adeiladu economi sylfaenol, yn darparu sgiliau, yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac yn darparu cartrefi gwell, gwyrddach. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd fod angen hanfodol am adferiad ar sail pobl yn wyneb y diweithdra, tangyflogaeth ac anweithgarwch economaidd sylweddol a ddisgwylir yng Nghymru a ledled y DU dros y 12 mis nesaf. Ac, fel y soniais ychydig wythnosau yn ôl, rydym ni'n datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr a fydd yn caniatáu i bobl uwchsgilio a dod o hyd i swyddi newydd, er mwyn i ni allu gwarchod cenhedlaeth rhag effeithiau diweithdra sy'n creu craith. Ac rydym ni'n barod i ddefnyddio £40 miliwn o gyllid cadernid economaidd i wneud yr union beth hwnnw.
Rwy'n credu y bydd angen i ni hefyd ailwampio ac ailflaenoriaethu cynigion y rhaglen brentisiaethau, addysg bellach a phrifysgolion, ac mae'r pwyllgor yn nodi'r camau a gymerwyd i sicrhau sefydlogrwydd ariannol y rhwydwaith prentisiaethau, ac rwy'n croesawu hyn yn fawr. Mae wedi galluogi darparwyr hyfforddiant i ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng COVID, gan gyflwyno strategaethau dysgu ar-lein a chadw mewn cysylltiad. Mae galluogi recriwtio ar gyfer prentisiaethau yn rhan annatod o'r broses adfer, fel ystyried cyfres gynhwysfawr o gymorth i bobl sy'n wynebu colli eu swyddi, y rhai a ddiswyddwyd, a gweithwyr y mae angen iddyn nhw uwchsgilio. Mae hyn yn cynnwys cynnig mynediad at wasanaethau gweithio'n dda ar gyfer unigolion, rhoi cyngor ac arweiniad iddyn nhw ar ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, a'u helpu i oresgyn pa bynnag heriau a rhwystrau personol y maen nhw'n eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith chael swydd.
Byddwn yn cynyddu mynediad at gyfrifon dysgu personol a chymorth drwy ein rhaglenni ReAct a sgiliau cyflogadwyedd, yn ogystal â'n rhaglen Twf Swyddi Cymru, sy'n darparu cyfleoedd gwaith gwerthfawr i bobl ifanc nad oes ganddyn nhw brofiad gwaith perthnasol o bosibl. Ac, fel y mae nifer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, mae pobl ifanc wedi'u nodi fel y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddiweithdra hirdymor o ganlyniad i'r coronafeirws. Felly, yn naturiol bydd ein buddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer rhai dan 25 oed. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu cymorth i'r rhai hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, gan gynnwys pobl anabl, y rhai â sgiliau isel, ac unigolion o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nawr, hyd yma, mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol wedi cefnogi 48,000 o bobl, 18,000 ohonyn nhw wedi symud i mewn i gyflogaeth, ac, mewn ymateb i'r coronafeirws, mae'r ddarpariaeth wedi'i haddasu i helpu 400 o bobl i gael gwaith ers mis Ebrill eleni.
Mae ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn parhau i roi darlun rhanbarthol strategol i ni o'r blaenoriaethau ar gyfer sgiliau, yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad lafur ac wedi'u llywio gan angen y cyflogwyr. Ac rydym wedi comisiynu'r partneriaethau hyn i gynhyrchu adroddiadau bob dau fis i gasglu gwybodaeth a arweinir gan gyflogwyr ar draws rhanbarthau Cymru er mwyn darparu gwybodaeth ar effaith y coronafeirws ar draws sectorau a chlystyrau diwydiant.
Ac, yn fyr, uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol, fel y nododd Joyce Watson, ar draws Cymru gyfan. Rydym ni eisoes wedi gwario £29 miliwn ar gronfa caledi ar gyfer y sector bysiau, gan helpu gweithredwyr i gynnal gwasanaethau craidd. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar gan fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, yn cadarnhau cyllid cychwynnol o £15.4 miliwn i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer mathau cynaliadwy a llesol o deithio mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws, yn dangos ein bwriad prydlon.
Llywydd, fel y crybwyllwyd yn gynharach, edrychaf ymlaen at ymateb yn ffurfiol ac yn llawn fis nesaf, ond, yn y cyfamser, hoffwn ddiolch eto i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau.
Diolch. Russell George, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl. Russell George.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw? Mae'n arbennig o dda bod Aelodau nad ydyn nhw'n rhan o'n pwyllgor wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n dangos pa mor bwysig yr oedd hi ein bod wedi cael y ddadl hon efallai yn gynharach nag y byddem wedi'i ddisgwyl efallai yn y gorffennol.
Roeddwn i'n meddwl bod sylwadau Huw Irranca-Davies yn arbennig, yn gywir ynghylch datganoli. Mae datganoli yn rhoi cyfle i ni ymateb i anghenion sy'n benodol i Gymru—dyna'r hyn y bwriedir i ddatganoli ei wneud. Ac, fel y dywedodd Huw Irranca, meddyliais am sut y mae Cymru yn economi busnesau bach, a sut y mae angen i ni gynorthwyo busnesau bach, mewn ffordd sy'n wahanol iawn efallai i sut y gall busnesau gael eu cynorthwyo mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
A gaf i hefyd ddiolch i eraill a gymerodd ran yn y ddadl, wrth i mi edrych drwy fy nodiadau? Tynnodd Mark Isherwood sylw yn briodol at yr angen am gyflymder, o ran cymorth gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol—rhywbeth a amlygwyd, mewn tystiolaeth i'n pwyllgor ni, gan nifer o dystion. Ac roedd y sector gwyliau gosod hefyd yn rhywbeth a godwyd yn eithaf helaeth gyda'n pwyllgor, ac rydym wedi cynnwys hyn yn ein hadroddiad. Tynnodd Mark Isherwood sylw hefyd at y ffaith fod cymorth i'r diwydiant bysiau yn hanfodol, ac rydym yn dal i aros am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru o ran manylion am lefel y cymorth tuag at y diwydiant bysiau. Ac, ers i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, rydym wedi codi'r mater hwn gyda'r Gweinidog ar wahân ers hynny.
Mae Helen Mary Jones, wrth gwrs, yn tynnu sylw ar y ffaith bod y cynllun hirdymor yn bwysig yn gyffredinol, ac yn nodi'n gywir y materion ynglŷn â'r broblem bosibl o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc sydd, yn anffodus, ar y gorwel. Rhoddwyd tystiolaeth i ni gan yr Athro Keep, a rhoddodd y rhybudd moel i ni fod problemau enfawr ar y gorwel. Ac rwy'n credu bod y broblem o ran diweithdra ymhlith pobl ifanc yn rhywbeth a fydd yn arbennig o bwysig i waith ein pwyllgor ni wrth symud ymlaen.
David Rowlands—diolch i chi am eich cyfraniad. Fe wnaethoch chi dynnu sylw yn briodol at faterion yn ymwneud â'r angen am fwy o eglurder ynghylch y cronfeydd ffyniant cyffredin—mae hynny'n hollol iawn. Ac fe wnaethoch chi hefyd, David, gydnabod gwaith da Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cydnabod hynny yn ein hadroddiad. Mae hefyd yn iawn i ddweud ac i gofnodi diolch i'r holl staff sy'n gweithio yn y ddau sefydliad hynny, sydd, heb os, wedi bod o dan bwysau sylweddol yn y cyfnod diweddar.
Mae Alun Davies yn nodi'n gywir, wrth gwrs, mai'r bobl dlotaf yn aml sy'n cael eu taro yn ystod y pandemig arbennig hwn, ac mae'n sôn yn gywir am faint yr her. Rwy'n credu i chi gyfeirio at yr her fwyaf efallai ers datganoli hyd yn oed. Ond yr hyn a'm trawodd i oedd yr hyn a ddywedasoch chi, Alun, o ran adeiladu yn ôl yn well: i wneud hynny, mae angen i chi fod â rhywbeth i adeiladu arno.
A diolch i Joyce Watson am ei chyfraniad. Rwy'n credu bod Helen Mary Jones hefyd wedi tynnu sylw at y materion hyn o ran bod yn deg o ran ble mae cymorth yn cael ei dargedu. Rydym ni'n gwybod bod y diwydiant adeiladu a phrosiectau seilwaith yn aml yn canolbwyntio ar ddynion, ac mae gwaith gofal yn canolbwyntio ar fenywod, ac mae'n rhaid i ni fod yn deg ynghylch sut y caiff cymorth y Llywodraeth ei wastatáu.
Wrth edrych drwy fy nodiadau, rwy'n credu y dylwn i hefyd ddweud fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am sicrhau bod ei ddyddiadur yn rhydd er mwyn iddo ddod i'r pwyllgor pan ein bod wedi gofyn iddo wneud hynny. Felly, diolch i'r Gweinidog am hynny. Roedd yn adroddiad eithaf cynhwysfawr. David Rowlands ddywedodd, rwy'n credu, bod gennym ni gyfanswm o 34 o argymhellion. Ond hoffwn ddiolch i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig, i ni, a hoffwn nodi hefyd ein diolch am y gefnogaeth ardderchog gan dîm y pwyllgor a'r staff ymchwil, yn ogystal â'r gefnogaeth gan y timau TG a darlledu a'u cefnogaeth ehangach nhw hefyd, a roddodd gefnogaeth ardderchog i ni. Felly, a gaf i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein dadl y prynhawn yma? Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr.
Y cynnig yw i nodi yr adroddiad. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld nac yn clywed gwrthwynebiad, ac felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.