Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Nawr, o ran cwestiwn Mark Isherwood ynghylch cymorth i'r sector twristiaeth, gallaf gadarnhau bod mwy na £11 miliwn o gymorth wedi'i ddarparu i fusnesau twristiaeth a lletygarwch drwy gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd. Mae wedi arbed mwy na 4,000 o swyddi, ac ni fyddai'r cymorth hwnnw wedi bod ar gael mewn mannau eraill yn y DU. Ac rydym hefyd yn darparu £5 miliwn yn benodol i gefnogi cwmnïau sy'n cychwyn, nad ydyn nhw hyd yn hyn wedi cael cymorth gan gynllun cymorth hunan-gyflogaeth Llywodraeth y DU. Nawr, bydd ein cynllun grant, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn cefnogi 2,000 o fusnesau newydd gyda grantiau o £2,500 yr un, ac, wrth gwrs, mae hyn yn dod cyn i Lywodraeth y DU ymateb yn ffurfiol i argymhellion Pwyllgor Trysorlys y DU ar gyfer llenwi'r bylchau hynny a nodwyd gan aelodau pwyllgor yr economi, seilwaith a sgiliau. Ac rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, gan fod llawer o fylchau yn dal i fodoli ledled y DU ac sy'n gofyn am sylw Llywodraeth y DU, gan gynnwys, er enghraifft, yr angen i ymestyn y cynllun cadw swyddi ar gyfer sectorau penodol—ar gyfer twristiaeth, diwylliant ac awyrofod—ac amlygwyd y bylchau hynny gan nifer o Aelodau, gan gynnwys Helen Mary Jones a Mark Isherwood.
Nawr, mae'r cynllun cadw swyddi, wedi bod yn achubiaeth i lawer o fusnesau, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU—yn gyfan gwbl—osgoi ymyl clogwyn pan ddaw'n fater o roi terfyn ar gynlluniau ffyrlo a hunan-gyflogaeth. Ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn derbyn na fydd effaith lawn y coronafeirws ar yr economi yn cael ei datgelu tan yr hydref, pan fo'r rhain wedi'u hamserlennu i gael eu dirwyn i ben. Nawr, ddoe, clywsom hefyd, fel y mae Aelodau wedi'i nodi, y Prif Weinidog yn ailgyhoeddi gwahanol brosiectau seilwaith, ac yn mabwysiadu'r addewid yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ers rhai misoedd i adeiladu'n ôl yn well. Nawr, i ni yn Llywodraeth Cymru, mae hynny'n golygu buddsoddi mewn twf gwyrdd a theg. Mae'n golygu buddsoddi mewn busnesau sy'n ymrwymo i'r contract economaidd sydd gennym erbyn hyn gyda miloedd ar filoedd o fentrau yng Nghymru. Mae'n golygu gwneud yr union beth y mae Alun Davies wedi'i fynegi, sef buddsoddi mewn lleoedd y mae angen hwb arnyn nhw, buddsoddi mewn pobl nad ydyn nhw wedi mwynhau canlyniadau twf yn ystod y cyfnod o ddad-ddiwydiannu. Mae'n golygu creu, yn fy marn i, economi wleidyddol niwtral o ran rhyw sy'n llai gwyn ac yn llai ffafriol i bobl a lleoedd sydd eisoes yn gefnog ac yn bwerus. Ac mae adeiladu yn ôl yn well hefyd yn golygu adeiladu dyfodol gyda'n gilydd. Ac rwyf wedi bod yn hynod ddiolchgar am y syniadau a'r cyngor gan Aelodau ar draws y Siambr.
Nawr, fel y dywedodd Rhianon Passmore, ni all yr adferiad weld mesurau cyni yn dychwelyd. I'r gwrthwyneb, dylai'r adferiad weld manteision lluosog yn deillio o adferiad economaidd gwyrdd, un sy'n creu swyddi lleol, yn cyfrannu at ddatgarboneiddio, yn adeiladu economi sylfaenol, yn darparu sgiliau, yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd, ac yn darparu cartrefi gwell, gwyrddach. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd fod angen hanfodol am adferiad ar sail pobl yn wyneb y diweithdra, tangyflogaeth ac anweithgarwch economaidd sylweddol a ddisgwylir yng Nghymru a ledled y DU dros y 12 mis nesaf. Ac, fel y soniais ychydig wythnosau yn ôl, rydym ni'n datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr a fydd yn caniatáu i bobl uwchsgilio a dod o hyd i swyddi newydd, er mwyn i ni allu gwarchod cenhedlaeth rhag effeithiau diweithdra sy'n creu craith. Ac rydym ni'n barod i ddefnyddio £40 miliwn o gyllid cadernid economaidd i wneud yr union beth hwnnw.
Rwy'n credu y bydd angen i ni hefyd ailwampio ac ailflaenoriaethu cynigion y rhaglen brentisiaethau, addysg bellach a phrifysgolion, ac mae'r pwyllgor yn nodi'r camau a gymerwyd i sicrhau sefydlogrwydd ariannol y rhwydwaith prentisiaethau, ac rwy'n croesawu hyn yn fawr. Mae wedi galluogi darparwyr hyfforddiant i ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng COVID, gan gyflwyno strategaethau dysgu ar-lein a chadw mewn cysylltiad. Mae galluogi recriwtio ar gyfer prentisiaethau yn rhan annatod o'r broses adfer, fel ystyried cyfres gynhwysfawr o gymorth i bobl sy'n wynebu colli eu swyddi, y rhai a ddiswyddwyd, a gweithwyr y mae angen iddyn nhw uwchsgilio. Mae hyn yn cynnwys cynnig mynediad at wasanaethau gweithio'n dda ar gyfer unigolion, rhoi cyngor ac arweiniad iddyn nhw ar ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, a'u helpu i oresgyn pa bynnag heriau a rhwystrau personol y maen nhw'n eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith chael swydd.
Byddwn yn cynyddu mynediad at gyfrifon dysgu personol a chymorth drwy ein rhaglenni ReAct a sgiliau cyflogadwyedd, yn ogystal â'n rhaglen Twf Swyddi Cymru, sy'n darparu cyfleoedd gwaith gwerthfawr i bobl ifanc nad oes ganddyn nhw brofiad gwaith perthnasol o bosibl. Ac, fel y mae nifer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, mae pobl ifanc wedi'u nodi fel y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddiweithdra hirdymor o ganlyniad i'r coronafeirws. Felly, yn naturiol bydd ein buddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer rhai dan 25 oed. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu cymorth i'r rhai hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, gan gynnwys pobl anabl, y rhai â sgiliau isel, ac unigolion o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nawr, hyd yma, mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol wedi cefnogi 48,000 o bobl, 18,000 ohonyn nhw wedi symud i mewn i gyflogaeth, ac, mewn ymateb i'r coronafeirws, mae'r ddarpariaeth wedi'i haddasu i helpu 400 o bobl i gael gwaith ers mis Ebrill eleni.
Mae ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn parhau i roi darlun rhanbarthol strategol i ni o'r blaenoriaethau ar gyfer sgiliau, yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad lafur ac wedi'u llywio gan angen y cyflogwyr. Ac rydym wedi comisiynu'r partneriaethau hyn i gynhyrchu adroddiadau bob dau fis i gasglu gwybodaeth a arweinir gan gyflogwyr ar draws rhanbarthau Cymru er mwyn darparu gwybodaeth ar effaith y coronafeirws ar draws sectorau a chlystyrau diwydiant.
Ac, yn fyr, uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol, fel y nododd Joyce Watson, ar draws Cymru gyfan. Rydym ni eisoes wedi gwario £29 miliwn ar gronfa caledi ar gyfer y sector bysiau, gan helpu gweithredwyr i gynnal gwasanaethau craidd. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar gan fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, yn cadarnhau cyllid cychwynnol o £15.4 miliwn i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer mathau cynaliadwy a llesol o deithio mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws, yn dangos ein bwriad prydlon.
Llywydd, fel y crybwyllwyd yn gynharach, edrychaf ymlaen at ymateb yn ffurfiol ac yn llawn fis nesaf, ond, yn y cyfamser, hoffwn ddiolch eto i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau.