Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Rydym ni wedi cyhoeddi ein bod ni hefyd yn sefydlu gweithgor i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu ac i nodi bylchau presennol mewn adnoddau a hyfforddiant. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn y gwaith hwnnw, fod hynny yn edrych yn ehangach o lawer na dim ond y pwnc hanes. Yn hytrach, rwyf i'n awyddus i hynny fod yn ymdrech wirioneddol drawsgwricwlaidd, gan gynnwys esiamplau da cadarnhaol a dysgu trwy ein hamgylchedd diwylliannol ehangach, gan gynnwys cyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i lenyddiaeth, y cyfryngau, chwaraeon, yr economi. Mae'n rhaid iddo ymwneud â chymaint mwy na'r pwnc hanes yn unig. Ond, wrth gwrs, fe fydd yn adeiladu ar Fis Hanes Pobl Dduon a'r trafodaethau a'r ymgynghori parhaus â rhanddeiliaid a chyngor hil Cymru, ar feysydd lle bydd eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn helpu i lywio cyfeiriad a darparu atebion i faterion penodol.
Nawr, o fewn y cwricwlwm i Gymru, byddwn yn deddfu ar ei ddibenion, ac un o'r pedwar diben yw y dylai dysgwyr ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd sy'n gwybod am eu diwylliant, eu cymuned a'u cymdeithas a'r byd, yn awr ac yn y gorffennol, ac yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill fel aelodau o gymdeithas amrywiol.
Mae tangynrychiolaeth cymunedau duon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu addysg hefyd yn fater yr hoffwn i fynd ati i geisio'i gywiro. Rydym ni wedi sefydlu prosiect i edrych yn benodol ar y materion sy'n ymwneud â recriwtio i raglenni addysg gychwynnol athrawon ac i'r gweithlu yn fwy cyffredinol. Rydym ni wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg i gynnal adolygiad o'r data sydd ar gael i gefnogi datblygiad ein polisïau newydd yn y maes hwn, ac rydym ni hefyd yn ymgysylltu â'r rhanddeiliaid perthnasol, megis y fforwm hil a ffydd a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Bydd ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid eraill yn cynyddu wrth i'r prosiect fynd rhagddo, a byddwn yn defnyddio'r data a'r wybodaeth a ddarperir gan randdeiliaid i ddatblygu polisïau i fynd i'r afael yn strategol â'r prinder cronig o gynrychiolwyr duon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu addysg. Rwyf i'n dymuno i'n plant weld eu cymunedau yn cael eu hadlewyrchu yn y rhai hynny sy'n sefyll o'u blaen eu dosbarthiadau.
Fel sydd wedi ei grybwyll, mae'r canllawiau ar gyfer y cwricwlwm newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio cyd-destunau lleol a chenedlaethol ym mhob rhan o ddysgu. Yn benodol, mae'n nodi y dylai ymarferwyr gefnogi dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad dilys o gynefin, gan ddatblygu gwybodaeth o wahanol ddiwylliannau a hanesion, eu galluogi i ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth unigol a deall sut y mae hynny wedi ei gysylltu a'i ffurfio gan ddylanwadau ehangach y byd. Mae canllawiau ar gyfer maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn cyfeirio at yr angen am amlygiad cyson i straeon ardal y dysgwyr a stori Cymru, yn ogystal â stori'r byd ehangach, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, amlblwyfol ac amrywiol ein cenedl a chymdeithasau eraill.
Bydd maes dysgu a phrofiad y dyniaethau hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am eu treftadaeth a'u hymdeimlad o le drwy astudiaeth o Gymru a'u cynefin. Yn hollbwysig, fel sydd wedi ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma, bydd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu meddwl sy'n holi ac yn cwestiynu, a bydd yn archwilio ac yn ymchwilio i'r byd—yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol—eu hunain. Bydd ystyried gwahanol safbwyntiau, gan gynnwys rhai pobl dduon acc Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng nghyd-destun diwylliannau Cymru, yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o'r amrywiaeth ethnig a diwylliannol sydd yng Nghymru. At ei gilydd, bydd y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i werthfawrogi faint y maen nhw'n rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a all eu hannog i gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau, gan gynnwys recordio fideos ynglŷn â pham mae bywydau pobl dduon yn bwysig. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at ddysgu a gwybodaeth well na rhagnodi hyn yn ddim mwy na thopig y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cwricwlwm mewn pwnc unigol.
Rwyf i am droi yn awr at y mater arall a godwyd gan Plaid, a hoffwn i ddechrau trwy ail-ddatgan fy nghefnogaeth i addysg cyfrwng Cymraeg a chydnabod hefyd y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion a'n lleoliadau sy'n darparu rhaglenni trochi yn y Gymraeg. Nid yw fy nyheadau ar gyfer y Gymraeg wedi newid, ac fel y dywedais i wrth lansio'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, bydd y Bil hwn yn galluogi rhaglenni trochi Cymraeg i barhau, gan roi sylfaen gyfreithiol gadarn iddo a chryfhau ei sefyllfa fel elfen allweddol o gyrraedd ein dyheadau, fel dull gweithredu addysgeg sydd wedi ei brofi—dull y mae fy mhlant i fy hun wedi elwa arno.
Rwyf i wedi siarad â Siân yn unigol ynghylch y mater trochi yn y gorffennol, ac rwy'n cydnabod bod ganddi bryderon ynghylch yr agwedd benodol hon ar y Bil. Rwy'n credu, yn wir, ac rwy'n gobeithio, y byddai Siân yn derbyn ein bod ni i gyd yn dod i hyn o'r un lle, sef cefnogi addysg drochi yn y Gymraeg. A gallaf i sicrhau pawb—cyd-Aelodau o'r Senedd ac, yn wir, rhanddeiliaid—y byddaf i'n ceisio parhau i drafod ac ymgysylltu ar y materion hyn yn ystod hynt y Bil trwy'r Senedd, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu bod yn hyderus bod y dyhead o fod yn wlad ddwyieithog yn cael ei wireddu.
Felly, i gloi, Llywydd, hoffwn i ddiolch unwaith eto i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniad at y ddadl hon, ac rwy'n edrych ymlaen, gyda'ch caniatâd, at gyflwyno'r Bil yn ffurfiol cyn bo hir.