Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Siân Gwenllian a Phlaid Cymru am y cyfle i drafod y cwricwlwm newydd arfaethedig. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, disgwylir i'r Bil cwricwlwm ac asesu, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, gael ei gyflwyno cyn toriad yr haf. Mae Plaid Cymru yn gywir i gydnabod y cwricwlwm newydd fel cyfle hanesyddol, ac mae'n hanesyddol oherwydd y bydd yn rhoi cyfle i ni sefydlu dull o weithredu cwricwlwm sydd, am y tro cyntaf, wedi ei greu gan athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr addysg ac academyddion yng Nghymru ar gyfer dysgwyr Cymru. Caiff egwyddorion a chredoau'r cwricwlwm newydd eu cydnabod yn rhyngwladol, ac mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gefnogol iawn o'n hymagwedd, gan ddisgrifio Cymru fel bod, ac rwy'n dyfynnu:
ar y llwybr i drawsnewid y ffordd y mae plant yn dysgu.
Mae'r Bil yn ceisio sefydlu fframwaith cwricwlwm i Gymru, y sail ddeddfwriaethol i ddarparu lefel o gysondeb a thegwch i ddysgwyr wrth roi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau ddarparu cyfleoedd dysgu ymgysylltiol a phenodol. Mae'n pwysleisio, o fewn fframwaith cenedlaethol, mai ysgolion ac ymarferwyr sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau am anghenion eu dysgwyr penodol a'r cyfleoedd ar eu cyfer, gan gynnwys dewis pynciau a gweithgareddau a fydd yn cefnogi eu dysgu orau. Nid yw rhestru cynnwys ar lefel genedlaethol yn gwarantu dysgu ystyrlon mewn unrhyw ffordd, dim ond bod pynciau penodol yn cael eu cynnwys i raddau amrywiol. Yn hytrach, mae canllawiau cwricwlwm Cymru yn mynegi pa gysyniadau a hanfodion dysgu ddylai fod yn sail i amrywiaeth o wahanol bynciau a gweithgareddau.
Mae angen i addysg ymwneud â chymaint mwy na rhestr. Mae angen arloesedd a dawn greadigol ymarferwyr i ddod â dysgu yn fyw i blant, a thrwy'r Bil hwn bydd Cymru yn rhoi anghenion ei dysgwyr yn gyntaf, ac yn ganolog, ac yn ysgogi ac yn ennyn diddordeb ymarferwyr ac athrawon i'w cefnogi.
Mae canllawiau cwricwlwm Cymru, a gyhoeddwyd gennyf ym mis Ionawr, yn nodi hanfodion dysgu. Ni fydd y Bil na'i ddogfennau cysylltiedig yn pennu rhestr lawn o bynciau na gweithgareddau penodol. Fodd bynnag, bydd angen i ni barhau i weithio gyda phartneriaid i helpu i ddarparu adnoddau dysgu i gefnogi ysgolion yn yr ymdrech heriol ond hollbwysig hon.
Gan droi'n gyntaf at faes lle'r wyf i'n teimlo'n gryf fod angen i ni wella yn ogystal â datblygu ein dealltwriaeth, ac i wella'r ffordd yr ydym yn cefnogi dysgu, mae'r digwyddiadau diweddar yn America, ar draws y byd yn wir, wedi ein hatgoffa i gyd o bwysigrwydd pob agwedd ar ein hanes. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y byddwn wir yn gweithio gydag Estyn i sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.