Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’r misoedd diwethaf wedi gorfodi bob un ohonom ni i gymryd golwg o’r newydd ar yr hyn sydd bwysicaf i ni. Mae hefyd, yn anffodus, wedi amlygu’r anghyfiawnder a’r anghyfartaledd sydd wrth wraidd ein cymdeithas ni o hyd.
Cyn hir, mi fyddwn ni, fel deddfwrfa, yn ymgymryd â’r gwaith pwysig o graffu ar un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i ddod gerbron y Senedd yma yn ei hanes—deddfwriaeth fydd yn rhoi’r cyfle i ni fynd ati efo llechen lân am y tro cyntaf i ddeddfu i greu cwricwlwm addysg ysgolion pwrpasol i Gymru.
At ei gilydd, mae’r weledigaeth gyffredinol sy’n sail i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn un yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn cyd-fynd â hi. Mae’n cynnig cyfle i wireddu sawl uchelgais ac i gyflawni sawl nod clodwiw. Ar drothwy cyhoeddi’r Bil cwricwlwm ac asesu wythnos nesaf, mi oeddem ni’n teimlo y byddai hi'n amserol manteisio ar y cyfle heddiw i gael trafodaeth benodol ar y cyfleoedd fydd y ddeddfwriaeth yn ei chynnig i unioni anghyfiawnder ac i greu Cymru sy’n fwy cynhwysol i bawb.
Prynhawn yma, dwi am ganolbwyntio ar y tri pheth y mae angen i'r cwricwlwm newydd ei wneud. Mae yna fwy na thri pheth wrth gwrs, ac yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd, bydd cyfle inni wyntyllu elfennau pwysig eraill, megis iechyd meddyliol a lles emosiynol. Ond dwi am roi ffocws heddiw ar dair elfen.
Yn gyntaf, rhaid i'r cwricwlwm newydd sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am hanes pobl ddu a phobl o liw, er mwyn atal hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol. Yn ail, rhaid iddo fo warantu bod pob disgybl yn dysgu am hanes Cymru, er mwyn cael y cyfle i allu gweld y byd drwy ffenestr y wlad y maen nhw'n astudio ac yn byw ynddi hi. Ac yn drydydd, rhaid iddo fo ein symud ni at sefyllfa lle mae bod yn rhugl yn ein dwy iaith genedlaethol yn dod yn norm, nid yn eithriad, drwy sicrhau bod y cwricwlwm yn prysuro ac yn hwyluso twf addysg cyfrwng Cymraeg.