11. Dadl Plaid Cymru: Cwricwlwm Newydd Arfaethedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:20, 1 Gorffennaf 2020

Mae'r Llywodraeth eisoes wedi derbyn bod yn rhaid gwneud rhai elfennau o'r cwricwlwm yn statudol mewn deddfwriaeth er mwyn gwarantu bod materion yn cael sylw haeddiannol ac yn cael eu cyflwyno i bob disgybl yn ddiwahân. Mae'n sefyll i reswm mai cyfrifoldeb llywodraeth gwlad ydy rhoi trefniadau cadarn ar waith mewn deddfwriaeth i ddiogelu plant. Ac mae'r Gweinidog i'w llongyfarch felly am ei phenderfyniad i sicrhau y bydd addysg rhyw a pherthnasau iach yn cael ei hystyried yn fater o hawliau dynol sylfaenol yng Nghymru yn y dyfodol.

Ond lle mae'r rhesymeg dros ddilyn trywydd cwbl wahanol gydag addysgu hanes pobl ddu a phobl o liw? Ble mae'r rhesymeg mewn peidio cymhwyso'r un ystyriaethau a'r un meini prawf i'r materion hyn hefyd? Fe glywais i'r barnwr Ray Singh yn dweud yn ddiweddar nad ydy'r drefn wirfoddol o ddysgu am y materion yma wedi gweithio ac, o ganlyniad, fod hanes pobl ddu a phobl o liw, yn ôl ei asesiad o, yn absennol o wersi ysgol i bob pwrpas. Rŵan, dwi yn prysuro i ddweud mai problem systematig ydy hon, ac nid bai ysgolion nac athrawon unigol, fel y cyfryw, ydy hyn.

Ond mae nifer o arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys Cyngor Hil Cymru, wedi dadlau bod yn rhaid gwneud hanes BAME yn orfodol, fel rhan o hanes Cymru, yn ein hysgolion ni. A'r wythnos diwethaf, mi gawson ni'r dystiolaeth ddiweddaraf eto, mewn rhes o adroddiadau, o'r angen hwn. Ac yn yr adolygiad, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, i ddeall effaith anghymesur COVID-19 ar bobl BAME yng Nghymru, fe gafwyd argymhellion pendant yn galw am weithredu, yn ddi-oed, i gynnwys hanes ac addysg BAME a'r Gymanwlad yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru 2022 ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd.

Mae'r neges yn glir: mae'n rhaid i Lywodraeth fod wrth y llyw, yn gwneud popeth yn ei gallu i waredu hiliaeth o'n cymdeithas. Does bosib nag ydym ni yn mynd i ddirprwyo rhywbeth sydd mor allweddol i'n hymdrechion i waredu hiliaeth o'n cymdeithas i bob corff llywodraethol unigol, neu i weithgor dan oruchwyliaeth Estyn. Does bosib nad dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd o'i chwmpas hi. Mi fyddaf i, felly, yn erfyn ar yr Aelodau hynny sydd o'r un farn â mi i wrthod gwelliant y Llywodraeth yn enw Rebecca Evans. Gyda llaw, mi fyddwn ni yn gwrthod y gwelliannau eraill hefyd am eu bod nhw, yn ein barn ni, yn tynnu oddi ar brif neges ein cynnig ni. 

Mi ydwyf i, fel sawl un arall ar draws y Siambr, wedi sôn droeon am yr achos cryf sydd dros gynnwys hanes Cymru fel rhan neilltuol a statudol o'r cwricwlwm, yn ei holl ffurf ac yn ei holl amrywiaeth, wrth reswm. Felly, ni wnaf amlhau geiriau ynglŷn â hynny, dim ond i ddweud bod y drefn bresennol wedi methu â rhoi ffocws priodol ar hanes Cymru ac wedi gwadu cenedlaethau o blant rhag cael dealltwriaeth gyflawn am hanes ein gwlad ein hunain. Hawl pob person ifanc yng Nghymru ydy cael cyfle i allu dirnad a gwerthfawrogi'r byd o'n cwmpas drwy lens y genedl. A'n dyletswydd ni, fel Aelodau o brif gorff democrataidd Cymru, yw ei warantu. 

Ac i gloi, dwi am droi at y drydedd elfen gwnes i sôn amdani hi. Bydd y bwriad i wneud y Saesneg yn statudol ymhob cyfnod dysgu yn golygu bod pob disgybl hyd at saith oed yn derbyn addysg Saesneg yn awtomatig, oni bai fod llywodraethwyr yr ysgol yn optio allan fesul un. Bydd hefyd felly yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i lywodraethwyr ysgolion dros bolisi iaith ysgolion unigol ac yn tanseilio rôl strategol awdurdodau lleol wrth gynllunio addysg Gymraeg, gan gynnwys yn y gorllewin, sydd wedi arwain y ffordd efo polisïau trochi iaith.

Byddai deddfu i wneud y Saesneg yn orfodol yn groes i'r gydnabyddiaeth sydd wedi datblygu a'i meithrin yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yma, sef y gydnabyddiaeth yna nad maes chwarae gwastad ydy hi rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Er bod y ddwy ohonyn nhw, wrth gwrs, yn ieithoedd cenedlaethol, mae'r gefnogaeth a'r gynhaliaeth sydd eu hangen arnyn nhw yn dra gwahanol. Dwi'n croesawu'r gydnabyddiaeth honno yng ngwelliant y Ceidwadwyr, ond yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn methu'r pwynt efo hyn.

Fe ddylai'r cwricwlwm newydd fod o gymorth i siroedd Gwynedd, Môn, Ceredigion a sir Gâr, lle sefydlwyd y Gymraeg yn norm yn y cyfnod sylfaen, a chefnogi lledaenu'r arfer orau hwnnw yn ehangach ar draws y wlad. Ond yn hytrach, mae o'n peryglu hynny ac, efallai yn anfwriadol, mae yna berygl iddo fo gael ei danseilio.

I grynhoi, felly, Llywydd, mi ddylem ni, fel gwladwriaeth fod yn ymyrryd lle mae cryfhau cydraddoldeb a hawliau sylfaenol ein dinasyddion ni yn y cwestiwn. Fe ddylem ni ymyrryd lle mae'r status quo yn methu, ac mi ddylem ni ymyrryd lle mae'r dystiolaeth mor gryf y byddai'n esgeulus i ni beidio â gwneud hynny. Mae'n rhaid gweithredu ar lefel genedlaethol lle mae gwneud hynny yn greiddiol i greu newid yng Nghymru. Dwi'n edrych ymlaen i glywed y ddadl a chyfraniadau fy nghyd-seneddwyr ar y pwnc pwysig yma.