Cefnogi'r Sector Hedfan

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:10 am ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:10, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, yn dilyn y newyddion dros nos am Airbus, roeddwn i eisiau bod yn gwbl eglur y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r cwmni a'i weithlu yn y cyfnod anodd iawn hwn. Ond mae natur fyd-eang yr argyfwng presennol yn y diwydiant hedfan yn golygu na fydd atebion lleol yn ddigon ynddynt eu hunain i sicrhau dyfodol y diwydiant strategol pwysig hwn. Ac rydym ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i bwyso arnyn nhw i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y sector hedfan.