Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:11 am ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch am hynna, Prif Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi cymorth parhaus Llywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gwbl gandryll ac, a bod yn onest, wedi fy siomi. Ers misoedd bellach, rwyf i wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth y DU bod yn rhaid iddyn nhw ymyrryd i gefnogi swyddi yn y sector hedfan ac awyrofod, ac, yn onest, nid wyf i wedi clywed dim byd yn ôl.
Mae hwn yn ddiwydiant a oedd â llyfrau archebion llawn. Nid bai'r cwmni na'i weithlu yw hyn. Pan roedd angen peiriannau anadlu ar y Llywodraethau ychydig fisoedd yn ôl, camodd y gweithlu hwn ymlaen a chynhyrchu 10,000 o beiriannau anadlu. Mae gan Lywodraeth y DU—[Anghlywadwy.] Prif Weinidog, a wnewch chi siarad yn uniongyrchol â Boris Johnson a dweud wrtho bod yn rhaid iddo weithredu nawr?