Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:19 am ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 11:19, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos hon, rydym ni wedi gweld rhywfaint o newyddion calonogol o'r Alban, wrth i nifer y marwolaethau COVID-19 a gadarnhawyd yno ostwng i gyfanswm o dri dros y pum diwrnod diwethaf, a'r athro Devi Sridhar yn rhagweld y gallai'r Alban fod fwy neu lai'n rhydd o COVID o ran achosion nad ydynt yn cael eu mewnforio erbyn diwedd yr haf. Yn Lloegr, mewn cyferbyniad, adroddwyd bod y prif swyddog meddygol yno yn disgwyl gweld lefel yr heintiau dyddiol newydd yn aros ar y lefel bresennol o tua 3,000 y dydd am y dyfodol rhagweladwy. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod Cymru rhydd o COVID, yn y termau a ddisgrifiwyd, yn ddyhead realistig yn y tymor agos, ac sydd â'r nod o sero, mewn ffordd, yw'r ffordd fwyaf sicr o osgoi ail gyfres o achosion?