1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:19 am ar 1 Gorffennaf 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos hon, rydym ni wedi gweld rhywfaint o newyddion calonogol o'r Alban, wrth i nifer y marwolaethau COVID-19 a gadarnhawyd yno ostwng i gyfanswm o dri dros y pum diwrnod diwethaf, a'r athro Devi Sridhar yn rhagweld y gallai'r Alban fod fwy neu lai'n rhydd o COVID o ran achosion nad ydynt yn cael eu mewnforio erbyn diwedd yr haf. Yn Lloegr, mewn cyferbyniad, adroddwyd bod y prif swyddog meddygol yno yn disgwyl gweld lefel yr heintiau dyddiol newydd yn aros ar y lefel bresennol o tua 3,000 y dydd am y dyfodol rhagweladwy. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod Cymru rhydd o COVID, yn y termau a ddisgrifiwyd, yn ddyhead realistig yn y tymor agos, ac sydd â'r nod o sero, mewn ffordd, yw'r ffordd fwyaf sicr o osgoi ail gyfres o achosion?
Wel, rwy'n falch o ddweud mewn ymateb i Adam Price bod llawer o'r dangosyddion allweddol yng Nghymru yn parhau i fod ar y trywydd iawn hefyd, gyda niferoedd y marwolaethau yn gostwng, derbyniadau i ysbytai yn gostwng, nifer y cleifion mewn gofal critigol yn gostwng eto yn ystod yr wythnos ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau cyflawn ar ei chyfer. Mewn un ystyr, y nod o Gymru rhydd o COVID yw'r hyn y byddem ni eisiau ei wneud wrth gwrs, ond rwyf i eisiau bod yn realistig gyda phobl hefyd: mae gennym ni ffin hir ac agored; ei bod hi'n anodd ystyried Cymru fel ynys at y dibenion hyn, a bod ein gallu i sicrhau bod Cymru yn rhydd o COVID yn dibynnu i raddau helaeth ar yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud ledled y Deyrnas Unedig i'r un cyfeiriad.
Rydym ni wedi clywed—gwn ei fod ef wedi clywed—rhybuddion difrifol gan y prif swyddog meddygol y bydd yr amodau y gallai COVID ffynnu ynddyn nhw gyda ni eto yn yr hydref, pan fydd yr oerfel a'r lleithder yn dychwelyd. Felly, er mai ein nod yw cael COVID ar y lefel isaf bosibl y gallwn ni yng Nghymru, ni ddylem feddwl bod hynny'n golygu ein bod ni heibio'r gwaethaf ac nad oes peryglon eraill o'n blaenau ni yn ystod gweddill y flwyddyn galendr hon.
Mae llawer o wledydd wedi llwyddo i atal y feirws i nifer agos at sero o achosion newydd. Ystyrir Seland Newydd yn arweinydd byd-eang, ond nid yw ar ei phen ei hun. Mae Gwlad Groeg, Slofenia, Awstria, Norwy hefyd wedi atal y feirws i'r graddau bod y cyfyngiadau yno yn gyfyngedig erbyn hyn ac achosion newydd yn brin, ac, fel Cymru, nid yw'r gwledydd hynny yn ynysoedd ychwaith.
Rwy'n derbyn pwynt y Prif Weinidog, ond a hoffai ef weld strategaeth ddileu yn cael ei mabwysiadu ar draws y DU gyfan, ac a wnaiff ef ofyn i'r gell cynghori technegol edrych yn benodol ar brofiad y gwledydd hynny sydd wedi mabwysiadu strategaeth ddileu i weld a ellid mabwysiadu hynny'n llawn neu'n rhannol yng Nghymru?
Rwy'n hapus iawn i ofyn i'r grŵp cynghori technegol am eu barn ar hynny. Rydym ni eisoes yn cael cyngor ganddyn nhw sy'n manteisio ar brofiad mewn mannau eraill yn y byd. Pan oeddwn i'n gallu gwneud cyhoeddiad ddydd Llun ar aelwydydd estynedig yma yng Nghymru, fe wnaeth profiad Seland Newydd a'r pethau yr ydym ni wedi eu dysgu ganddyn nhw yn sicr gyfrannu at hynny. Rwy'n credu bod Adam Price yn cyfeirio at rai enghreifftiau diddorol iawn pan ei fod yn cyfeirio, er enghraifft, at Norwy a Gwlad Groeg fel lleoedd sydd â ffiniau â gwledydd eraill lle bu'r profiad yn wahanol, ac, yn yr ystyr hwnnw, os oes pethau y gallwn ni eu dysgu ganddyn nhw a fydd yn ein helpu ar y siwrnai i gyfyngu'r coronafeirws i'r graddau mwyaf posibl, byddwn yn awyddus iawn ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny yma yng Nghymru ac rwy'n hapus iawn ein bod ni'n defnyddio'r cymorth yr ydym ni'n ei gael drwy'r grŵp cynghori technegol i roi pa wersi bynnag i ni y maen nhw'n credu y gellir eu dysgu o brofiadau yn y lleoedd hynny, ac yna eu defnyddio i fod o gymorth i ni yma yng Nghymru.
Hyd yn oed yn y gwledydd hynny sydd wedi llwyddo i atal y clefyd, wrth gwrs y pris am ryddid o'r feirws, os mynnwch chi, yw gwyliadwriaeth dragwyddol, yn enwedig o ran achosion newydd, ac rydym ni'n gweld yng Nghaerlŷr hefyd o bosibl, onid ydym ni, y perygl o beidio â throi gwybodaeth leol yn weithredu lleol yn ddigon cyflym. Felly, gan fanteisio ar brofiad diweddar yng Nghymru hefyd, a yw'r Prif Weinidog yn barod i wneud nifer o ymrwymiadau i sicrhau trefn gyflym rhwng profion a chanlyniadau, yn enwedig o ran achosion lleol, ac i gyhoeddi dangosfyrddau lleol o ddangosyddion i nodi cynnydd mewn achosion lleol? Ac, yn olaf, a allwch chi nodi'r amgylchiadau a'r modd ymarferol y byddai cyfyngiadau symud lleol, pe byddai eu hangen, yn cael eu gweithredu yng Nghymru?
Wel, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Adam Price am y cwestiynau yna. Felly, o ran sut y byddem ni'n barnu a fyddai angen cyfyngiadau symud lleol, yna yn y ddwy enghraifft, yr enghreifftiau byw, yn y gogledd-ddwyrain a'r gogledd-orllewin, yna, yn y ddau achos hynny, y prawf allweddol fydd pa un a oes trosglwyddiad cymunedol ehangach o leoliadau caeedig y ddwy ffatri lle cafwyd yr achosion. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn galonogol, ond nid wyf i eisiau ei gorbwysleisio, oherwydd mae'r wythnos hon yn wythnos bwysig iawn i gadw golwg agos ar unrhyw dystiolaeth bod trosglwyddiad wedi symud o leoliad y ffatri, a'r rhai â'r cysylltiad agosaf â hi, ac i'r gymuned ehangach. Os oes gennym ni dystiolaeth o ledaeniad cymunedol cryf, yna dyna fyddai'r dangosydd i ni o'r angen am fesurau lleol pellach.
Nawr, gallech chi ddadlau—ac rwyf i wedi gweld pobl yn dadlau—bod gennym ni yn Ynys Môn, er enghraifft, ryw fath o gyfyngiadau symud lleol eisoes. Mae cannoedd o bobl yn hunanynysu oherwydd yr achosion yn 2 Sisters, a gwnaeth yr awdurdod lleol y penderfyniad yn eithaf cynnar i beidio ag ailagor ysgolion yn Ynys Môn ochr yn ochr â gweddill Cymru ddydd Llun. Felly, mae gennym ni rai ymyraethau polisi gwahaniaethol yn digwydd eisoes oherwydd yr achos lleol hwnnw.
Rydym ni'n gwbl eglur—. Yn wahanol i Gaerlŷr, lle'r oedd yn ymddangos bod cryn dipyn o ddryswch ynghylch pa un a oedd y pwerau cyfreithiol yn bodoli ac i bwy yr oedden nhw'n perthyn, rydym ni'n eglur iawn, yng Nghymru, bod gan Weinidogion Cymru y pwerau drwy ein rheoliadau i gymryd camau lleol i leihau, pe byddai'n rhaid i ni, rai o'r rhyddfreintiau yr ydym ni wedi gallu eu hailgyflwyno er mwyn ymdrin ag achosion lleol. A byddem ni'n sicr yn barod i wneud hynny pe byddai'r angen yno.
O ran pwynt yr Aelod ynglŷn â dangosfyrddau lleol, rwy'n hapus iawn eto i gael rhywfaint o gyngor ar hynny i weld a yw'r math hwnnw o wybodaeth yn bodoli mewn ffordd a fydd yn ystyrlon ac yn ddibynadwy ar lefel leol. Ac, os ydyw, yna polisi Llywodraeth Cymru drwy gydol yr argyfwng coronafeirws fu rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i'r cyhoedd, fel y gall pobl ddeall eu cyd-destun lleol ac yna gweithredu yn y ffordd a ddywedodd Adam Price, oherwydd nid Llywodraethau sy'n cymryd y camau pendant yn yr ardaloedd hyn—gweithredoedd dinasyddion yn bod yn wyliadwrus yn y ffordd y disgrifiodd Adam Price, yn y pen draw, sy'n rhoi'r amddiffyniad gorau i ni.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r newyddion ddoe bod Airbus yn bwriadu torri 1,700 o swyddi ledled y DU, wrth iddo gael trafferthion gydag effeithiau'r argyfwng coronafeirws, yn ergyd drom i weithwyr ym Mrychdyn ac, yn wir, yn y gogledd-ddwyrain, ac ymatebodd Llywodraeth Cymru yn briodol i ddweud y byddai'n defnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddi i gefnogi gweithwyr drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Fel y dywedasoch yn gynharach, mae'n hollbwysig nawr bod gwaith rhynglywodraethol yn cael ei wneud ar unwaith, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd ar bob lefel i roi'r cymorth gorau i'r gweithwyr ym Mrychdyn ar yr adeg hon.
Prif Weinidog, rydych chi eisoes wedi disgrifio pa fesurau yr ydych chi'n bwriadu eu cymryd i gynorthwyo'r cwmni a'i weithwyr yn Airbus, ond nid oes amheuaeth, fel y dywedodd Mark Isherwood yn gynharach, y bydd y newyddion hwn yn cael effaith ar y gadwyn gyflenwi ehangach, a fydd yn cynnwys nifer o fusnesau lleol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa fesurau a chynlluniau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried ar hyn o bryd i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn cael ei chefnogi cymaint ag y gellir gwneud hynny?
Wel, rwy'n credu y byddwn i'n dweud wrth yr Aelod, mor anodd ag y mae'r newyddion hynny wedi bod dros nos, y gallwn ni gyfeirio at y ffordd yr oeddem ni'n gallu ymateb, gyda Llywodraeth y DU a chyda'r awdurdod lleol, i benderfyniad Ford i adael Pen-y-bont ar Ogwr, gyda 1,300 o swyddi yn cael eu colli yno'n uniongyrchol, ond y ffordd yr oedd y timau a ffurfiwyd gennym ni, a'r strwythurau a gyflwynwyd gennym ni, yn canolbwyntio yn bedant ar y cadwyni cyflenwi yn y diwydiant modurol hefyd. Felly, mae gennym mi rywfaint o brofiad diweddar ac ymarferol iawn o ymateb i anawsterau o'r math hwn.
Y gwahaniaeth allweddol rhwng Ford ac Airbus yw mai penderfyniad i adael Cymru yn gyfan gwbl oedd penderfyniad Ford, tra bod gan Airbus ddyfodol llwyddiannus o'i flaen, cyn belled â bod ni'n gallu ei helpu drwy'r misoedd anodd nesaf sydd o'n blaenau, a bydd hynny'n golygu gweithio gyda chadwyni cyflenwi. Mae'r uwchgynhadledd y soniais amdani yn fy ateb cynharach yn un a fydd yn cynnwys economi ehangach y gogledd-ddwyrain ac, yn wir, Cynghrair Mersi a Dyfrdwy, gan fod llawer o bobl sy'n gweithio ym Mrychdyn yn byw yng Nghaer ac ar draws ein ffin yno, a bydd yr effaith ar gadwyni cyflenwi yn cael ei theimlo ar draws yr economi gogledd-ddwyrain Cymru, gogledd-orllewin Lloegr honno.
Felly byddwn yn gweithio gyda'r holl chwaraewyr lleol hynny, a chyda Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr bod gennym ni ddarlun cynhwysfawr o'r anghenion, a chyd-gynllunio gyda phobl ar lawr gwlad y math o gymorth a fydd fwyaf defnyddiol iddyn nhw. Mae gennym ni rai pethau a baratowyd ymlaen llaw yr ydym ni'n eu gwneud. Mae gennym ni ffyrdd profedig o ysgogi cymorth, ond rydym ni eisiau gwneud mwy na hynny. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr mai'r cymorth yr ydym ni'n ei gynnig yw'r cymorth y mae pobl leol yn ei ddweud wrthym fydd fwyaf defnyddiol iddyn nhw. A bydd gweithio gyda nhw, a chael uwchgynhadledd, yn ffordd o dynnu hynny i gyd at ei gilydd, i wneud yn siŵr bod y cymorth yr ydym ni'n gallu ei gynnig yn cael ei raddoli i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau penodol yr economi honno yn y gogledd-ddwyrain.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: mae'n hanfodol bod Llywodraethau a phleidiau yn gweithio gyda'i gilydd, lle bo modd, i gefnogi gweithwyr ar yr adeg hon, a byddaf yn gwneud beth bynnag a allaf i weithio'n adeiladol gyda chi, a chydweithwyr yn San Steffan, i sicrhau y bydd popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y newyddion hyn.
Nawr, yn anffodus, nid dyma'r unig gyhoeddiad ynglŷn â cholli swyddi yng Nghymru yn ddiweddar, ac o gofio bod diweithdra yng Nghymru wedi dyblu ym mis Ebrill, mae'n hollbwysig bod cymorth ar gael i'r rhai sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau, wrth gwrs, gydag arweinyddion busnes a darparwyr sgiliau ynglŷn â datblygu pecynnau i helpu i gefnogi pobl ledled Cymru efallai na fyddan nhw'n gallu cadw eu cyflogaeth ar ddiwedd y cynllun ffyrlo oherwydd pandemig COVID-19. Ceir teuluoedd ledled Cymru sydd mewn sefyllfa hynod o fregus, ac o gofio y bydd rhywfaint o ansicrwydd yn y farchnad swyddi am gryn amser eto, mae'n bwysig bod teuluoedd ledled Cymru yn teimlo bod cymorth a chyngor ar gael. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith COVID-19 ar gyflogaeth ledled Cymru, a pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag arweinyddion busnes, a darparwyr sgiliau, ynghylch y ffordd orau o liniaru unrhyw ergydion economaidd o ganlyniad i COVID-19?
Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd am chwarae rhan adeiladol yn yr ymateb i'r sefyllfa a wynebir yn Airbus ac economi ehangach y gogledd-ddwyrain.
Y dadansoddiad sydd gennym ni o economi Cymru, yng nghyd-destun COVID, yw ei bod yn eithaf cymhleth. Bydd ef wedi clywed, rwy'n siŵr, heddiw, yr adroddiadau gan Andy Haldane, dirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, eu bod nhw'n credu mai'r arwyddion cynnar yw bod adferiad siâp v i lawer o rannau o'r economi ar y gweill—dirywiad sydyn, ac adferiad sydyn. Ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymaint â phosibl o economi Cymru yn gallu gwella cyn gynted â phosibl yn y ffordd honno. Ond bydd agweddau ar economi Cymru lle bydd hynny'n fwy anodd—cwmnïau a diwydiannau nad ydyn nhw'n gallu ailddechrau gweithgarwch cyn gynted ag eraill. Ac yn hynny o beth, rydym ni'n siarad â Llywodraeth y DU yn arbennig am y trefniadau hirdymor o'r cynllun cadw swyddi, yr wyf i wedi ei groesawu o'r cychwyn yng Nghymru. Rwyf i wedi gwerthfawrogi o'r cychwyn yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, ac yn deall, wrth i ddiwydiannau ddychwelyd i'r gwaith, na allwch chi barhau i gynnig cynllun ffyrlo i leoedd lle mae pobl yn ôl yn gweithio yn llawn amser. Ond mewn rhai sectorau o economi Cymru, mae angen cynllun ffyrlo mwy penodol, penodol i'r sector arnom ni, a fydd yn mynd y tu hwnt i ddiwedd mis Hydref. A bydd hynny'n cynnig cysur i'r diwydiannau hynny y byddan nhw'n dal i allu cynnal eu hunain drwy ddyddiau anodd y flwyddyn galendr hon, a bod yno i ailddechrau gweithgarwch y flwyddyn nesaf, pan, fel y mae pob un ohonom ni'n ei obeithio, y bydd pethau'n well.
Felly, byddwn yn gweithredu'r camau sydd gennym ni, mewn ymgynghoriad ag arweinyddion busnes. Roeddwn i gyda phennaeth Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru yr wythnos diwethaf a chyda phennaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yr wythnos diwethaf. Cafwyd awgrymiadau defnyddiol iawn gan y Cydffederasiwn ynghylch sut y gallem ni gydweithio i liniaru rhai o'r effeithiau ar economi Cymru, ac yna bydd angen cymorth arnom ni o fannau eraill i allu gwneud y gwaith y mae angen i bob un ohonom ni ei wneud, gan ganolbwyntio ar swyddi, yn ddi-baid ar swyddi, yn ein heconomi, yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol hon.
Wel, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae fy mhlaid innau hefyd wedi cyflwyno cynigion i sefydlu cronfa adfer COVID ar gyfer y meysydd hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn economaidd, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi edrych yn adeiladol ar ein cynigion, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n cael eu heffeithio gan y cau a'r colledion swyddi yn Airbus, a Laura Ashley yn wir.
Nawr, mewn ymateb i ystadegau marchnad lafur Cymru diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn iawn i ddweud mai'r darlun sy'n dechrau dod i'r amlwg nawr yw bod yr ardaloedd hynny a aeth i mewn i'r argyfwng â'r lefelau uchaf o ddiweithdra wedi dioddef rhai o'r codiadau mwyaf yn ystod y ddeufis diwethaf. Mae hyn wir yn dangos bod cymunedau ledled Cymru a oedd eisoes yn cael trafferth gyda lefelau amddifadedd cyn pandemig COVID-19, ac felly mae angen pecyn cydnerthedd, sy'n cynnwys buddsoddiad, cymorth a chyfleoedd, yn fwy nag erioed.
Prif Weinidog, o gofio bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu bron, ac ar y lefel uchaf ers Awst 1994 erbyn hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa syniadau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu mabwysiadu i ddechrau—[Anghlywadwy.]—y darlun a ddisgrifiwyd gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru? A allech chi hefyd ddweud wrthym ni pa waith monitro rhaglenni a chyllid sy'n cael ei wneud i sicrhau bod cyllid economaidd yn cyrraedd y cymunedau hynny sydd â'r angen mwyaf ac i nodi unrhyw fylchau mewn pecynnau cymorth? A beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i feithrin cydnerthedd mewn cymunedau ledled Cymru, yn enwedig y rhai a oedd eisoes mewn trafferthion cyn pandemig COVID-19?
Wel, Llywydd, mae'r gronfa cadernid economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i thynnu ynghyd, hyd yma, wedi bod yn canolbwyntio yn syml ar gynorthwyo cwmnïau ac unigolion i ymdopi ag effaith coronafeirws. Ond rydym ni eisoes wedi nodi y bydd cam pellach o'r gronfa, y tu hwnt i gamau 1 a 2, yr ydym ni'n eu gweithredu ar hyn o bryd, a bydd cam 3 yn gam adfer. A bydd miliynau lawer o bunnoedd yn dal yn y gronfa y byddwn ni'n gallu eu defnyddio i adfer, a lle ceir syniadau da ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r arian hwnnw yn fwyaf effeithiol, yna, wrth gwrs, byddwn yn falch iawn o fanteisio ar y syniadau hynny, o ba le bynnag y byddan nhw'n dod. Bydd y ffaith bod gennym ni gam adfer yn ein heconomi yn cael ei lunio gan y gwaith y mae Jeremy Miles wedi bod yn ei arwain i lunio cynllun adfer i ni yng Nghymru, gan fanteisio ar y bobl orau y gallwn ni eu tynnu ynghyd oddi mewn i Gymru, ond cael pobl o'r tu allan i Gymru, i sicrhau nad ydym ni'n colli syniadau y mae pobl yn eu datblygu mewn mannau eraill, ac i'n herio ni ar ein meddylfryd ein hunain a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud yr ymdrech orau bosibl i ddylunio'r cam adfer hwnnw.
Rydym ni'n monitro'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Os ydych chi eisiau dim ond un enghraifft o hynny mewn ffigurau a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf, rwy'n credu bod dros 30 y cant o gwmnïau yng Nghymru wedi elwa ar gymorth a ddarparwyd, naill ai gan Lywodraeth y DU neu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn eu helpu nhw drwy'r pandemig. 21 y cant o gwmnïau yw'r ffigur yn yr Alban; 14 y cant o gwmnïau yw'r ffigur yn Lloegr. A ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r rheini, sy'n dangos, rwy'n credu, bod effaith y cymorth yr ydym ni wedi gallu ei roi ar waith yng Nghymru wedi cael ei theimlo yn gryf yn ein heconomi, ac rydym ni bellach eisiau i'r un dull gael ei fabwysiadu, gyda'r un lefel o lwyddiant, i helpu economi Cymru i'r cam adfer.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
A gaf i longyfarch yr holl blant sydd yn ôl yn yr ysgol yng Nghymru yr wythnos hon, hyd yn oed os yw'n rhan-amser, a phawb sydd wedi gweithio mor galed i'w cael nhw yn ôl, nid lleiaf eich Ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams? Byddwn wedi hoffi gweld mwy o blant yn dychwelyd yn gynharach, ond nid wyf i eisiau beirniadu Llywodraeth Cymru, pigo bai ar yr hyn sy'n digwydd yn erbyn yr hyn a addawyd, na gwneud cymariaethau â Lloegr heddiw.
Prif Weinidog, beth bynnag fo ein safbwyntiau neu ein buddiannau penodol ein hunain, oni ddylai pob un ohonom ni barchu mai chi, eich Cabinet a Kirsty Williams sy'n gyfrifol ac sydd â'r mandad democrataidd i benderfynu pryd a sut y dylai ysgolion ddychwelyd? A allwch chi gadarnhau, yn wahanol i'r undebau athrawon, bod yn rhaid i chi ystyried nid yn unig buddiannau eu haelodau, gan gynnwys diogelwch athrawon ac unrhyw risg is o lawer erbyn hyn o haint, ond hefyd angen taer llawer o rieni i fynd yn ôl i'r gwaith, ac, yn fwy fyth, pwrpas ysgolion yw addysgu ein plant, sydd eisoes wedi colli gormod o'r hawl hwnnw?
Wel, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am yr ymdrechion sydd wedi eu gwneud, ac maen nhw wedi eu gwneud yn y ffordd yr ydym ni'n ceisio gwneud pethau yng Nghymru, yn y ffordd partneriaeth gymdeithasol honno, trwy ddod ag undebau athrawon, undebau'r rhai nad ydyn nhw'n athrawon, yr awdurdodau addysg lleol a Llywodraeth Cymru at ei gilydd o amgylch y bwrdd i lunio ffordd ymlaen. Rwyf i wedi teimlo weithiau, yn y ffordd y mae rhai o'r dadleuon hyn wedi cael eu cynnal yn gyhoeddus, nad yw'r gair 'plant' wedi cael yr amlygrwydd yr oedd ei angen ac yn ei haeddu. Yn y pen draw, y rheswm pam yr ydym ni wedi ymrwymo i ddod â phobl ifanc yn ôl i'r ysgol dros yr wythnosau hyn yw oherwydd ein pryderon bod y bobl ifanc hynny yn cael newid i gyfarfod â'u hathrawon unwaith eto, i weld eu cyd-ddisgyblion, i allu paratoi ar gyfer yr haf, a'u buddiannau nhw yn y pen draw—ynghyd â'r holl rai eraill y maen rhaid i ni eu cadw mewn cof—sydd angen bod ar frig ein hagenda, ac rwy'n credu eu bod nhw.
Mae'r Prif Weinidog yn sôn am bartneriaeth gymdeithasol, ond yr argraff y mae llawer o rieni wedi ei chael yn ystod y mis neu ddau diwethaf, gyda phwerau wedi'u rhannu rhwng Llywodraeth Cymru, cynghorau ac ysgolion eu hunain, yw ei bod hi'n bosibl bod yr undebau athrawon wedi bod yn agwedd rhy flaenllaw ar y bartneriaeth honno. Pan wnaethoch chi, Prif Weinidog, sôn am hyd yn oed rhoi ystyriaeth i ysgolion ddod yn ôl ar ôl yr hanner tymor, rhoddwyd pwysau arnoch yn gyflym i egluro nad oedd hynny'n mynd i ddigwydd. Dywedwyd bod hynny yn dilyn pwysau gan yr undebau. Yna gwelsom y prif swyddog meddygol yn dweud mai ysgolion yn dychwelyd yn ystod ail wythnos mis Awst fyddai orau, o leiaf o ran peryglon y feirws, ond dywedwyd wrthym wedyn nad oedd hynny'n digwydd gan nad oedd yn ddewis deniadol i'r undebau. Yna gwelsom eich Ysgrifennydd addysg yn cyhoeddi y byddai ysgolion yn dod yn ôl yr wythnos hon am bedair wythnos, ac eto bron ym mhobman, nid yw hynny'n digwydd, a tair wythnos fydd hynny. Unwaith eto, dywedir wrthym ei fod oherwydd mai dyna yw safbwynt yr undebau. A ydych chi'n rhannu'r pryder hwnnw bod yr undebau efallai wedi cael gormod o ddylanwad ar yr amseriad ac ar y penderfyniadau, a'r hyn y gellid ei wneud am hynny?
Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch athrawon yng Nghymru am bopeth y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig hwn. Bu gennym ni 450 o ysgolion ar agor fel ysgolion hyb trwy gydol y profiad, gydag athrawon yn mynd i mewn, ar y rheng flaen, yn anterth y pandemig, ac yn gwneud hynny bob un dydd, yn gweithio drwy eu hanner tymor cyfan ddiwedd mis Mai. Felly, y darlun mawr i mi fu'r ymdrechion aruthrol y mae athrawon, gyda chymorth eu hundebau, wedi eu gwneud yma yng Nghymru.
Mae hawliau cytundebol sydd gan bobl, ac mae undebau yno i siarad ar ran eu haelodau lle mae eu contractau yn y cwestiwn. Nid yw partneriaeth gymdeithasol byth yn golygu sgyrsiau cysurus. Nid yw byth yn golygu pobl yn osgoi materion anodd. Rydym ni wedi eistedd o amgylch y bwrdd gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau addysg lleol a'r bobl sy'n cynrychioli'r gweithlu. Rydym ni wedi creu ffordd gyda'n gilydd, sy'n golygu, yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, bod plant yng Nghymru yn ôl yn yr ysgol heddiw, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad sylweddol iawn, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio gyda chydweithwyr i'w wireddu.