Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:57 am ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae ein pecyn cymorth gwerth £1.7 miliwn yn golygu bod busnesau yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae dros 2,700 o gwmnïau yng Nghaerffili yn unig wedi elwa ar ryddhad ardrethi busnes. Agorodd ail gam y gronfa cadernid economaidd ddydd Llun yr wythnos hon.