Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:21 am ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 11:21, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o wledydd wedi llwyddo i atal y feirws i nifer agos at sero o achosion newydd. Ystyrir Seland Newydd yn arweinydd byd-eang, ond nid yw ar ei phen ei hun. Mae Gwlad Groeg, Slofenia, Awstria, Norwy hefyd wedi atal y feirws i'r graddau bod y cyfyngiadau yno yn gyfyngedig erbyn hyn ac achosion newydd yn brin, ac, fel Cymru, nid yw'r gwledydd hynny yn ynysoedd ychwaith.

Rwy'n derbyn pwynt y Prif Weinidog, ond a hoffai ef weld strategaeth ddileu yn cael ei mabwysiadu ar draws y DU gyfan, ac a wnaiff ef ofyn i'r gell cynghori technegol edrych yn benodol ar brofiad y gwledydd hynny sydd wedi mabwysiadu strategaeth ddileu i weld a ellid mabwysiadu hynny'n llawn neu'n rhannol yng Nghymru?