Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:23 am ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 11:23, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Hyd yn oed yn y gwledydd hynny sydd wedi llwyddo i atal y clefyd, wrth gwrs y pris am ryddid o'r feirws, os mynnwch chi, yw gwyliadwriaeth dragwyddol, yn enwedig o ran achosion newydd, ac rydym ni'n gweld yng Nghaerlŷr hefyd o bosibl, onid ydym ni, y perygl o beidio â throi gwybodaeth leol yn weithredu lleol yn ddigon cyflym. Felly, gan fanteisio ar brofiad diweddar yng Nghymru hefyd, a yw'r Prif Weinidog yn barod i wneud nifer o ymrwymiadau i sicrhau trefn gyflym rhwng profion a chanlyniadau, yn enwedig o ran achosion lleol, ac i gyhoeddi dangosfyrddau lleol o ddangosyddion i nodi cynnydd mewn achosion lleol? Ac, yn olaf, a allwch chi nodi'r amgylchiadau a'r modd ymarferol y byddai cyfyngiadau symud lleol, pe byddai eu hangen, yn cael eu gweithredu yng Nghymru?