Part of the debate – Senedd Cymru am 12:08 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch i Mick Antoniw am yr awgrym hwnnw. Yn ystod yr haf, byddaf yn cael rhai trafodaethau â chyd-Aelodau am y dadleuon y byddent yn dymuno eu cyflwyno, a gwn y byddant yn ystyried y ceisiadau sydd wedi'u cyflwyno gan gyd-Aelodau heddiw, ac a wnaethant yn ddiweddar hefyd, o ran gosod yr agenda honno o fusnes y Llywodraeth ar gyfer y tymor nesaf. Gobeithio y bydd hynny, i raddau, yn caniatáu inni ddychwelyd at y mathau mwy arferol a mwy normal o gyflwyno busnes. Ond, yn amlwg, cawn weld ble'r ydym arni yn nhymor yr Hydref.