Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:22 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Mae gwella mynediad plant at gymorth iechyd meddwl yn flaenoriaeth allweddol yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' y Llywodraeth, ac yn arbennig felly yn ystod COVID-19. Yn ogystal â gwasanaethau iechyd meddwl plant a oedd eisoes yn bodoli, mewn ymateb i COVID, rydym ni wedi rhoi arian ychwanegol ar gyfer pecynnau cymorth iechyd meddwl ar-lein drwy Hwb a gwasanaethau llinell gyngor i blant.