Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:23 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch. Dylai gwella mynediad plant at gymorth ar gyfer materion iechyd meddwl fod yn broses syml a didrafferth. Fodd bynnag, canfuwyd mai dim ond 43 y cant o blant a phobl ifanc yng Nghymru fyddai'n hyderus wrth geisio cymorth gan dîm iechyd meddwl, a 39 y cant gan gwnsela mewn ysgolion. Wrth gwrs, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fyrddau partneriaeth rhanbarthol flaenoriaethu'r broses o integreiddio gwasanaethau ar gyfer plant ag anghenion cymhleth. Fodd bynnag, gwyddom erbyn hyn fod dau fwrdd iechyd wedi herio'r cyfrifoldeb o ran anghenion iechyd person ifanc yn ddiweddar, a bod plentyn wedi cael ei gadw mewn cyfleuster iechyd meddwl am wythnosau, er nad oedd ganddo unrhyw ddiagnosis iechyd meddwl. A wnewch chi ymchwilio i weld a yw byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn blaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer plant, ac os oes unrhyw fethiant o'r fath wedi digwydd, a yw hyn wedi torri Erthygl 24, sef yr hawl i'r gofal iechyd gorau posibl i blant?