Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:24 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae peth ohono'n yn mynd â mi i feysydd y mae'r Gweinidog Iechyd yn gyfrifol amdanyn nhw, yn bennaf, felly byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn ymwybodol o'r cwestiwn a ofynnwyd ganddi. O ran y cwestiwn ar hawliau'r confensiwn, wrth gwrs, mae hwnnw'n gwestiwn sydd ar flaen ein hystyriaethau ni 'n barhaus yn Llywodraeth. Ond, fel y dywedais, o ran y pwyntiau polisi a gododd yn ei chwestiwn, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog Iechyd wedi clywed ei chwestiwn.