Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:25 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch, Gweinidog. Yn eich swydd chi, wrth gwrs, byddwch hefyd yn cadw golwg ar seilwaith simsan y strwythurau rhynglywodraethol ledled y Deyrnas Unedig. Roedd hwnnw yn cael ei brofi cyn COVID-19, roedd yn cael ei brofi cyn y broses o adael yr UE ac, yn wir, roedd yn cael ei brofi flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a dinasoedd metropolitan mawr Lloegr dyfu'n fwy cyhyrog a chael mwy o bwerau ac awdurdod fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel gywir ac mor agos i'r bobl â phosibl. Felly, Cwnsler Cyffredinol, pa obaith sydd gennych chi y gall cyfarpar cyfansoddiadol rhynglywodraethol simsan y DU, sy'n seiliedig ar strwythurau ganrifoedd oed sydd wedi straffaglu i ymdopi â chyflymder cynyddol datganoli ac egwyddorion sybsidiaredd, gael eu haddasu i adlewyrchu pwerau a chryfderau llywodraethau datganoledig, y Senedd hon a phobl Cymru?