3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
3. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch strwythurau rhynglywodraethol o fewn y DU? OQ55360
Rwy'n cyflwyno sylwadau'n aml ar ran Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhynglywodraethol a'r strwythurau sydd eu hangen i gefnogi cydweithio a chydgysylltu ymhlith Llywodraethau'r DU. Nid yw gweithio rhynglywodraethol effeithiol erioed wedi bod mor bwysig wrth inni ymdrin â'r pandemig COVID-19 ac wrth inni agosáu, ar yr un pryd, at ddiwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd.
Diolch, Gweinidog. Yn eich swydd chi, wrth gwrs, byddwch hefyd yn cadw golwg ar seilwaith simsan y strwythurau rhynglywodraethol ledled y Deyrnas Unedig. Roedd hwnnw yn cael ei brofi cyn COVID-19, roedd yn cael ei brofi cyn y broses o adael yr UE ac, yn wir, roedd yn cael ei brofi flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a dinasoedd metropolitan mawr Lloegr dyfu'n fwy cyhyrog a chael mwy o bwerau ac awdurdod fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel gywir ac mor agos i'r bobl â phosibl. Felly, Cwnsler Cyffredinol, pa obaith sydd gennych chi y gall cyfarpar cyfansoddiadol rhynglywodraethol simsan y DU, sy'n seiliedig ar strwythurau ganrifoedd oed sydd wedi straffaglu i ymdopi â chyflymder cynyddol datganoli ac egwyddorion sybsidiaredd, gael eu haddasu i adlewyrchu pwerau a chryfderau llywodraethau datganoledig, y Senedd hon a phobl Cymru?
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. Boed hynny ym maes 'Brexit a Datganoli' neu'n ddiweddarach ym maes 'Diwygio ein Hundeb', rydym ni fel Llywodraeth yn gyson wedi ceisio bod yn eiriolwyr adeiladol dros gyfres o ddiwygiadau ar gyfer undeb sy'n gweithio'n well, sy'n rhoi llais llawn i gyfreithlondeb democrataidd y Senedd a Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru, ac sy'n sefydlu cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail cydraddoldeb cyfranogiad a pharch cydradd. Mae'r trefniadau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn bell o gyflawni'r profion hynny, sef y profion cywir i Gymru, yn ein barn ni.
Fel y dywedwch chi, Huw, o ran y broses o ymgysylltu ar draws y DU ar adael Ewrop, mae enghreifftiau niferus wedi codi o'r diffygion yn y berthynas honno a'r strwythurau hynny. Rwy'n credu, yn fwyaf diweddar—fe wnaethoch ofyn am wybodaeth ynghylch sylwadau—fe ysgrifennais i at Michael Gove yn gofyn, i bob pwrpas, am ailgychwyn yr ymgysylltu mewn cysylltiad â gadael yr UE. Rydym yn dal i obeithio am gynnydd o ran yr adolygiad rhynglywodraethol, sef yr adolygiad sylfaenol o gysylltiadau'r Llywodraeth drwyddi draw. Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi gwneud mwy o gynnydd yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf ers Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ym mis Mai nag yr ydym ni wedi gallu'i wneud. Mae adolygiad Dunlop yn dal heb ei gyhoeddi, ar ran Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y byddem ni oll yn rhannu'r dymuniad i hwnnw gael ei gyhoeddi.
Rwy'n credu, yn fwyaf diweddar, bod y gwaith rhynglywodraethol o ran COVID wedi bod yn addysgiadol yn yr ystyr hwn. Ar ddechrau'r broses, yn amlwg, COBRA oedd y fforwm ar gyfer gwneud penderfyniadau, ond nid oedd neb ar unrhyw adeg wedi estyn am strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion fel ffordd o ymgysylltu ar sail barhaus. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n rhoi gwybod inni sut, mewn gwirionedd, y mae pob Llywodraeth ym mhob rhan o'r DU yn ystyried nad yw'r strwythurau hynny'n addas at y diben a bod angen eu diwygio'n eithaf sylfaenol.
Ar gefn beth rydych chi newydd ddweud, Weinidog, mae nifer o esiamplau dros yr wythnosau diwethaf o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn anwybyddu safbwyntiau rydych chi fel Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ac wedi gosod mewn llythyrau—er enghraifft dros ehangu'r cyfnod pontio a nifer o fesurau eraill rydych chi newydd eu crybwyll. Felly, a fyddech chi'n cytuno bod eich safbwynt chi o fod yn hapus tu mewn i'r undeb Brydeinig a pharhau i gael eich anwybyddu—a fyddech chi'n cytuno nad ydy hynny ddim yn ateb blaenoriaethau Cymru?
Wel, nid dyna'r ddau ddewis, gyda phob parch. Y dewis yw ein bod ni'n cael ffurf o undeb lle mae llais Cymru, Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, drwy'r Senedd, yn cael eu hadlewyrchu'n addas yn y berthynas a'r system rynglywodraethol. Dŷn ni ddim yn dweud bod dim modd gwella ar y sefyllfa bresennol. Wrth gwrs, i'r gwrthwyneb. Nid amddiffyn y sefyllfa bresennol ydyn ni, ond cyflwyno ymgais adeiladol i gael system amgen ar draws undeb y Deyrnas Gyfunol.
Mae'r amser wedi hen basio lle bo hyn yn argyfyngus, a dweud y gwir, ac mae Llywodraeth Cymru ar bob achlysur wedi cymryd safbwynt adeiladol a chydweithredol, a disgrifio'r system y buasem ni'n disgrifio o ran Cymru a'n buddiannau ni. Mae galw nawr, rwy'n credu—yn sgil ein profiad ni yn benodol yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd o ran y system rynglywodraethol yng nghyd-destun COVID, mae angen i hynny ddigwydd nawr ar frys.