Rheoliadau COVID-19

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:30 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:30, 1 Gorffennaf 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud amryw o reoliadau fel ymateb i’r pandemig o dan Deddf y Coronafeirws 2020 a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae pob rhan o'r ddeddfwriaeth yma wedi cael ei wneud ar ôl cysidro gofalus ar yr elfennau polisi, cyfreithiol, ac ar gyngor addas gwyddonol ac iechyd cyhoeddus i'n galluogi ni i ymateb i'r sefyllfa unigryw hon yng Nghymru.