Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:31 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Mi ydym ni'n gwybod y bydd rhyw ffurf ar gyfyngiadau'r cyfnod clo yn parhau mewn grym am sbel eto, efallai tan y flwyddyn nesaf. Sut mae'r Llywodraeth felly'n bwriadu lliniaru effaith y rheoliadau ar y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau? A pa ran fydd y sector yma yn ei chwarae yn eich fframwaith adfer ôl COVID? Wedi'r cyfan, mae'r celfyddydau'n allweddol, fel maen nhw bob tro mewn argyfwng, wrth i ni geisio deall, dirnad a mynegi yr hyn rydym ni'n mynd drwyddo fo. Fydd eich Llywodraeth chi yn dilyn esiampl gwledydd fel yr Alban a Seland Newydd ac yn buddsoddi yn y sector fel rhan o'ch gwaith adferol chi? Ac a wnewch chi symud ymlaen, heb ddisgwyl am unrhyw arian ychwanegol allai ddod neu beidio â dod o San Steffan, i gyhoeddi bod y celfyddydau yn rhan allweddol o'ch cynllun ôl COVID chi?