Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:32 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn hwnnw, a rŷch chi, yn y cwestiwn, yn amlygu un o'r elfennau pwysig iawn yn y cyd-destun COVID—hynny yw, mae effaith economaidd, mae effaith iechyd, wrth gwrs, ac iechyd cymdeithasol ehangach, ond mae gan y celfyddydau, fel rŷch chi'n disgrifio, rôl bwysig iawn yn ein llywio ni trwy'r cyfnod yma. Mae'r sector wedi dioddef effaith andwyol sylweddol yn yr wythnosau diwethaf, ac, fel rŷch chi'n ei ddweud yn y cwestiwn, mae'n debyg gwnaiff hynny barhau am gyfnod eto.
Fe wnaf i ategu beth a wnaeth y Prif Weinidog ddweud yn ei gwestiynau cynharach mewn ymateb i Leanne Wood am ein hymgais ni i wneud yr hyn y gallwn ni i gefnogi'r sector yma, ac mae'r hyn mae Dafydd Elis-Thomas wedi ddatgan yn ddiweddar yn rhan allweddol o hynny. Fe fuaswn ni'n hoffi bod mewn byd lle nad ydym ni'n gorfod edrych ar yr hyn sydd yn dod o San Steffan o ran arian, ond, yn anffodus, mae hynny, wrth gwrs, yn elfen greiddiol i'r penderfyniadau, o ran adnoddau sydd o'n blaenau ni. Ond fel gwnaeth y Prif Weinidog ddweud yn ei gwestiynau yn gynharach, bydden ni am weld rôl y sector yn cael ei sicrhau yn y dyfodol fel ymateb i COVID.