Deddfwriaeth Hawliau Dynol

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:34 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 12:34, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nawr, er gwaethaf yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, mae llawer o unigolion, ffrindiau a theuluoedd yn cael eu cadw ar wahân yma yng Nghymru gan y rheol 5 milltir. Er yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd, cafodd addoldai eu cau hyd yn oed ar gyfer gweddi breifat. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi mynegi pryderon na chafodd hawliau pobl hŷn eu diogelu'n ddigonol o bosibl, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ysgrifennu ynghylch sut mae plant a phobl ifanc wedi gweld newidiadau i'w gallu i fanteisio ar hawliau dynol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylai ymchwiliad annibynnol gael ei sefydlu ar frys, er mwyn dechrau ystyried effaith penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn o COVID-19? Diolch.