Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:12 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Mae ymchwil yn dweud wrthym y bydd y pandemig yn effeithio ar les meddyliol ac emosiynol llawer o bobl. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi nifer o fesurau penodol a gaiff eu hanelu at gefnogi iechyd meddwl, gan gynnwys £5 miliwn ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion a £3.5 miliwn i alluogi byrddau iechyd i ymateb i gynnydd yn y galw.