Cyllid Ychwanegol

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:20 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:20, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna? Mae rhai ohonom yn amheus o'r dull y mae'r Trysorlys yn San Steffan yn dosbarthu cyllid canlyniadol i Gymru, ac mae'r hyn y maen nhw'n ei gynnwys yn cael effaith sylweddol ar gyllideb Cymru. A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi faint o arian sydd i'w ddarparu, a chyfrifiad y Trysorlys a gynhyrchodd y cyfanswm ar gyfer yr arian canlyniadol a roddwyd i Gymru—yr hyn yr oeddem yn arfer ei alw'n 'ddangos eich cyfrifiadau'?