Cyllid Ychwanegol

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:21 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:21, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Iawn, rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Felly, hyd yma, rydym wedi cyhoeddi manylion yr arian ychwanegol yn y gyllideb atodol gyntaf, ond rydym yn disgwyl i'r Trysorlys gyhoeddi ei dablau tryloywder grant bloc yn fuan iawn, gan ddangos manylion dyraniadau ledled y tair gwlad ddatganoledig. Rwy'n credu bod y tablau tryloywder hynny'n bwysig o ran deall y cyfrifiadau, fel y mae Mike Hedges yn ei ddweud. Efallai y bydd symiau canlyniadol pellach i'w cael eleni, ac rwy'n gobeithio cael newyddion am hynny yn natganiad economaidd mis Gorffennaf yr wythnos nesaf. Yna, yn dilyn hynny, wrth gwrs, fe fyddem ni'n disgwyl tabl tryloywder grant bloc arall eto yn amlinellu unrhyw ddyraniadau ychwanegol o ganlyniad i hynny.