Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 12:58 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae'r newyddion diweddar am golli swyddi yn Airbus wedi dangos yr angen am gymorth i fusnesau Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae hynny'n cynnwys cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU ac, wrth gwrs, gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Nawr, o'r addewid o £500 miliwn i'r gronfa cydnerthedd economaidd, mae'n ymddangos mai llai na hanner hynny a ddefnyddiwyd hyd yn hyn. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y modd y mae'r dyraniadau hyn yn gweithio, faint yn union o'r arian hwnnw a gafodd ei wario, a sut ydych chi, fel Gweinidog Cyllid, yn sicrhau bod y dyraniadau yn magu cydnerthedd effeithiol yn y cymunedau yr effeithir arnynt oherwydd cau i lawr a diswyddiadau?