4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 12:52 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Nawr, mae David Phillips, yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, wedi dadlau y bydd hanes yr ymateb cyllidol gan Lywodraethau datganoledig yn ystod y pandemig hwn yn un o Lywodraethau sy'n cael eu llesteirio gan gronfeydd cyfyngedig, pwerau cyfyngedig i fenthyca, yn ogystal â'r cyllid sy'n dod iddynt o Lywodraeth y DU. Nawr, mae'r Gweinidog wedi nodi ei bod hi wedi cynnal trafodaethau â Thrysorlys y DU am lacio pwerau cyllidol. A wnaiff hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o ran pryd y gall Llywodraeth Cymru ddisgwyl gweld cyflwyno rhywfaint o'r hyblygrwydd hwnnw?
Fe fyddwn i'n hapus i wneud hynny. Y tro diwethaf imi drafod y materion arbennig hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys oedd dydd Gwener diwethaf. Ac fe ddywedodd ef y bydd datganiad economaidd yr haf yn cael ei gyhoeddi yn fuan, ac fe gawn ni drafodaeth bellach ar ôl hynny o ran yr hyblygrwydd cyllidol yr ydym ni wedi gofyn amdano. Ac i grynhoi, ar gyfer pobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r hyblygrwydd hwnnw, rydym yn chwilio am y gallu i dynnu mwy o arian o gronfa wrth gefn Cymru, i fenthyca mwy, i dynnu'r terfyn ar fenthyca, a hefyd i allu newid cyfalaf yn refeniw Fe fydd rhywfaint o hyn, a pha mor bell yr ydym ni'n dymuno mynd â phethau, yn dibynnu, i raddau helaeth, ar y datganiad a wna'r Canghellor yr wythnos nesaf, ac fe fydd gennym ddealltwriaeth well o'r arian y gallwn ni ei ddisgwyl i'n cadw ni am weddill y flwyddyn ariannol hon.
Iawn. Diolch i chi am yr ateb. I lawer o ffanffer ddoe, wrth gwrs, fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU ei gynllun ef i ailadeiladu yn well, sef cyflwyno buddsoddiad o £5 biliwn. Ar wahân i'r swm hwnnw sy'n ymddangos bron yn chwerthinllyd o bitw, o ystyried maint yr her a wynebwn, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, mae'n ymddangos na ellir nodi y daw'r un geiniog o'r buddsoddiad hwnnw i Gymru. Nawr, yn ogystal â chodi ein llais torfol ni, fel cenedl, i fynnu bod hynny'n cael ei newid, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn barod hefyd i ddweud, 'Os na wnân nhw hyn er ein mwyn ni, fe wnawn ni'r hyn a allwn ni er ein mwyn ni ein hunain.' Ac mae angen inni ailfeddwl, rwy'n credu, ar sawl lefel: am faint y buddsoddiad sydd ei angen arnom ni yng Nghymru a sut i'w gyflwyno a sut i'w flaenoriaethu; am yr hyblygrwydd cyllidol sydd ei angen arnom ni; am ddiwygio trethiant hyd yn oed. Felly, a yw'r Llywodraeth yn barod i ddechrau neu ymuno â ni yn y drafodaeth honno i ddiwygio nawr, oherwydd po gyflymaf yn y byd y dechreuwn ni ddod o hyd i'r ffyrdd arloesol hynny o fynd yn ein blaenau, cyflymaf yn y byd y byddwn yn fwy tebygol o'u canfod nhw?
Mae Rhun ap Iorwerth yn hollol gywir o ran llwyr ddiffyg sylwedd y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ddoe, yn yr ystyr nad oes yr un geiniog ychwanegol i ddod i Gymru o ganlyniad i'r datganiad ddoe, yn bendant nid eleni, a'r cwbl sydd am ddigwydd yw bod cyllid yn cael ei ailbroffilio ar gyfer prosiectau i'r dyfodol. Felly, nid oedd unrhyw beth o ddiddordeb nac o unrhyw arwyddocâd i ni yma yng Nghymru. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwariant cyfalaf yn yr adferiad, a dyna pam rydym yn dwyn ynghyd y rhaglenni a fydd, yn ein tyb ni, yn barod i'w cyflwyno, ac yn wirioneddol ystwyth o ran gallu eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd nawr, wrth inni symud i'r cyfnod hwnnw o adferiad.
Mae Llywodraeth Leol yn gweithio'n galed iawn hefyd i nodi prosiectau sy'n barod i'w gweithredu ledled Cymru, fel y gallwn sicrhau'r lledaeniad daearyddol hwnnw o ran buddsoddi, gan gofio y bydd rhai cymunedau yn cael eu taro'n arbennig o galed hefyd gan ganlyniadau economaidd coronafeirws. Ac, wrth gwrs, mae gennym ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sy'n cynnwys biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad posibl hefyd, ac fe fydd hwnnw'n bwysig iawn.
Yn olaf, fe ddylwn i grybwyll, wrth gwrs, fod ein cynlluniau ni'n parhau ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Fe fyddai ein cynlluniau ni yng Nghymru yn gwario £2 biliwn dros y pum mlynedd nesaf, ac rwyf i o'r farn fod y lefel honno o uchelgais yn anferthol o'i chymharu â'r hyn a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe i Loegr.
Unwaith eto, diolch i chi am yr ateb hwnnw. Un peth y byddwn i'n ei ddweud: gyda'r cynlluniau blaenorol i ddatblygu seilwaith a oedd ar waith, mae angen eu bwrw nhw i ebargofiant, o gofio maint ein dealltwriaeth ni nawr o'r her sydd o'n blaenau, sydd ar lefel wahanol i'r hyn a welsom ni o'r blaen. Mae angen adeiladu o'r newydd.
Yn olaf, fe hoffwn i roi ystyriaeth i'r ffaith, wrth i fusnesau ailagor yn raddol, nad yw pob un ohonyn nhw'n gallu symud ar yr un cyflymder ag eraill. Un pecyn cymorth a fu'n achubiaeth, wrth gwrs, oedd y grantiau ardrethi annomestig. A fydd yna gylch arall o grantiau ardrethi annomestig ar gael i'r busnesau hynny nad ydyn nhw'n gallu ailagor? A hefyd, o ran twristiaeth a lletygarwch yn benodol—sy'n wynebu blwyddyn gyfan o elw bach iawn, hyd yn oed os yw rhai ohonyn nhw'n gallu agor nawr—pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pecyn cymorth ariannol ar gael i'r sectorau hyn ac ar gyfer y tymor hwy, a hynny ar fyrder?
Rwy'n mynd i fod yn hollol onest. Fe fydd y lefel o arian y gallwn ni ei roi yn syth ym mhocedi busnesau yma yng Nghymru yn dibynnu, rwy'n credu, i raddau helaeth, ar sut olwg fydd ar ein pecyn ariannol ni yng Nghymru am weddill y flwyddyn. Felly, ddydd Mercher nesaf, fe fyddwn ni'n cael datganiad gan y Canghellor. Fe fydd hwnnw'n nodi'r hyn y gallwn ei ddisgwyl oddi wrth Lywodraeth y DU o ran refeniw ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac rwy'n credu y bydd angen inni edrych ar hynny, o ran yr adferiad, ond hefyd ar y pwysau parhaus y gwyddom ni sydd arnom o ran ymdrin ag argyfwng coronafeirws, nad yw wedi dod i ben eto, er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau symud. Felly, ni allaf roi unrhyw ymrwymiad i grantiau pellach heddiw.
Fodd bynnag, yr hyn y gallaf i ei ddweud yw ein bod yn cydnabod pa mor bwysig y mae'r cynllun cadw swyddi coronafeirws wedi bod ar gyfer sectorau penodol. Fe ysgrifennodd Ken Skates a minnau ar y cyd at y Canghellor ynglŷn â'r pwynt penodol hwn, gan bwysleisio'r angen am gefnogaeth barhaus i sectorau penodol—gan roi twristiaeth yn enghraifft—a hefyd i'r busnesau hynny sy'n parhau i fod yn methu ag agor o ganlyniad i'r cloi neu'r cyfyngiadau sy'n aros ar fathau penodol o fusnesau, ac fe fyddwn ni'n parhau i gyflwyno'r dadleuon hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae'r newyddion diweddar am golli swyddi yn Airbus wedi dangos yr angen am gymorth i fusnesau Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae hynny'n cynnwys cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU ac, wrth gwrs, gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Nawr, o'r addewid o £500 miliwn i'r gronfa cydnerthedd economaidd, mae'n ymddangos mai llai na hanner hynny a ddefnyddiwyd hyd yn hyn. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y modd y mae'r dyraniadau hyn yn gweithio, faint yn union o'r arian hwnnw a gafodd ei wario, a sut ydych chi, fel Gweinidog Cyllid, yn sicrhau bod y dyraniadau yn magu cydnerthedd effeithiol yn y cymunedau yr effeithir arnynt oherwydd cau i lawr a diswyddiadau?
Rwyf i o'r farn fod yr enghraifft a roddodd Nick Ramsey o ran y diwydiant awyrofod yn amlygu'r modd y mae'n rhaid i'n cefnogaeth ni i'r economi yng Nghymru fod yn ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae rhai o'r sectorau hyn a rhai o'r diwydiannau a'r busnesau hyn mor anferthol ac mor strategol bwysig fel ei bod yn bwysig i Lywodraeth y DU ddod i'r adwy hefyd. Fe fuom ni'n siarad am Tata, wrth gwrs, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni weithio gyda'n gilydd i gefnogi busnesau, ac i bob un ohonom wneud ein rhan yn hynny o beth.
O ran y gronfa cydnerthedd economaidd, dim ond rhan ohoni a ddyrannwyd hyd yn hyn, ac mae hynny'n bwysig gan ein bod ni'n awyddus i ddal rhywfaint ohoni yn ei hôl i helpu gyda'r adferiad. Felly, rydym wedi bod yn canolbwyntio yn y tymor byr ar atgyfnerthu busnesau, gan eu helpu nhw i ddod drwy'r argyfwng dybryd, ond mae'n amlwg y bydd yn rhaid i'r pwyslais symud tuag at adferiad a chefnogi busnesau i ffynnu a chefnogi busnesau i ddatblygu.
Rydym hefyd wedi bod yn canolbwyntio llawer ar lenwi'r bylchau hyn, gan felly, unwaith eto, weithio i sicrhau nad yw popeth a wnawn yn atgynhyrchu'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill ond yn ei ehangu. A chredaf fod y ffigur a roddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos bod mwy na 30 y cant o fusnesau Cymru wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn, o'i gymharu â 21 y cant yn yr Alban ac 14 y cant yn Lloegr, yn dangos pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru yn ceisio ategu'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn gallu ei wneud. Felly, fe fydd swyddogaeth bwysig iawn ganddyn nhw o ran Airbus a chyflogwyr mawr eraill.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle wrth ddweud mai dull deublyg yw hwn. Mae'n bwysig ein bod ni, ynghyd ag ymdrechion Llywodraeth y DU, yn gweld y gefnogaeth honno gan Lywodraeth Cymru, fel o'r gronfa cydnerthedd economaidd. Felly, pe byddech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y dyraniadau hynny, fe fyddai hynny o gymorth mawr.
Roeddech chi'n sôn, wrth inni symud oddi wrth y cyfnod clo tuag at ailadeiladu'r economi, na fydd hynny'n ymwneud â gwarchod swyddi sy'n bodoli eisoes yn eu cyfanrwydd—rhaid inni gydnabod na fydd hynny'n bosibl—nac yn ymwneud â dychwelyd yn syml i'r hen ddulliau o weithio. Fe fydd yn cynnwys dyraniadau cyllid hefyd ar gyfer uwchsgilio ein gweithlu fel y bydd yn gwbl barod i ymateb i'r heriau byd-eang sydd o'n blaenau. Yn ôl adroddiad gan y Brifysgol Agored a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf, mae cost prinder sgiliau yn £350 miliwn y flwyddyn i fusnesau Cymru, gyda llawer wedi eu dal mewn maglau sgiliau isel, ac fe fyddwn i'n tybio bod y ffigurau hynny'n waeth byth erbyn hyn gyda'r pandemig wedi para fel y mae. Sut ydych chi'n sicrhau y bydd y dyraniadau a wnaeth y gyllideb atodol ddiweddar yn canolbwyntio'n gywir ar ailadeiladu'r economi, economi fwy gwyrdd a mwy modern yn arbennig felly, fel nad ydym ond yn ymgeisio'n unig am atebion i heriau'r gorffennol ond yn sicrhau y bydd Cymru ar flaen y gad o ran ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau ni?
Ymateb uniongyrchol i argyfwng y pandemig oedd y gyllideb atodol yn anad dim. Felly roedd yn ymateb i'r problemau difrifol yr oeddem yn eu hwynebu, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig ac yn yr awdurdodau lleol, ond ar yr ochr fusnes i bethau hefyd. Felly, rwy'n credu, wrth symud ymlaen, fel y dywed Nick Ramsay, fe fydd y pwyslais ar gyflogadwyedd a sgiliau i raddau helaeth. Mae darn o waith wedi ei wneud ledled Llywodraeth Cymru i archwilio'r hyn y gall gwahanol adrannau ei gynnig o ran agwedd newydd a gweithredol tuag at sgiliau a chyflogadwyedd—felly, o addysg hyd at iechyd, ac yn amlwg mae gennyf innau swyddogaeth ym maes cyllid yn hyn o beth.
Ond yr hyn yr ydym yn awyddus i'w weld yr wythnos nesaf gan y Canghellor yw dull Llywodraeth y DU o ymdrin â sgiliau, oherwydd, unwaith eto, rydym yn dymuno ategu'r hyn a fydd yn digwydd. Felly, os bydd Llywodraeth y DU yn mynd ati i gefnogi sgiliau a chyflogadwyedd drwy'r agenda sgiliau, drwy BEIS, yna fe fyddwn ni'n cael swm canlyniadol o hynny a gallwn wneud rhai o'n pethau ni ein hunain yma. Ond pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu ei bod yn well gwneud y gwaith hwn drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau, ni fyddem ni'n cael unrhyw swm canlyniadol wedyn. Felly, rydym yn dal yn ôl o ran ein cynllun sgiliau a chyflogadwyedd ac yn ymatal rhag dweud mwy am hwnnw nes y byddwn ni'n gwybod a fydd yr arian ar gael inni wneud y penderfyniadau hyn neu beidio, neu a fydd angen inni weithio gyda'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn penderfynu ei wneud drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y datganiad economaidd ddydd Mercher nesaf yn rhoi digon o eglurder i ni.
Diolch. Mae'n amlwg y bydd gennyf i lawer mwy o gwestiynau i chi ar ôl y datganiad economaidd ddydd Mercher nesaf—mae hynny'n amlwg iawn. Gweinidog, yn olaf gennyf i heddiw, a chyda fy het arall am fy mhen sef un Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fe fyddech chi'n disgwyl imi ofyn am adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, sef bod grantiau gwerth £53 miliwn ar gyfer hybu'r economi wledig wedi eu rhoi gan Lywodraeth Cymru heb fod swyddogion wneud sicrhau gwiriadau digonol i sicrhau gwerth am arian. Nawr, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ystyried yn ei amser ei hun, ond rwy'n credu bod yr arwyddion cychwynnol na allai Llywodraeth Cymru ddangos ei bod wedi ystyried a gafwyd canlyniad llwyddiannus i wariant £25 miliwn o grantiau yn peri pryder neilltuol. Sut y gall y cyhoedd fod yn hyderus a sut y gallwch chi sicrhau'r cyhoedd unwaith eto fod y rhaglenni y crybwyllais i ac yr ydym ni wedi eu trafod heddiw, fel y gronfa cydnerthedd economaidd, prosiectau i roi'r economi ar y trywydd iawn eto, yn golygu gwerthuso a monitro arian cyhoeddus yn effeithiol? A sut, fel ar hyn o bryd, pan fo arian yn brin, y gallwn ni weld y canlyniad gorau o bob punt a gaiff ei gwario yng Nghymru ac y bydd y trethdalwr yn gweld gwerth am arian o ran datblygu'r economi newydd hon sy'n fwy gwyrdd, ac sy'n ymateb i'r heriau hynny sydd mor bwysig i ysgogi economi Cymru?
Felly, rydym yn ddiolchgar i Archwilio Cymru am yr adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato, ac fe wn i y bydd swyddogion yn dod i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oherwydd yr adroddiad hwnnw a'r asesiad sydd ynddo o werth am arian drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig, ac rwy'n credu mai dyna'r lle gorau i gael y trafodaethau manwl a fforensig hynny. Ond mae'n bwysig cydnabod, yn rhan o'n hadolygiad parhaus ni o'r broses o gyflawni'r Cynllun Datblygu Gwledig, fod swyddogion eisoes wedi nodi'r materion a ddisgrifiwyd yn adroddiad Archwilio Cymru a'u bod wedi cymryd camau i'w cywiro. Ac, fel yr eglura'r adroddiad, ni chafodd y mater o werth am arian ei brofi wrth arfarnu'r prosiectau hynny. Ac felly fe adolygwyd y prosiectau hyn dan sylw i sicrhau eu bod nhw'n profi eu gwerth am arian a, lle'r oedd hynny'n briodol, fe gymerwyd camau i sicrhau eu bod yn profi eu gwerth am arian, gan gynnwys ail-dendro rhai o'r prosiectau hynny. Ond wrth gwrs, ers hynny, fel y dywedais, rydym wedi nodi'r materion hynny; rydym wedi dysgu ein gwersi.
Fe gyhoeddwyd canllawiau newydd i'r sawl sy'n llunio polisi, sef 'Gwerth am Arian mewn Cyfnod Heriol: Egwyddorion Economaidd Allweddol'. Maent yn nodi'r egwyddorion economaidd allweddol hynny a all, o'u dilyn, sicrhau gwerth mawr am arian. Yn ogystal â hynny, cyhoeddwyd hysbysiad cyllid diwygiedig, 'Gwneud yn Fawr o Gronfeydd Llywodraeth Cymru', ac mae hwnnw'n rhoi'r cyngor sydd ei angen ar gydweithwyr polisi i sicrhau bod llawer mwy o bwyslais ar werth am arian. Ac mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd ar ddatblygu modiwl gwerth am arian i'r hyfforddiant cyllid craidd gorfodol ar gyfer uwch weision sifil Llywodraeth Cymru ac, i'r dyfodol, i gyflwyno hyfforddiant cyfatebol ar gyfer staff ar fandiau gweithredol. Felly, rydym yn gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth sifil yn deall ystyr cael gwerth am arian yn iawn ac yn ymarfer hynny'n briodol.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
A wnaiff y Gweinidog cyllid ddatganiad ar ei hasesiad diweddaraf o'r swm o refeniw treth y byddwn ni'n ei golli oherwydd ymestyn a chaethiwo'r cyfnod clo i raddau mwy helaeth yng Nghymru nag a wnaeth Llywodraeth y DU yn Lloegr, ac a wnaiff hi egluro pa gyfradd o warchodaeth drosiannol sydd gennym dros refeniw i Drysorlys Cymru o'r dreth trafodiadau tir a chyfraddau Cymru o dreth incwm? Ac a wnaiff hi roi cyngor hefyd ynghylch a oes yna unrhyw risg y gallem gael ein dal gan y rheol 'dim niwed' o ran refeniw'r DU o dreth incwm a godir yng Nghymru os bydd penderfyniadau ei Llywodraeth hi i gadw at y cyfnod clo yn effeithio'n sylweddol ar hyn?
Rwy'n diolch i Mark Reckless am y cwestiynau yna. Rwy'n credu y gellir dweud dau beth. Y cyntaf yw y bydd trethi Cymru yn cael eu heffeithio gan y coronafeirws, ond mae'n amhosibl dweud ar hyn o bryd i ba raddau y bydd hynny ac i ba raddau y bydd hyn yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr. Rwy'n credu ei bod yn werth inni ystyried y ffaith nad yw'r hyn a wnawn ni mor wahanol ag yr awgrymir i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Dim ond ychydig wythnosau o amrywiaeth sydd mewn rhai agweddau i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, ac rydym yn gweld rhai rhannau o Loegr yn cael cyfnodau clo sy'n lleol. Felly, fe fydd yna bob math o wahanol ystyriaethau ar waith yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni a fydd yn effeithio ar drethiant. Ond, yn gyffredinol, fel y gŵyr Mark Reckless, rydym yn cael ein diogelu rhag ergydion economaidd ledled y DU drwy addasiadau i'r grant bloc, ac felly nid wyf i o'r farn y bydd yr effaith ar dreth trafodiadau tir, er enghraifft, neu'r dreth gwarediadau tirlenwi yn sylweddol.
Rydym ni i gyd yn gefnogol i'r cynllun ffyrlo a chadw swyddi, o leiaf fel y mae wedi gweithredu hyd yma. A gaf i ofyn i'r Gweinidog Cyllid egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar unrhyw barhad posibl? Fe gafodd y cynllun ei gyflwyno am ychydig o fisoedd i ddechrau ar gyfer sicrhau nad oedd pobl yn colli eu swyddi, a'u bod yn parhau mewn cysylltiad â'u cyflogwr yn y berthynas gontractiol honno, fel y gallai'r economi ailgychwyn yn gyflym, gyda'r gobaith o adferiad siâp v. Roedd y Prif Weinidog yn gynharach, serch hynny, yng nghyd-destun Airbus ym Mrychdyn, rwy'n credu—. Rwy'n gweld y cafodd Ryanair ei hysbysu na ddylai hedfan o Gaerdydd heddiw, er fy mod i'n credu, gan eu bod yn defnyddio awyrennau Boeing yn unig, efallai nad yw hynny'n broblem. Ond, os yw'r diwydiant awyr yn mynd i gymryd blynyddoedd lawer i adfer a bod y galw yn mynd i fod yn llawer is nid am fisoedd, ond am flynyddoedd, onid yw'n anochel y bydd cynhyrchiant awyrennau yn gostwng yn sydyn ac yn aros yn is am gyfnod hir? Ac yn yr amgylchiadau hynny, a oes angen inni edrych ar ddiben arall ar gyfer y cynllun ffyrlo, ac os oes unrhyw estyniad, a ydych chi'n awgrymu y dylai hynny fod ar gyfer cadw pobl yn y diwydiannau yr effeithir arnyn nhw fwyaf ar ffyrlo am gyfnod o flynyddoedd? Neu a ydych chi'n cydnabod, ar gyfer y bobl sydd mewn diwydiannau yr effeithir arnyn nhw'n ddybryd am gyfnod hir, neu i rai o'r bobl hynny, o leiaf, y gallai fod yn well iddynt ailhyfforddi a manteisio ar gyfleoedd a cheisio datblygu gyrfaoedd mewn gweithleoedd eraill os yw'r effaith yn mynd i fod mor ddifrifol ac mor hirdymor?
Credaf mai'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w osgoi yw pobl ar ymyl y dibyn. Felly, mae'n siŵr eich bod wedi gweld y datganiad a gyflwynodd Ken Skates o ran awyrennau a'r diwydiant awyrofod yma yng Nghymru a pha mor bwysig yw hynny, ac wedi clywed yr hyn a ddywedais i wrth Nick Ramsay ynglŷn â pha mor bwysig ydyw fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda'i gilydd. Felly, o ran y cynllun cadw swyddi, rwy'n credu fod yna achos i ddiwydiannau a gafodd eu taro'n arbennig o galed allu cael cymorth am gyfnod hwy, ac mewn gwirionedd roedd hedfan yn un o'r sectorau hynny, ac fe soniodd Ken Skates a minnau am hyn, ynghyd â thwristiaeth, yn ein llythyr ni at y Canghellor. Mae angen i ddau beth ddigwydd ar yr un pryd: mae angen cynnal pobl gyda'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ond mae angen creu swyddi newydd hefyd ac mae angen dod o hyd i gyfleoedd newydd i bobl oherwydd, hyd yn oed mewn amgylchiadau arferol, mewn wythnos arferol, rydym yn colli 2,000 o swyddi yma yng Nghymru ond fe fydd 2,000 arall yn cael eu creu. Felly, mae angen sicrhau bod y llif o swyddi newydd yn dod yn gyson, ac rwy'n ymwybodol iawn, yn enwedig gydag Airbus, er enghraifft, fod yr unigolion yn y fan honno â sgiliau uchel iawn. Ac rwy'n credu bod angen sicrhau bod y math o gyflogaeth yr ydym ni'n gallu ei gynnig yn y dyfodol yn parhau i fod mewn swyddi sgiliau uchel sy'n talu'n dda.