Effaith COVID-19 ar Bolisi Trethu Lleol

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 12:44 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 12:44, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn cydweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol i fonitro effaith COVID-19 ar yr incwm a ddaw o drethiant lleol. Mae ein pecyn rhyddhad ardrethi'n rhoi £580 miliwn o gymorth i dalwyr ardrethi yn ystod 2020-21, ac mae ein cynllun ni o ostyngiadau yn y dreth gyngor yn estyn cymorth gwarantedig i aelwydydd ar incwm isel.