4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar ei pholisi trethu lleol? OQ55374
Rydym yn cydweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol i fonitro effaith COVID-19 ar yr incwm a ddaw o drethiant lleol. Mae ein pecyn rhyddhad ardrethi'n rhoi £580 miliwn o gymorth i dalwyr ardrethi yn ystod 2020-21, ac mae ein cynllun ni o ostyngiadau yn y dreth gyngor yn estyn cymorth gwarantedig i aelwydydd ar incwm isel.
Diolch, Gweinidog. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferthion ariannol cyn y pandemig. Roedd gwasanaethau'n cael eu torri, ac eto roedd ein hetholwyr ni'n gweld eu biliau treth gyngor yn cynyddu ar raddfa eithriadol. Mae'r coronafeirws wedi rhoi straen enfawr ar awdurdodau lleol gan mai y nhw sydd ar y rheng flaen o ran amddiffyn y cyhoedd rhag y pandemig. Mae cynghorau ledled Cymru wedi sefyll yn y bwlch o ran cyflenwi bwyd i'r rhai sy'n cysgodi, o ran cartrefu'r digartref ac olrhain y bobl sy'n sâl. Fe fydd gwasanaethau cyngor yn costio mwy nag yr oedden nhw cyn y pandemig, gan fod yn rhaid rhoi ystyriaeth i gost y mesurau lliniaru. Gweinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i bobl Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gost ychwanegol, na fydd y dreth gyngor yn codi o ganlyniad i hyn, ac na fydd yn rhaid i'm hetholwyr i—y mae llawer ohonyn nhw'n cael trafferthion ariannol eisoes—dalu'r bil? Diolch.
Rwy'n diolch i Caroline Jones am godi'r mater hwn. Mae cyllid Llywodraeth Leol yn arbennig o bwysig yn ystod argyfwng COVID-19, gan mai Llywodraeth Leol, ochr yn ochr â'u cydweithwyr ym maes iechyd, sydd ar y rheng flaen o ran cefnogi ein pobl a'n cymunedau ni. A dyna un o'r rhesymau pam rwyf wedi gallu cydnabod y pwysau hwnnw drwy roi dros £180 miliwn hyd yn hyn i gronfa caledi llywodraeth leol. Mae'r gronfa honno'n caniatáu i awdurdodau lleol ledled Cymru ddefnyddio cyllid i'w cefnogi nhw, er enghraifft, wrth dalu'r costau ychwanegol wrth ddarparu gofal cymdeithasol, wrth ddarparu llety ychwanegol i helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd, ac i'w helpu hefyd yn eu dyhead i gefnogi teuluoedd ar incwm isel sydd bellach yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Yn ogystal â hynny, rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol wedi gweld colli cryn dipyn o incwm hefyd. Mewn amseroedd cyffredin, fe fyddai awdurdodau lleol yn cael incwm o'r canolfannau hamdden, y gwasanaethau arlwyo y maen nhw'n ei ddarparu ac o barcio ac ati. Felly, mae swm sylweddol o'r £180 miliwn hwnnw yno hefyd i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r incwm y maen nhw wedi ei golli eleni. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu sicrhau nad yw awdurdodau lleol wedi gweld 10 mlynedd tebyg i'r rhai a welodd awdurdodau lleol dros y ffin yn Lloegr, sy'n golygu eu bod nhw mewn sefyllfa well i wynebu'r argyfwng hwn, ond rwy'n cydnabod yn llwyr fod angen iddyn nhw wneud hynny gyda Llywodraeth Cymru yn bartneriaid iddyn nhw.
Mae Caroline Jones wedi canolbwyntio ar y dreth gyngor o ran y mater o drethiant lleol. Os caf i ganolbwyntio ar ochr ardrethi busnes, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro byd am edrych ar strwythur ardrethi busnes yng Nghymru a chymorth ardrethi busnes yn ei gyfanrwydd, gyda'r posibilrwydd o ryddhau busnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 yn gyfan gwbl rhag gorfod ei dalu.
Gweinidog, rwy'n sylweddoli bod angen ichi gadw'r cydbwysedd yn ofalus iawn ar hyn o bryd, rhwng sicrhau bod gan awdurdodau lleol y gyfradd gywir o drethiant a bod busnesau yn cael eu cefnogi. A gaf i ofyn, wrth inni ddod allan o'r pandemig a'r cyfyngiadau symud, eich bod chi'n edrych eto ar y ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio yng Nghymru, fel y bydd y busnesau hynny sydd ag angen cymaint o arian ag sy'n bosibl ar hyn o bryd i fuddsoddi yn y dyfodol a chyflogi pobl yn gallu gwneud hynny? Ac rwy'n credu bod edrych ar y drefn ardrethi busnes yn ei chyfanrwydd ac ysgafnu'r baich ar fusnesau yn un ffordd o wneud hynny.
Rwy'n awyddus iawn i archwilio beth arall y gallem ni ei wneud neu ei wneud yn wahanol, mewn gwirionedd, ym maes cyllid llywodraeth leol, ac yn benodol wrth gwrs ardrethi annomestig, ond hefyd y dreth gyngor, oherwydd dyna'r ddau biler sy'n cynnal llywodraeth leol. Dyna un o'r rhesymau i mi gomisiynu amrywiaeth o waith ymchwil a fydd yn ein helpu ni i ddeall beth yw'r dewisiadau i'r dyfodol. Felly, mae gennym ni Brifysgol Bangor yn edrych ar botensial treth gwerth tir lleol ac fe wnaethom ni gyhoeddi'r adroddiad hwnnw ym mis Mawrth eleni. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi gwneud rhyw gymaint o ymchwil i ailbrisio a diwygio'r dreth gyngor, ac fe gyhoeddwyd hwnnw ym mis Ebrill eleni. Ac yna mae Polisi ar Waith wedi bod yn gweithio, gan edrych ar gynllun gostyngiadau yn y dreth gyngor. Cyhoeddwyd adroddiad interim ym mis Ionawr ac rydym ni'n disgwyl i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn fuan iawn. Ac yna mae darn arall o waith yr ydym ni'n ei ddisgwyl ym mis Medi sy'n ystyried trethi lleol yn seiliedig ar incwm, felly fe fyddai hwnnw'n ddull radical iawn yn hynny o beth.
Rwy'n awyddus iawn i'r holl ddarnau hyn o ymchwil fod ar gael i'r cyhoedd—yno er mwyn i bob plaid a phawb sydd â diddordeb fod yn eu hystyried nhw cyn yr etholiadau nesaf i'r Senedd, fel y gallwn ystyried y ffordd ymlaen. Nid oes gennyf i ddiddordeb mewn newid o ran newid, ond rwy'n cydnabod bod yna welliannau sylweddol y gallwn ni barhau i'w gwneud i drethi annomestig a'r dreth gyngor.