Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:24 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch, Gweinidog. Fel y gwyddoch, fe ddaeth symiau o arian i dynnu dŵr o'r llygaid gan Lywodraeth y DU i helpu economi Cymru yn ystod y cyfnod cloi, yn ogystal â'ch Llywodraeth chi'n ail-greu ac yn ail-gynllunio cyllidebau a chronfeydd sy'n bodoli eisoes. Fe all unrhyw un sy'n rheoli cyllideb aelwyd weld y bydd effaith ganlyniadol ar gyllidebau Cymru yn y dyfodol a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cefnogi. Pa mor ddwfn y bydd yn rhaid i'r cyhoedd yng Nghymru fynd i'w pocedi o ran cyfradd uwch o dreth incwm yn nhymor nesaf y Senedd? Diolch.